Download the Toolkit: Pumpkin Covid PYO - Welsh.pdf

Taflen Cyngor Technegol: Marchnata Pwmpenni PEH gyda Covid

 

Rheoli Pigo Eich Hun gyda Covid

Tra bod llawer o gyfyngiadau Covid-19 yn cael eu llacio, mae’n debygol i barhau i fod yn her i dyfwyr hyd y gellir gweld – yn arbennig felly i’r rhai hynny sy’n gwerthu yn uniongyrchol i gwsmeriaid lle mae angen i nifer yr ymwelwyr sy’n dod i’r safle fod yn uchel er mwyn gwneud elw da.  Bu gwerthiant ffrwythau PEH yn gryf yn ystod yr haf, gyda llawer o dyfwyr yn cyrraedd yn agos at eu gwerthiant arferol. Mae llawer o fanteision gwerthu pwmpenni PEH – gweithgareddau yn yr awyr agored, mynediad at gaeau mawr agored – yn golygu y gellir ymdrin â mesurau cadw pellter cymdeithasol yn well nag o dan do.  Fodd bynnag, bydd yn parhau yn angenrheidiol i wneud rhai addasiadau er mwyn sicrhau diogelwch a mwynhad y cwsmeriaid tra maen nhw ar y safle. 

Cyn i Gwsmeriaid Ymweld

Mae gan lawer o dyfwyr PEH brofiad o hysbysebu eu safleoedd i gwsmeriaid drwy amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys ar-lein a’r cyfryngau cymdeithasol.  Bydd neges eglur yn dweud eich bod chi ar agor ar gyfer busnes, gydag unrhyw newidiadau yr ydych chi wedi’u cynllunio am eleni, yn helpu i ddenu ymwelwyr i’ch safle.    Gall rhai cwsmeriaid fod yn bryderus ynglŷn â pharhausrwydd Covid ar gynnyrch ffres, ond y cyngor diweddaraf yw nad oes unrhyw risg o gael haint gyda chynnyrch ffres[1].  Yn ogystal, gallwch chi wneud datganiadau eglur ynglŷn â’ch paratoadau Covid, fel bod eich cwsmeriaid yn gwybod beth i’w ddisgwyl pan maen nhw’n ymweld â chi.

Yn ogystal, gallwch chi ystyried system archebu i helpu rheoli ymweliadau. Bydd hyn yn osgoi gorlenwi, a gwella hyder y cwsmer o allu ymweld â’ch safle heb gael eu gyrru yn ôl wrth y giât. Mae llawer o dyfwyr PEH yn gweld bod y cyhoedd wedi dod yn fwy cydymdeimladol o giât fferm gaeedig pan mae’r fferm yn llawn, a bydd y gallu i archebu yn helpu rheoli hyn.  Gallech chi gynllunio am slotiau amser ar gyfer ymweliadau cwsmeriaid fel y gallwch chi reoli faint o bobl sydd gennych chi ar y safle tra’n darwahanu ymweliadau er mwyn rheoli’r niferoedd ar gyfer sicrhau cadw pellter cymdeithasol.  Fel arfer, bydd cwsmeriaid yn treulio oddeutu 20-40 munud ar y safle, ond gall hyn fod yn hirach os oes gennych chi weithgareddau eraill. Gallwch chi ddymuno ystyried niferoedd cyfyngedig o bartïon er mwyn cadw eich safle rhag dod yn orlawn.

Gallwch chi ddymuno i gwsmeriaid dalu blaendal ymlaen llaw wrth archebu a ellid ei ddefnyddio yn erbyn beth bynnag y maen nhw’n ei brynu ar y safle.  Eglurwch beth y mae tocyn unigol yn ei gynnwys – gallech chi werthu tocynnau ar gyfer unigolion (gan godi yn wahanol am oedolion a phlant), caniatáu plentyn am ddim gyda phob tocyn oedolyn, neu docynnau teulu ar gyfer grwpiau o faint arbennig.  Bydd hyn yn helpu i sicrhau isafswm incwm, tra’n lleihau’r risg o bobl yn peidio ag ymddangos. Os ydych chi’n gofyn am flaendal, eglurwch beth yw’r telerau a’r amodau, fel a yw’r archeb yn ad-daladwy neu’n drosglwyddadwy os yw rhywun wedi archebu ar ddiwrnod pan mae’r tywydd yn anffafriol.

Os nad oes gennych chi wefan, gallech chi ystyried defnyddio un o’r platfformau sydd ar gael i werthu tocynnau.  Yn gyffredinol, mae gan y rhain ategion hwylus fel y gallan nhw gysylltu â’ch platfformau cyfryngau cymdeithasol.

