Ymunwch â ni ar 26ain Awstu am 10am ar gyfer ein gweminar am ddim i ddarganfod sut y gall eich busnes garddwriaeth fanteisio ar y galw sylweddol a chynyddol am gynnyrch cynaliadwy. Cofrestrwch Yma
Wedi'i gyflwyno gan Sarah Gould o Tyfu Cymru, rydym wrth ein bodd y bydd Iain Cox, ymarferydd cynaliadwyedd arobryn, anogwr busnes profiadol, yn ymuno â ni i gyflwyno'r sesiwn ddysgu awr hon. Gellir dod o hyd i fywgraffiad Iain yma.
Mae cynaliadwyedd yn bwnc llosg ym maes garddwriaeth gyda phrynwyr a defnyddwyr yn chwilio fwyfwy am fusnesau sy'n dangos arferion amgylcheddol ac effeithiau cymdeithasol cadarnhaol.
Bydd y dosbarth meistr hwn yn cyflwyno dull profedig o'ch arfogi â'r gwybodaeth ymarferol ynghylch sut i gynnwys cynaliadwyedd yn eich busnes garddwriaeth. O dyfu heb fawn, osgoi pecynnu plastig, i ddefnyddio dŵr ac ynni yn effeithlon, a sut rydych yn ymgysylltu â staff, cyflenwyr a chwsmeriaid.
Dyma'r 2il mewn cyfres o Ddosbarthiadau Meistr bach eu maint sy'n cael eu cyflwyno fel rhan o'r Fforwm Arweinwyr newydd ar gyfer perchnogion, uwch reolwyr a darpar reolwyr o fusnesau garddwriaeth uchelgeisiol yng Nghymru.
Mae Fforwm Arweinwyr Garddwriaeth yn rhad ac am ddim i fusnesau Cymru.
• Dysgwch gan arweinwyr y diwydiant a hyfforddwyr arbenigol drwy gyfres o sesiynau panel a dosbarthiadau meistr bychain
• Cewch fynediad i hyfforddiant arweinyddiaeth 1-i-1 gan fentoriaid profiadol.
Fforwm Arweinwyr Garddwriaeth: Dosbarth Meistr Busnes Cynaliadwy
26ain Awstu 2021, 10am | Zoom
