question mark.PNG

This event has passed

Bydd David Talbot yn cynnal sesiwn gynghori rithwir yn benodol ar gyfer y rhwydwaith blodau.

David yw un o'n harbenigwyr Garddwriaethol blaenllaw; mae’n Ymgynghorydd garddwriaeth ar gyfer ADAS sy'n arbenigo ym mhob agwedd o gynhyrchu cnydau addurnol.

Mae'r sesiwn hon yn gyfle perffaith i'r rhwydwaith blodau ofyn unrhyw gwestiynau garddwriaethol technegol. Boed hynny’n ymwneud â phroblem plâu a chlefydau, chwyn afreolus neu’n gyngor ar dyfu cnwd penodol ac ati. Os ydych am anfon unrhyw gwestiynau neu ffotograffau ymlaen llaw, anfonwch nhw i tyfucymru@lantra.co.uk

Peidiwch â cholli'r cyfle hwn i gael y cyngor garddwriaethol y gallai fod ei angen arnoch!

I gofrestru i fynychu'r gymhorthfa rithwir, rhowch eich manylion yma

Os nad ydych wedi cofrestru gyda'r prosiect eto, cwblhewch ein hadolygiad busnes a byddwn yn cysylltu â chi i gadarnhau. Hefyd, os hoffech gael eich ychwanegu at y rhwydwaith blodau, anfonwch e-bost at y tîm.

Fel yr holl hyfforddiant a ddarperir gan Tyfu Cymru, mae ein cymhorthfa rithwir yn cael ei hariannu'n llawn gan y prosiect.