Mae plaleiddiaid yn nodwedd bwysig o frwydrau llawer o dyfwyr cynnyrch ffres yn erbyn plâu, clefydau a chwyn. Fodd bynnag, maent yn gallu peri problemau, sydd wedi arwain at lawer o ddeddfwriaeth o ran eu defnydd a sut i’w rheoli. Ymunwch â ni ar gyfer y gweminar hwn lle bydd Malcolm Laidlaw yn trafod gofynion plaleiddiaid y Tractor Coch, ac yna bydd Chris Creed yn edrych ar rai o agweddau ymarferol storio a defnyddio plaleiddiaid.
Holi’r arbenigwyr: Plaleiddiaid – sicrhewch eich bod yn cydymffurfio’n llawn
28 Ebrill 2021, 12-1pm | Zoom