Iain Cox

Cyfarwyddwr Busnes Cynaliadwy, Ecostudio

Mae profiad Iain mewn helpu sefydliadau i roi cynaliadwyedd ar waith. Sefydlodd Ecostudio, yn 2008, a thros y blynyddoedd mae wedi cynllunio rhaglenni, cynghori llunwyr polisi a chyflwyno prosiectau sy'n helpu busnesau i greu brandiau, cynhyrchion, pecynnau a gwasanaethau cyfrifol sy'n isel o ran eu heffaith amgylcheddol a'n uchel o ran gwerth cymdeithasol. Ar hyn o bryd mae'n gweithio'n bennaf gyda sefydliadau tir, garddwriaeth a chadwyni cyflenwi bwyd yng Nghymru a thu hwnt. Yn 2016 enillodd wobr 'Hyrwyddwr Cynaliadwyedd' cenedlaethol am ei waith arloesol a'i arweinyddiaeth yn y sector.