Download the Toolkit: Christmas Trees - July 20 - Welsh.pdf

Gweler isod i dadlwytho y daflen gyngor dechnegol lawn.

Gwyddon

Dylech edrych yn rheolaidd - bob 7 i 14 diwrnod - ar eich coed am ddifrod gwyddon, er bod tywydd gwlypach yng Nghymru yn gallu lleihau difrod gwyddon. Mae gwyddon troelli conwydd wedi bod yn broblem arbennig yn y de ddwyrain. Mae’r wyau’n gaeafu ac yn deor ddechrau’r gwanwyn, gyda’r gwyddon ifanc yn bwydo ar y blaguriad cyntaf. Mae’r rhain yn atgynhyrchu’n gyflym, ac felly’n mynd drwy sawl cenhedlaeth mewn blwyddyn er mai dim ond yn ystod yr haf a’r hydref y maen nhw’n weithredol ar y cyfan. Maen nhw’n bwydo ar sudd drwy dyllu drwy'r glasgroen, gan adael difrod lliw rhwd ar yr wyneb a gadael y nodwyddau mewn perygl o ddadhydradu mewn tywydd poeth a sych, sy’n cynyddu’r risg y bydd y goeden yn gollwng ei nodwyddau cyn amser. Mae’r amrywiaeth o widdonladdwyr penodol i’w defnyddio i reoli gwiddon troelli conwydd bellach wedi’i gyfyngu i spirodiclofen (Envidor) EAMU (na fydd ar gael mwyach yn y DU o ddechrau'r flwyddyn nesaf) a clofentezine (Apollo 50SC) EAMU. Mae’r naill widdonladdwr a'r llall yn weithredol yn erbyn wyau cynnych yr haf (ond nid wyau sy’n gaeafu) a gwyddon ar y cyfnod symud cynnar iawn (sydd newydd ddod allan o wy). Mae’n bosibl y bydd gwyddonladdwr arall sy’n newydd i’r DU (METI sy’n weithredol ar wyddon troelli conwydd ar bob cyfnod) ar gael cyn bo hir i’w ddefnyddio ar stoc meithrinfa caled awyr agored, yn cynnwys coed Nadolig, acequinocyl (Kanemite), ond mae’n annhebygol y bydd hynny tan 2021 ar y cynharaf.

Llyslau

Llysleuen Ffynidwydd Fawr  (Cinaria confinis) Pla sy’n effeithio ar wir ffynidwydd, ffynidwydd y Cawcasws a ffynidwydd urddasol yn bennaf. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae wedi dod yn broblem gynyddol yn y cyfnod cyn y Nadolig, yn enwedig os yw cwsmeriaid yn mynnu bod plaladdwyr yn cael eu defnyddio dim hwyrach na mis Medi. Gan fod yr oedolyn a’r llyslau ifanc yn bwydo o dan y canghennau neu drwy’r rhisgl ar brif foncyffion coed, gall y llysleuen hon gynhyrchu cawod fêl, ond yn bwysicach yw’r niwed y gall y bwydo ei achosi pan fydd yn bresennol mewn niferoedd mawr. Mae difrod i’r meinweoedd mewnol yn gallu arwain at bantiau a chreithiau ar y pren yn ddiweddarach.

Er bod pryfetach ysglyfaethus sy’n digwydd yn naturiol fel buchod coch cwta, adenydd siderog a phryfed hofran yn gallu rheoli llyslau ffynidwydd mawr, yn aml ceir pla yn gynnar neu’n hwyr iawn yn y flwyddyn pan fydd yr ysglyfaethwyr hyn yn anweithredol, neu pan fydd nifer y llyslau mewn ardaloedd penodol o blanhigfa mor fawr fel nad yw bio-reolaeth yn debygol o roi digon o reolaeth yn gyflym heb achosi rhywfaint o ddifrod i’r coed.

Lindys

Mae’r gwyfyn afal brown golau yn bla cyffredin ar blanhigion cnydau ffrwythau a choed mewn meithrinfeydd ledled y rhan fwyaf o’r DU, gan gynnwys yr Alban. Pla difrifol yn UDA, i ddechrau roedd yn effeithio ar ffynidwydd Douglas oedd yn cael eu tyfu yn goed Nadolig tua phum mlynedd yn ôl, yna dechreuodd gael ei weld yn bla ar ffynidwydd y Cawscasws yn arbennig ond hefyd ffynidwydd Fraser erbyn hyn yn y DU.

