Download the Toolkit: Christmas Tree Factsheet - Welsh.pdf

Gall ystod o afiechydon deiliol tebyg, ond yn gynnil wahanol, effeithio ar blanhigfeydd coed Nadolig.

Gall ystod o afiechydon deiliol tebyg, ond yn gynnil wahanol, effeithio ar blanhigfeydd coed Nadolig. Gall rheoli'r cnwd a'r ardal dyfu yn ofalus fod yn ddefnyddiol wrth reoli ffactorau risg. Tra bod opsiynau rheoli cemegol ar gael, mae'n well defnyddio'r rhain pan yw’r amodau heintio yn iawn. Bydd ymwybyddiaeth o risgiau, gan gynnwys oedi rhwng yr haint a dechrau’r symptomau, yn eich helpu i ganfod bygythiadau posibl i'ch planhigfa.

 

Clefydau Nodwyddau

 

Mae defnyddwyr yn chwilio am goed Nadolig sydd â changhennau unffurf ynghyd â gorchudd nodwydd trwchus sy'n ddeniadol i’w harddangos. Gellir gweld effaith afiechydon deiliol dros sawl tymor (mae’n effeithio ar nodwyddau'r tymor blaenorol a'r presennol) gyda symptomau'n symud ymlaen o afliwiad a necrosis i golli nodwyddau’n llwyr gan adael boncyffion noeth.

 

Er y gall sawl ffactor arwain at golli nodwyddau, gall nifer o afiechydon deiliol fod yn achos sylweddol os na chânt eu rheoli. Ceir crynodeb o glefydau deiliol cyffredin ac opsiynau rheoli yn y dogfen isod.

 

Gall afliwio neu golli nodwyddau, hyd yn oed ar nifer gyfyngedig o ganghennau, beri bod coeden yn un na ellir ei marchnata; mae angen ystyried costau llafur a rheoli hefyd er mwyn atal risgiau i'r blanhigfa ehangach.

 

Ymwadiad

Gwneir pob ymdrech i sicrhau cywirdeb y wybodaeth a'r argymhellion a roddir yn y nodiadau hyn. Dylid defnyddio pob cemegyn amddiffyn cnydau yn unol ag argymhellion y label, a dylid edrych ar hwn cyn chwistrellu. Efallai na fydd rhai o'r plaladdwyr a grybwyllir yn y nodiadau hyn yn cael eu cefnogi gan argymhellion label i'w defnyddio ar goeden Nadolig ond fe'u caniateir trwy Estyniad Awdurdodi ar gyfer Mân Ddefnydd (EAMU) yn y DU o dan 'Y Trefniadau Tymor Hir Diwygiedig ar gyfer Ymestyn Defnydd (2002)'. Yn yr achosion hyn, mae'r defnyddiwr yn defnyddio'r plaladdwr ar ei fenter ei hun ac nid yw Tyfu Cymru yn derbyn cyfrifoldeb am unrhyw golled neu ddifrod a achosir gan ddefnydd o'r fath. Mae'r cyfeiriadau at gymeradwyaethau ar label ac EAMUau ar gyfer defnyddio plaladdwyr mewn coed Nadolig yn gywir ar adeg ysgrifennu'r adroddiad hwn. Gall y rhain newid a gellir tynnu cymeradwyaeth yn ôl ar unrhyw adeg. Cyfrifoldeb y tyfwr yw gwirio cymeradwyaethau cyn defnyddio plaladdwyr. Os oes unrhyw amheuaeth, yna dylai tyfwr ofyn am gyngor gan gynghorydd cymwysedig BASIS - mae hwn ar gael yn rhad ac am ddim i dyfwyr cymwys trwy raglen Tyfu Cymru; cysylltwch â ni os gwelwch yn dda i drefnu apwyntiad - mae cyngor e-bost/ffôn hefyd ar gael.



Related Pages


Christmas Tree Network Study Visit: Technical Pruning Notes

Timings of pruning can vary between tree types. For Nordmann Fir pruning should be made in spring or summer as sap flow will be sufficient to help the trees recover, whilst Spruce should be cut in the autumn or winter. It is best practice to aim to o…

16/09/2021 14:32:43

Technical Advice Sheet: Christmas Tree Needle Diseases

A range of similar, but subtly different, foliar diseases can impact Christmas tree plantations. Careful management of both the crop and growing area can be useful in controlling risk factors.

02/08/2021 11:39:28

Webinar: Christmas Trees - Summer Update (Current Disease issues)

In this Session Janet Allen (ADAS) focused on current disease issues in Christmas trees. Particularly looking at current season necrosis, fire weed rust and Rhizosphaera needle cast, alongside some specific weed and pest control issues.

18/06/2021 15:21:40

Pests and Disease: Threats, Diagnosis and Reporting

It is essential that pests and diseases are identified correctly before they can be controlled efficiently and their spread prevented. In this presentation Dr Ana Perez-Sierra, Head of Tree Health Diagnostic and Advisory Service will describe the pro…

26/11/2020 14:07:16

Technical Advice Sheet: Christmas Tree – July

This fact sheet provides technical advice on managing Christmas Tree crops

25/08/2020 15:41:17