Propagation.jpg

This event has passed

Yn draddodiadol, roedd cynhyrchwyr planhigion addurnol yn arfer lluosogi llawer o’u stoc eu hunain, fodd bynnag, yn y blynyddoedd diwethaf mae rhai tyfwyr wedi mabwysiadu rôl i orffen tyfu’r planhigion; gan brynu eu holl ddeunydd planhigion ifanc.  Mae cynhyrchwyr planhigion ifanc arbenigol, yn enwedig yn y sector gwely planhigion, yn defnyddio prosesau awtomatiaeth gyda lefel uchel o effeithlonrwydd sydd bron yn amhosibl i’w hefelychu.  Mae llawer o gynhyrchwyr stoc meithrinfa caled wedi cynnal a chadw cyfleusterau a sgiliau lluosogi mewnol ac wedi lluosogi canran o’u stoc yn fewnol ac wedyn prynu llinellau eraill i mewn fel planhigion ifanc mewn plygiau neu leinin.  Mae pryderon ynghylch iechyd planhigion a phris/argaeledd stoc ar ôl Brexit, yn ogystal â’r angen i gynnal llif arian yn sgil effaith Covid-19, wedi arwain at fwy o awydd i luosogi rhai llinellau’n fewnol.  Gellir ystyried amrywiaeth o dechnegau lluosogi a systemau cynhyrchu er bod rhai yn fwy addas ar gyfer rhai rhywogaethau; mae manteision ac anfanteision i’r rhan fwyaf o systemau.  Mae amseru’n hollbwysig er mwyn sicrhau bod toriadau’n cael eu cymryd pan fydd y deunydd lluosogi yn y cyfnod gorau i wreiddio.  Bydd y cyfarfod ar-lein hwn yn canolbwyntio ar fanteision ac anfanteision lluosogi mewnol o’i gymharu â phrynu deunydd planhigion ifanc wedi’i wreiddio, yn ogystal â’r systemau lluosogi amrywiol y gellir eu hystyried ar gyfer rhywogaethau allweddol o stoc meithrinfa caled.