Evan Williams

Business & Training Consultant

Rhwng 1988 a 2013, bu Evan yn gweithio yn Barclays Bank PLC. Ar adeg ei ymadawiad roedd yn Gyfarwyddwr Credyd Cysylltiol, yn rhedeg tîm o ddeuddeg o danysgrifenwyr yn benthyca dros £300m y mis. Cyflwynodd Evan brosesau a systemau safonol ar draws y swyddogaeth credyd corfforaethol a weithredwyd ledled y wlad ac maen nhw’n dal i fod ar waith heddiw.

Yn 2014 sefydlodd Evan Ymgynghoriaeth Ddysgu yn darparu gweithdai e-ddysgu a datblygu i sawl sefydliad ac asiantaeth gymorth aml-genedlaethol, gan gyflwyno rhaglenni hyfforddi a datblygu pwrpasol i gefnogi eu cynlluniau twf.

Bu Evan hefyd yn gweithio fel Ymgynghorydd yn Busnes Cymru, gan arwain Gweithdy Hanfodion Twf Busnes Busnes Cymru.

Ochr yn ochr â'i rôl bresennol mae Evan yn Gadeirydd ac yn Gyfarwyddwr Anweithredol Theatr Iolo, cwmni theatr arobryn sy'n perfformio ledled y byd ac sy'n rhoi cymorth i dalent ifanc, newydd.

Mae'n Gydymaith y Sefydliad Rheoli Credyd Siartredig (CICM) ac yn Gydymaith y Sefydliad Bancio a Chyllid Siartredig (CIBF).