Mae DC Gareth Jordan wedi bod yn heddwas ers 13 mlynedd a chyn hynny fe'i cyflogwyd yn y sector TG a Chyn-cyhoeddi ac Argraffu.
Mae bellach wedi'i leoli ym Mhencadlys yr Heddlu yng Nghaerfyrddin, ac mae wedi bod yn ymwneud ag ymchwilio i bob math o droseddau sydd ag elfen seiber iddynt. Mae gan Gareth gyfoeth o wybodaeth am Seiberddiogelwch ac mae'n parhau i ehangu'r wybodaeth hon drwy fod yn rhan o'r ymchwiliad o ddydd i ddydd i droseddau sy'n seiliedig ar seiber.