Clefydau

Mae tywydd garw yn gallu gwaethygu Necrosis Nodwyddau’r Tymor Presennol yn Ffynidwydd y Cawscasws a Ffynidwydd Urddasol yn ystod cyfnod cynnar twf coed. Cydnabyddir erbyn hyn mai haint ffwngaidd yn y goeden sy’n achosi’r symptomau a welir yn y nodwyddau yr effeithiwyd arnynt ar dwf egin y tymor presennol. Mae’r necrosis hwn yn tueddu i fod yn llai o broblem lle mae’r coed sy’n cael eu tyfu yn rhai sy’n blaguro’n hwyrach a phan fydd tywydd y gwanwyn ar ddechrau’r blaguro yn oer neu’n gynnes ond, yn bwysicaf oll, yn sych. Yn gyffredinol, mae’r clefyd yn fwyaf difrifol pan fydd y tywydd yn boeth ac yn llaith ac y ceir glaw yn gynnar yng nghyfnod tyfu'r coed. Mae’n tueddu i ddatblygu’n fwyaf difrifol pan fydd nodwyddau ifanc yn sychu’n araf ar ôl glaw. Y symptom cyntaf a welir yw marciau llosgi oren/brown amlwg ar wyneb uchaf nodwyddau. Mae’r rhain yn datblygu’n gyflym yn fandiau oren/brown a brown llwyd ar draws lamina’r nodwydd. Yn ddiweddarach bydd sborau duon yn bolio allan o ochr isaf y nodwyddau necrotig. Fel arfer, bydd nodwyddau yr effeithir arnynt yn disgyn tua diwedd mis Gorffennaf hyd at fis Medi h.y. gan adael cyfran uchel o dyfiant egin newydd y tymor presennol heb unrhyw nodwyddau mewn rhai achosion. Mae’n anochel na ellir gwerthu coed yr effeithir arnynt yn ddrwg hyd yn oed os cânt eu gadael am sawl blwyddyn mewn ymgais i’w galluogi i wella. Er bod rhai ffyngleiddiaid mewn treialon labordy wedi dangos eu bod yn gweithio yn erbyn y ffwng Sydowia polyspora, nid oes yr un ohonynt hyd yma wedi gallu darparu rheolaeth ddibynadwy dan amodau tyfu masnachol yn y maes.

Chwyn

Mae chwyn yn dod yn broblem o ran coed Nadolig ifanc a’r rhai sydd wedi ennill eu plwyf. Mae’r glaw diweddar wedi arwain at egino cyflym a thwf amrywiaeth eang o chwyn blynyddol mewn planhigfeydd ifanc. Yn ogystal, mae chwyn llydanddail a chwyn glaswellt wedi cael eu sbarduno hefyd i dyfu blodau a hadu. Bydd pob chwynladdwr cynnar gweddilliol wedi torri i lawr yn y pridd erbyn hyn. Yn y rhan fwyaf o achosion ac yn enwedig yn achos coed ifanc lle mae eu twf blynyddol wedi’i gwblhau, gellir gohirio tynnu chwyn nes byddir yn defnyddio glyffosad cyffredinol ddiwedd yr haf neu ddechrau’r hydref. Nid oes angen i chi anelu, wrth ymdrin â choed ifanc, at glirio’r tir yn llwyr gan fod gorchudd isel o chwyn yn gallu amddiffyn rhag gwyntoedd poeth, sych a pherygl o ddifrod solar yng nghanol a diwedd yr haf. 

