Download the Toolkit: Rheoli Argyfwng Cyllid

Bydd llawer o fusnesau ar ryw adeg, ac am amryw resymau, yn wynebu argyfwng llif arian. Rydym wedinodi rhai awgrymiadau a allai fod yn ddefnyddiol i chi.

Yn yr amseroedd digynsail hyn, mae llawer o fusnesau garddwriaeth yn wynebu pwysau enfawr ar eu llif arian o ganlyniad uniongyrchol i effaith Covid-19.

Mae rhai camau uniongyrchol y gall busnesau eu cymryd i gael rheolaeth ar eu llif arian. Nid yw'r rhain yn rhestr derfynol, ond maent wedi'u hanelu at helpu busnesau i feddwl trwy'r camau nesaf.

Mae'n hollbwysig cadw gafael ar eich arian neu ei reoli; nid ydym yn golygu arian parod ond balans eich arian yn eich cyfrifon banc yn hytrach na yng ngofal eich cwsmeriaid, cyflenwyr neu ar glo mewn asedau pan allai fod yn gweithio i chi:

BYDDWCH YN STRATEGOL:

  1. Cwblhewch ragolwg llif arian dyddiol i sicrhau eich bod chi'n gwybod pa arian sy'n dod i mewn a beth sy’n rhaid mynd allan dros y dyddiau a'r wythnosau nesaf. Bydd y mwyafrif o fanciau yn anfon balans dyddiol trwy ap ffôn

  2. Stopiwch bob debyd uniongyrchol; cyflwynwch system lle mae'n rhaid i o leiaf dau berson lofnodi pob anfoneb

  3. Symudwch i dalu ar ddatganiadau, fel nad ydych chi'n colli allan ar nodiadau credyd sy'n ddyledus i chi ac mae'n haws cysoni anfonebau

  4. Sicrhewch fod eich TAW yn gyfredol fel y gellir ei hawlio a sicrhewch eich bod wedi nodi yr holl dderbynebau, anfonebau ac arian

  5. Os nad oes gennych system gyfrifo ddigidol (Xero, Quickbooks neu Sage) mynnwch un gan y bydd yn eich helpu i gyfrifo a hawlio pethau'n effeithlon. Mae'r systemau cyfrifo hyn yn eich helpu i reoli arian trwy ddweud wrthych pa anfonebau sy'n ddyledus

Mae'r pecyn cymorth isod yn amlinellu camau uniongyrchol y gall busnesau eu cymryd i gael rheolaeth ar eu llif arian.