Weed Management.jpg

This event has passed

Mae colledion diweddar mewn chwynladdwyr cyswllt a mwy o gyfyngiadau ar nifer y triniaethau a chyfraddau’r chwynladdwyr gweddilliol sydd ar ôl wedi golygu bod sicrhau’r lefelau gofynnol o reolaeth chwyn yn y caeau ac mewn cynwysyddion tyfu cnydau addurniadol wedi dod yn fwyfwy heriol. Felly, mae angen cynllunio hyn nawr yn fwy nag erioed cyn plannu’r cnwd fel y gellir manteisio i’r eithaf ar bob cyfle i reoli chwyn. Gyda rhai chwynladdwyr, mae angen ystyried gwahanol bethau megis maint y chwyn ac a ydynt yn dal i dyfu, cyn penderfynu ar yr opsiwn rheoli gorau. Fel arfer, mae llunio rhaglen gadarn o chwynladdwyr tua deg gwaith yn rhatach o’i gymharu â chwynnu â llaw yn unig. Fodd bynnag, mae angen i ddulliau fel chwynnu â llaw weithio ochr yn ochr â rhaglenni chwynladdwyr er mwyn cael y canlyniadau gorau. Bydd y cyfarfod ar-lein hwn yn canolbwyntio ar fanteision ac anfanteision gwahanol ddulliau rheoli chwyn gan amlinellu’r defnydd o chwynladdwyr cyswllt allweddol a chwynladdwyr gweddilliol.