Chris Chreed yw un o’n harbenigwyr garddwriaeth mwyaf blaenllaw; yn Uwch Ymgynghorydd Garddwriaeth i’r Gwasanaeth Datblygu a Chynghori Amaethyddol sy’n meddu ar gyfoeth o wybodaeth am amrywiaeth o blanhigion, ffrwythau a llysiau. Gallwch chi ddarllen mwy am ei brofiad yma.
Mae Chris yn cynnal cymhorthfa ar-lein i dyfwyr masnachol (sydd wedi cofrestru â Tyfu Cymru). Y syniad yw eich bod yn galw draw yn ystod yr awr i ofyn am ei gyngor. Pan fyddwch chi wedi cael y cyngor sydd ei angen arnoch chi, rydych chi’n rhydd i adael y sesiwn.
Er mai digwyddiad galw draw yw hwn, rydyn ni’n gofyn i chi gofrestru er mwyn cymryd rhan. Nodwch eich manylion yma.
Peidiwch â cholli’r cyfle hwn i gael y cyngor technegol garddwriaethol sydd ei angen arnoch chi!
Os nad ydych chi wedi cofrestru gyda’r prosiect eto, llenwch ein hadolygiad busnes a byddwn yn cysylltu â chi i gadarnhau. Yn yr un modd â’r holl hyfforddiant a ddarperir gan Tyfu Cymru, bydd ein cymhorthfa ar-lein yn cael ei hariannu’n llwyr gan y prosiect.
Galw draw – Cymhorthfa Ar-lein gyda Chris Creed
3rd March 2021, 12-1pm | Zoom
