Mae’r farchnad wedi arallgyfeirio, gyda defnyddwyr yn chwilio am ddiet amrywiol o saladau aml-ddail gan gynnwys letys microddail, berwr y dŵr ac egin pys.  Mae galw mawr am gymysgeddau sy’n cynnwys dail lliw megis amaranth ac ysgallddail, neu flasau gan gynnwys dail ifanc seleri a pherlysiau, yn y diwydiant gwasanaeth bwyd.  Tyfodd marchnad salad dail wedi’u paratoi yn y DU 6.6% yn 2017 i bron £700 miliwn, wedi’i gynnal gan alw cynyddol ymhlith defnyddwyr am gynnyrch maethol, ffres sy’n alinio â thueddiadau ‘bwydydd daionus’ sy’n dod yn fwyfwy poblogaidd.
Mae galw tymhorol ar ei anterth yn yr haf, ond mae galw’r parhaus gan fwytai drwy gydol y flwyddyn yn gallu sicrhau marchnad am cyhyd ag y gellir tyfu’r salad.

Mae saladau deiliog sydd wedi’u tyfu’n lleol yng Nghymru yn cyflwyno cyfle datblygu cynnyrch gwych ar gyfer garddwriaeth; mae’n gynnyrch â chylch tyfu byr â gwerth uchel sy’n dangos  a dangoswyd gostyngiadau cyflym i flas ac ansawdd mewn cadwyni cyflenwi estynedig.  Drwy gynyddu argaeledd saladau o safon uchel, sydd wedi’u tyfu’n lleol, gall tyfwyr  fanteisio ar y galw cynyddol gan ddefnyddwyr a chynyddu proffidioldeb eu menter dyfu.

Mae saladau hefyd yn alinio gyda gweledigaeth hirdymor Llywodraeth Cymru ar gyfer garddwriaeth, gan arallgyfeirio o gnydau garddwriaeth traddodiadol sy’n cael eu tyfu mewn pridd.  Bydd dewisiadau newydd o gnydau salad deiliog, sy’n addas ar gyfer systemau tyfu heb bridd yn ychwanegu gwerth i gadwyn gyflenwi ranbarthol -  byddai saladau sydd wedi’u tyfu yng Nghymru yn cynnig potensial buddsoddi cadarn i gynnyrch bwyd a diod, wedi’i farchnata yn uniongyrchol i ddefnyddwyr.

Mae saladau deiliog yn addas iawn ar gyfer hydroponeg a gellir eu datblygu fel busnes newydd neu fel estyniad i fusnes presennol.  Gellir tyfu saladau mewn amrywiaeth o dai gwydr neu strwythurau twnelau polythen.
Gellir tyfu cnydau deiliog ar ddwyster uchel, gydag amseroedd tyfu llai, gan gyflawni 3-4.5 cilogram/m2 o gymharu â phwysau cnwd o 2.5 – 3 cilogram/m2 ar gyfer letys wedi’i dyfu mewn cae.
Mae’r dull hwn hefyd yn lleihau’r risg o blâu/clefydau, er enghraifft Pythium, a all barhau i fodoli yn y pridd rhwng cylchdroi cnydau.  Mae’n haws rheoli chwyn hefyd oherwydd nid oes llawer o ofod yn y system gynhyrchu ar gyfer chwyn; gall rheoli chwyn fod yn broblemus iawn yn benodol ar gyfer berwr sy’n sensitif i chwynladdwyr, pan fydd yn cael ei dyfu mewn cae.

Os bydd salad yn cael ei fwyta yn amrwd, mae’r gallu i dyfu cnwd heb bridd yn lleihau’r risg o halogiad, gan wella marchnadwyedd cnwd glân.  Mae dwyster plannu uchel  hefyd yn cynyddu effeithlonrwydd rheolaethau biolegol ar gyfer rheoli plâu a chlefydau yn yr ardaloedd gwreiddio a saethu.  Gellir lleihau costau llafur drwy gynhyrchu mewn pentwr neu ar uchder bwrdd, o gymharu â chnydau sy’n cael eu tyfu yn y ddaear mewn haen unigol.

Mae’r gallu i reoli’r amgylchedd tyfu yn golygu y gellir cyflawni’r effeithlonrwydd mwyaf o ran adnoddau gan gynnig yr un pryd cynnyrch unffurf a chyson iawn, gyda’r posibilrwydd o allu ei dyfu drwy’r flwyddyn gyfan.  Mae ailgylchredeg dŵr a maetholion yn golygu bod y gwastraff dŵr 20 gwaith yn llai na’r hyn a welir fel arfer gyda systemau tyfu pridd, sy’n fesur diogelwch pwysig ar gyfer yr amgylchedd a chynhyrchu bwyd cynaliadwy.

Er y gellir dechrau dulliau tyfu heb braidd ar raddfa gymharol fach gan ddefnyddio technoleg syml, gellir eu hintegreiddio’n hwylus gyda thechnoleg tyfu arloesol, gan gynnwys goleuadau deuod allyrru golau (LED) er mwyn cynyddu allbwn yn sylweddol ac effeithlonrwydd cynhyrchiant o’r maes hwn, sy’n ennill tir.

Ysgrifennwyd y ddogfen hon fel canllaw ymarferol ar gyfer tyfwyr sy’n awyddus i arallgyfeirio eu busnes gan ddefnyddio technegau hydroponeg.

Related Pages

Webinar: Nutrient Use Efficiency in Field Vegetables

Tyfu Cymru, Dr Lizzie Sagoo and Chris Creed of ADAS hosted this webinar on nutrient management strategies for field vegetables growers.

13/03/2023 14:04:45

Webinar: Asparagus; a diversification crop for Wales

The webinar covers establishment and production including organic. Chris Creed from ADAS led this webinar. He was joined by Phil Handley from Mostyn Kitchen Garden and Adrian from Bellis Brother's Farm Shop who gave a grower’s perspective on the bene…

14/05/2021 13:16:57

Embracing Wonky

Wonky, over-sized, under-sized and over-blemished - the fruits and vegetables that until recently, never made it down the supermarket aisle catwalk.

16/12/2019 15:44:34

Soilless Cultivation For Ornamentals

Growing plants without soil is a precise method to deliver water and nutrients to match crop demand; because of the enhanced availability of resource to the root-zone, crops can be grown at a higher density than would be possible in the field.

16/12/2019 13:46:44

Soilless Cultivation For Herbs

The production of crops without soil, typically by hydroponics, using nutrient-enriched solutions with or without growing media, offers a unique opportunity for the Welsh horticulture sector. Hydroponic systems are particularly beneficial when produc…

16/12/2019 13:43:01

Soilless Cultivation For Table Top Strawberry

Until 1997, strawberry production in the UK was relatively constant, although berries where of variable quality and picked mostly during June and July; of which some 25% was marketed through supermarkets.

16/12/2019 13:42:11

Soilless Cultivation For Leafy Salads

The production of crops without soil, typically through hydroponics, using nutrient-enriched solutions with or without growing media, offers a unique opportunity for the Welsh horticulture sector. These systems are particularly beneficial when produc…

16/12/2019 13:41:30

Organic market insight

The Soil Association published their 2017 Organic Market report earlier this year, revealing that sales growth in the organic food and drink sector had grown for the 5th consecutive year, posting a 7.1% growth with sales reaching £2.1 billion.

16/12/2019 13:37:05