Wrth i’r galw gynyddu am gynnyrch y DU a Chymru a phrofiadau dyddiau allan, rydym yn gyffrous i gynnig y rhwydwaith Pwmpenni.   Wedi’i anelu at dyfwyr pwmpenni a busnesau pigwch eich cynnyrch eich hun, bydd y rhwydwaith yn cynnig hyfforddiant fel prisio, creu profiadau, gwasanaeth cwsmeriaid, ystyriaethau ynglŷn â’r safle, gweithgareddau gwerth ychwanegol a lleihau gwastraff.