Dyma amser da i ystyried eich cynlluniau plannu ar gyfer y flwyddyn nesaf, gan ddewis safleoedd nad ydynt yn cynnwys marchrawn, taglys parhaol na phoblogaethau mawr o chwyn lluosflwydd eraill. Os ydych chi’n plannu ar safleoedd âr, dylech osgoi’r rheini sydd wedi cael eu defnyddio o’r blaen i dyfu had llin neu olew had rêp gan y bydd risg sylweddol y bydd y rhain yn cario chwyn yn y tymor canlynol. Hefyd, dylech osgoi safleoedd lle mae chwyn gwair eilflwydd, y gwyddys eu bod wedi cronni ymwrthedd i’r rhan fwyaf o chwynladdwyr e.e. gwair du, wedi ymsefydlu. Ar gyfer planhigfeydd presennol edrychwch ar y poblogaethau chwyn presennol i’ch helpu i gynllunio pa gynnyrch i’w ddefnyddio yn ddiweddarach yn y flwyddyn ac yn y gwanwyn. Gellir defnyddio Diflufenican h.y. Hurricane SC a neu glyffosad e.e. Roundup (dim ond rhai mathau o gynnyrch y caniateir eu defnyddio’n gyffredinol, mae gan goed Nadolig e.e. EAMUus neu gymeradwyaeth label), yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Ar yr un pryd neu’n ddiweddarach yn yr hydref gellir defnyddio chwynladdwyr gweddilliol fel dull rheoli cyn ymddangos ac, mewn rhai achosion, ôl ymddangos ar gyfer chwyn blynyddol sy’n egino ddiwedd yr hydref neu yn y gaeaf.

Ymwadiad

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod yr wybodaeth a'r argymhellion yn y nodiadau hyn yn gywir. Dylai’r holl gemegion diogelu cnydau gael eu defnyddio’n unol â’r argymhellion ar y label, a dylid darllen y label cyn chwistrellu.  Efallai na fydd rhai o’r plaladdwyr a grybwyllir yn y nodiadau hyn yn cael eu cefnogi gan argymhellion ar labeli i’w defnyddio ar goed Nadolig, ond eu bod yn cael eu caniatáu drwy’r Estyniad o Ganiatâd ar gyfer Mân Ddefnydd (EAMU) yn y DU o dan y ‘Trefniadau Hirdymor Diwygiedig ar gyfer Ymestyn Defnydd (2002)’.  Yn yr achosion hyn, defnyddir y plaladdwr yn ôl risg y defnyddiwr ei hun, ac nid yw Tyfu Cymru yn derbyn atebolrwydd am unrhyw golled neu ddifrod a achosir gan ddefnydd o’r fath. Mae’r cyfeiriadau at gymeradwyaeth ar labeli ac EAMU ar gyfer defnyddio plaladdwyr ar goed Nadolig yn gywir ar adeg ysgrifennu’r wybodaeth hon. Gall y rhain gael eu newid a gallai cymeradwyaeth gael ei thynnu’n ôl ar unrhyw adeg. Cyfrifoldeb y tyfwr yw gwirio cymeradwyaeth cyn defnyddio plaladdwyr. Os bydd unrhyw amheuaeth, dylai tyfwr geisio cyngor gan gynghorydd sy’n gymwys dan BASIS - mae hyn ar gael yn rhad ac am ddim i dyfwyr cymwys drwy raglen Tyfu Cymru, cysylltwch â ni i drefnu apwyntiad - mae cyngor dros yr e-bost/ffôn ar gael hefyd. 

 



Related Pages


Christmas Tree Network Study Visit: Technical Pruning Notes

Timings of pruning can vary between tree types. For Nordmann Fir pruning should be made in spring or summer as sap flow will be sufficient to help the trees recover, whilst Spruce should be cut in the autumn or winter. It is best practice to aim to o…

16/09/2021 14:32:43

Technical Advice Sheet: Christmas Tree Needle Diseases

A range of similar, but subtly different, foliar diseases can impact Christmas tree plantations. Careful management of both the crop and growing area can be useful in controlling risk factors.

02/08/2021 11:39:28

Webinar: Christmas Trees - Summer Update (Current Disease issues)

In this Session Janet Allen (ADAS) focused on current disease issues in Christmas trees. Particularly looking at current season necrosis, fire weed rust and Rhizosphaera needle cast, alongside some specific weed and pest control issues.

18/06/2021 15:21:40

Pests and Disease: Threats, Diagnosis and Reporting

It is essential that pests and diseases are identified correctly before they can be controlled efficiently and their spread prevented. In this presentation Dr Ana Perez-Sierra, Head of Tree Health Diagnostic and Advisory Service will describe the pro…

26/11/2020 14:07:16

Technical Advice Sheet: Christmas Tree – July

This fact sheet provides technical advice on managing Christmas Tree crops

25/08/2020 15:41:17