pumpkin.jpg

This event has passed

Mae'r cyfarfod hwn wedi'i anelu at dyfwyr sefydledig sy'n rhan o Rwydwaith Pwmpen Tyfu Cymru neu a hoffai ymuno â’r Rhwydwaith honno.

Bydd Chris Creed (Uwch Ymgynghorydd Garddwriaeth, ADAS) yn cyflwyno gweithdy rhyngweithiol a fydd yn paratoi tyfwyr ar gyfer tymor pwmpenni llwyddiannus yn 2021. Bydd yn trafod cynnydd cnwd ar draws Cymru, gan edrych ar lefelau cnydau ac aeddfedu. Bydd hefyd yn ymdrin â materion yn ymwneud â phrofiadau fferm, rheoli torf, marchnata, a thrafod manteision ac anfanteision systemau archebu. Yn olaf, bydd yn siarad am broblemau cynhyrchu a chyflenwadau atodol posibl lle mae'r cnwd wedi tanberfformio.

Cynhelir y sesiwn hon yn Saesneg. Os byddai'n well gennych gyrchu'r sesiwn hon yn Gymraeg, rhowch wybod i ni os gwelwch yn dda, trwy e-bostio: tyfycymru@lantra.co.uk