Cwsmeriaid ar y Safle

Dylech chi ystyried y siwrnai gyfan y bydd cwsmer yn ei chymryd unwaith y bydd wedi cyrraedd ar eich safle, a gwneud addasiadau lle y gallwch chi.  Gallech chi ystyried y canlynol:

  • Arwyddion eglur, gorau oll gyda system un ffordd lle y bo’n bosibl a fydd yn helpu i osgoi gorlenwi.
  • Lle mae pobl yn debygol o sefyll mewn rhes, fel wrth ymyl mannau talu (mynedfeydd, man casglu berfâu, mannau talu), dylid marcio’r llawr bob 2m er mwyn gwahanu cwsmeriaid.
  • Bydd hylif diheintio dwylo mewn mannau strategol hefyd yn helpu cwsmeriaid i gadw yn lân yn ystod eu hymweliadau.
  • Dylid cael un aelod o’r staff yn rheoli gorsafoedd diheintio ar gyfer gorsafoedd berfâu neu slediau fel y gellir sychu’r handlenni rhwng cwsmeriaid.
  • Os oes gennych chi stondinau cynnyrch, bydd angen darparu sgriniau a chael staff pwrpasol i weini ar gwsmeriaid fel nad yw cwsmeriaid yn cyffwrdd y cynnyrch – gallech chi weld bod hyn yn ymarfer da ar gyfer amseroedd ar ôl Covid oherwydd ei fod yn fodd o osgoi ffrwgwd.

Gwerthu a Marchnata

Ar gyfer ffrwyth meddal, mae tyfwyr wedi bod yn gwerthu cynhwysydd i gwsmeriaid ei lenwi o’i gyferbynnu â’r system arferol o dalu am bwysau’r ffrwyth a gasglwyd.  Tra gall hyn fod yn anodd ar gyfer pwmpenni, gallech chi ddymuno ystyried dulliau eraill o werthu yn hytrach na phwyso yn unig.  Er enghraifft, gallai cwsmeriaid ollwng pwmpenni drwy dyllau a raddiwyd er mwyn galluogi gwerthu yn ôl maint, neu drwy hwpiau o feintiau gwahanol ar ben ffyn.  Fel rhan o leihau cysylltiad â chwsmeriaid, ystyriwch ddefnyddio system dalu heb arian parod – gellir gweld rhagor o wybodaeth ynglŷn â’r systemau sydd ar gael ar daflen ffeithiau Tyfu Cymru ynglŷn â systemau talu digyffwrdd.

Syniadau ar gyfer Profiadau Ychwanegu Gwerth

Ar gyfer ffrwythau meddal, mae tyfwyr wedi bod yn gwerthu cynhwysydd i gwsmeriaid o’i gyferbynnu â’r system arferol o dalu am bwysau

  • Cynigiwch orsaf i lanhau pwmpenni, lle gall pobl gyfrannu at elusen i gael golchi eu pwmpen â golchwr pwysedd dŵ
  • Gellir gwerthu teisennau a choffi fel cludfwyd neu wrth yrru drwodd – gwelwyd bod hyn yn gwerthu yn syfrdanol o dda ar gyfer ffrwythau meddal PEH!
  • Hyrwyddwch brynu yn lleol a phrynu cynnyrch o Gymru, neu fel profiad unigryw i’r teulu yn yr awyr agored.
  • ‘Pantri Pwmpenni’ – rhannwch ddefnydd coginiol y bwmpen, dysgwch bobl sut i’w coginio a darparwch daflenni rysáit er mwyn ysgogi syniadau. Gellir hyrwyddo pwmpenni fel dewis da ar gyfer paratoi prydau mawr ar gyllideb, neu gynllunio a rhewi bwyd ymlaen llaw.
  • Ysgol gerfio, o bosibl mewn ysguboriau nad ydyn nhw’n cael ei defnyddio neu dwneli polythen – £2 ar ben cost y bwmpen, neu efallai mwy os ydych chi’n cynnwys pecynnau offer cerfio gyda’r bwmpen.
  • Manwerthu calan gaeaf am felysion, siocled neu addurniadau ar gyfer Calan Gaeaf.
  • Cynhyrchu eitemau y gellir eu gwerthu, e.e. pwmpenni pedolau.
  • Rhedeg PEH ar gyfer amrediad o gnydau. e.e. india-corn, blodau haul (a ellir eu hau yn hwyr ym mis Awst). Gall tatws hyd yn oed fod yn syniad da – mae'r rhain yn boblogaidd gyda phlant sy’n “palu am drysor” – rhowch fforc a sled iddyn nhw, gan fod palu yn meithrin cysylltiad rhwng y pridd a’r bwyd).

Gellir gwerthu pecynnau cerfio plastig (ar y dde) fel rhan o weithgareddau cerfio pwmpenni fel offer defnydd unigol na fyddan nhw angen eu diheintio rhwng cwsmeriaid. Bydd meinciau sydd wedi’u gosod ar gyfer cadw pellter cymdeithasol hefyd yn helpu. Er mwyn rhoi amser i lanhau gorsafoedd, gallech chi ystyried slotiau amser i ddarwahanu’r galw, a gellir cynnwys y rhain fel dewis ychwanegol os ydych chi’n gofyn i gwsmeriaid archebu ar-lein ymlaen llaw.

