IO5A6795.jpg

Please note: this session is fully subscribed. To be added to the waiting list or to express your interest in future seed training please email sarah.dummett@lantra.co.uk 

Gall cynhyrchu cnwd hadau peilliad agored ar eich fferm wella ansawdd eich cnydau yn y dyfodol, helpu planhigion i ymaddasu i amodau lleol, a rhoi cyfle i chi gael sgiliau newydd ac amrywiadau newydd o blanhigion. Gall cynhyrchu hadau ddod â ffrwd incwm newydd i’ch fferm hefyd, trwy dyfu i gontract neu werthu’n uniongyrchol yn y dyfodol.

Mae ein rhaglen hyfforddi 12 mis ar gynhyrchu hadau wedi’i chynllunio i roi’r adnoddau i chi dyfu cnydau hadau llysiau peilliad agored mewn ffordd effeithiol. Mae’r cwrs yn cael ei ddarparu fel partneriaeth rhwng Tyfu Cymru a Rhaglen Sofraniaeth Hadau’r Deyrnas Unedig. Byddwn yn croesawu athrawon o’r tu allan i arwain ar bynciau penodol, ynghyd â gweithio’n agos gyda hyfforddwyr arbenigol o’r Llyfrgell Hadau Treftadaeth.

Bydd y sesiwn cyntaf hwn yn edrych ar gefndir y Rhaglen Sofraniaeth Hadau a’r bartneriaeth gyda Tyfu Cymru. Bydd yn edrych ar gyfleon mewn meysydd fel addasu’r fferm, cyfnewid hadau, gwerthu hadau, magu planhigion cyfranogol ac amrywiaeth enynnol.

Trosolwg:

  • Hanes Hadau
  • Tirwedd Wleidyddol Hadau
  • Arferion tyfu agro-ecolegol

Mae’r Gweminar hwn yn rhan o’r Rhaglen Hyfforddiant Hadau Planhigion Canolradd