Mae’r Dosbarth Meistr byr hwn yn cael ei ddarparu fel rhan o’r Fforwm Arweinwyr newydd ar gyfer perchnogion, uwch reolwyr a darpar reolwyr busnesau garddwriaeth uchelgeisiol yng Nghymru.
Rydym wrth ein bodd bod Evan Williams, ymgynghorydd hyfforddiant datblygu ariannol a busnes blaenllaw ac anogwr busnes profiadol yn ymuno â ni i gyflwyno'r sesiwn ddysgu awr o hyd hon.
Ymunwch â ni ar 24 Mehefin 2021 am 2pm ar gyfer ein gweminar am ddim i ddarganfod sut y gall eich busnes garddwriaeth ddefnyddio'r model GROW i ddatrys problemau, gwneud penderfyniadau allweddol a gwireddu eich nodau.
Unwaith y byddwch wedi penderfynu ar weledigaeth, cenhadaeth a gwerthoedd eich busnes, mae cynllunio busnes yn eich helpu i nodi eich amcanion ac yn cefnogi cynllunio ariannol.
Gan ddefnyddio'r Model GROW fel man cychwyn, bydd y dosbarth meistr hwn yn eich helpu i osod amcanion realistig a heriol, edrych ar realiti ble mae eich busnes, eich helpu i benderfynu pa strategaeth fydd o fudd gorau i'ch busnes ac edrych ar sut y gallwch roi cynllun gweithredu ar waith i fynd â'ch busnes i'r lefel nesaf.
Byddwn yn edrych ar sut i feddwl yn strategol ac yn greadigol am arferion busnes i ddatblygu a gwella meysydd sgiliau, gan helpu eich taith fusnes drwy ddiffinio eich man cychwyn (realiti) a chyrchfan clir (nodau).Cyflwynir gan: Iain Cox, Cyfarwyddwr Busnes Cynaliadwy, Ecostudio
Gellir dod o hyd i fywgraffiad Evan yma.
_Mae Fforwm Arweinwyr Garddwriaeth yn rhad ac am ddim i fusnesau Cymru.
• Dysgwch gan arweinwyr y diwydiant a hyfforddwyr arbenigol drwy gyfres o sesiynau panel a dosbarthiadau meistr bychain
• Cewch fynediad i hyfforddiant arweinyddiaeth 1-i-1 gan fentoriaid profiadol.
Gwiriwch eich cymhwysedd a chofrestrwch ar gyfer y digwyddiad hwn nawr drwy gwblhau'r arolwg 2 funud y gellir cael mynediad iddo yma.
Os ydych wedi cofrestru ar gyfer y Fforwm Arweinwyr Garddwriaeth o'r blaen, byddwn yn cysylltu â chi ynglŷn â'r digwyddiad hwn yn uniongyrchol ac nid oes angen i chi gwblhau'r arolwg.
Fforwm Arweinwyr Garddwriaeth - Dosbarth Meistr Datblygu Busnes 1
24th June 2021, 2pm | Zoom