[1] https://ec.europa.eu/food/sites/food/files/safety/docs/biosafety_crisis_covid19_qandas_en.pdf



Related Pages


Online Booking Systems for Pick Your Own

As well as making sure you can maintain social distancing a booking system will offer a number of additional benefits to make sure your customers are satisfied and that you get the best returns on your produce.

26/05/2021 16:52:42

Webinar: Social Media Best Practise & Email Marketing - PYO Networks

In this one hour workshop, attendees will learn the ropes of Social Media best practise and how to use Facebook and Instagram to best reach customers and drive sales. The session will also include live reviews of attendees Social Media platforms and…

16/03/2021 16:37:40

Webinar: Integrating Farm Tourism into your Horticulture Business

Have you considered a farm shop, a pop up café, a seasonal events calendar? How about an ‘Insta field’? The demand for photo worthy fields is on the rise, and with careful planning, establishing a pick your own will have the public flocking to your f…

24/02/2021 13:44:27

Webinar: Integrating Farm Tourism into your Horticulture Business

Have you considered a farm shop, a pop up café, a seasonal events calendar? How about an ‘Insta field’? The demand for photo worthy fields is on the rise, and with careful planning, establishing a pick your own will have the public flocking to your f…

24/02/2021 13:44:27

Technical Advice Sheet Pumpkin Power Hour – November

The start of the 2020 season was difficult. Late frosts until the first week in May and dry soils delayed planting, but heavy rains then delayed planting further.

14/12/2020 11:31:10

Technical Advice Sheet: Growing Sunflowers

Sunflowers can make a very attractive addition to wide range of businesses. They can be sold alongside a range of other products, and due to the long flowering season this can even stretch into the autumn to coincide with pumpkins in the run up to Ha…

16/11/2020 11:39:21

Technical Advice Sheet Pumpkin PYO Marketing with Covid

While many of the covid-19 restrictions are being relaxed, it’s likely to continue to pose a challenge for growers for the foreseeable future – especially for those selling directly to customers for whom a high footfall on site is needed to achieve g…

30/09/2020 13:07:45

Technical Advice Sheet Pumpkin PYO Marketing with Covid

While many of the covid-19 restrictions are being relaxed, it’s likely to continue to pose a challenge for growers for the foreseeable future – especially for those selling directly to customers for whom a high footfall on site is needed to achieve g…

30/09/2020 13:07:45

Technical Advice Sheet: Pumpkin Power Hour - July

Tyfu Cymru have launched regular Power Hour sessions for members of the Pumpkin Network. This article includes the full technical notes from the latest Power Hour in July.

03/09/2020 13:32:56

Welsh Fruit and Vegetable Production - Baseline Study

This baseline study for Tyfu Cymru was conducted by Dr. Amber Wheeler and looks at the opportunities for Welsh Fruit and Vegetable production.

26/06/2020 16:05:34

Technical Advice Sheet Pumpkin Power Hour – June

Tyfu Cymru have launched regular Power Hour sessions for members of the Pumpkin Network. These focused sessions are facilitated by Tyfu Cymru together with technical experts and include an update on topical issues based on growers instant needs, and…

25/06/2020 15:05:58

Technical Advice Sheet Pumpkin planning and weed control – May

You should now be planning the planting for this year’s crop. If you’re new to pumpkins, it’s recommended that you plant transplanted seedlings rather than drilling. You’re just in time to order these from a propagator if you act quickly, and you sho…

28/05/2020 14:02:13

Pumpkin Disease Control

The main disease of concern in pumpkin during the early season is powdery mildew, and this can start to be a problem from June onwards, starting with flowering.

28/05/2020 13:50:36

Our Guide to Mobile Card Payment Systems

How customers pay for their goods is changing - debit card transactions overtook cash in 2017, and these are forecast to represent over half of all transactions by 2024. The move away from cash has also be driven by the increase in contactless card p…

28/05/2020 13:37:30

Managing Blossom End Rot in Pumpkin

Blossom End Rot (BER) is a particular problem that pumpkin growers face, especially when growing for pick-your-own (PYO) markets.

24/04/2020 09:57:25

Pick your Own (PYO): What you need to know to get 5* rated (part 2)

Part two of our Pick your Own Factsheet focusing on Marketing and Top Technical Tips...

19/03/2020 12:28:00

Pick your Own (PYO): What you need to know to get 5* rated…

In our series of industry insights, we provide some background to the market, as well as some top tips on ensuring that your customer experience hits that important 5-star customer rating.

16/12/2019 13:38:55

Pick your Own (PYO): What you need to know to get 5* rated…

In our series of industry insights, we provide some background to the market, as well as some top tips on ensuring that your customer experience hits that important 5-star customer rating.

16/12/2019 13:38:55