Y farchnad organig

Mae'r galw am gynnyrch a chynhyrchion organig yn y DU wedi bod ar gynnydd yn gyson ers bron i ddegawd. Mae wedi'i yrru'n bennaf gan gynnydd mewn ymwybyddiaeth defnyddwyr o faterion iechyd ac amgylcheddol.  Yn ôl adroddiad yn 2019 gan y Research Institute of Organic Agriculture (FiBL) ac IFOAM, gwelwyd tir fferm organig twf byd-eang o 20% yn 2017, gyda chyfanswm o dros 2.9 miliwn o gynhyrchwyr organig. Ac yn ôl Adroddiad Marchnad Organig y Soil Association yn 2019 gwelwyd twf blynyddol mwyaf y DU hyd yma (4.9%), gan greu marchnad gwerth £2.45 biliwn mewn gwerthiant.

Deall ardystiad

Er mwyn labelu cynhyrchion fel rhai organig, rhaid i gynhyrchwyr y DU ddal tystysgrif gofrestru gyfreithiol gan gorff ardystio organig cymeradwy. Mae'n bosibl rhedeg busnes llwyddiannus heb ei ardystio yn dilyn egwyddorion cynaliadwy. Fodd bynnag mae ardystio'r tir/busnes gyda chorff ardystio cydnabyddedig yn arwain at fanteision ychwanegol. Prif fantais ariannol ardystio yw gallu gwerthu cynnyrch am bremiwm i wrthbwyso'r costau ychwanegol sy'n gysylltiedig â chynhyrchu organig. Yn ogystal, mae gallu marchnata cynnyrch sy’n cael ei dyfu’n gynaliadwy gyda'r labelu swyddogol, yn dangos i'r defnyddiwr ansawdd y cynnyrch a'r gwerthoedd moesegol ac amgylcheddol y tu ôl i'r cynnyrch.

Waeth beth fo'r arfer gorau, mae labelu cynhyrchion organig nad ydynt wedi'u hardystio gan gorff ardystio yn torri'r gyfraith a gallai'r busnes fod yn agored i'w erlyn.

Sut i ddod yn gynhyrchydd organig

Ar gyfer tyfwyr confensiynol neu fusnesau newydd sy'n ceisio mentro i'r maes hwn, y cam cychwynnol yw cysylltu â'r cyrff ardystio cymeradwy i ddod o hyd i un sy'n gweddu i'ch busnes.

Y sefydliad mwyaf a hynaf, sy'n ardystio dros 70% o fwyd organig y DU, yw’r Soil Association, ac yna mae Organic Farmers and Growers sy'n ardystio 50% o dir organig y DU ar hyn o bryd.

Mae nifer o gyrff ardystio rhanbarthol a llai yn y DU hefyd gan gynnwys

Cynllun Organig Cymru / Ardystio Bwyd Cymru o Safon, Organic Food Federation, Organic Trust Limited a'r Irish Organic Association.

Mae manylion cyswllt diweddaraf ar gyfer pob corff ardystio i'w gweld ar wefan DEFRA neu drwy glicio ar y dolenni uchod.

Mae costau yn cael eu codi gan y cyrff ardystio hyn.  Mae hyn yn amrywio rhwng cyrff ardystio a gall amrywio yn dibynnu ar faint y busnes. Yn gyffredinol, mae'r tâl hwn yn cynnwys cymorth gan gynghorydd organig pwrpasol, mynediad at wybodaeth dechnegol a gweinyddol, yr archwiliad blynyddol a mynediad at adnoddau defnyddiol megis deunyddiau marchnata a chanllawiau polisi.

Ar ôl i chi ddewis ardystiwr sy'n gweddu orau i'ch busnes, gellir cyflwyno ffurflen gais a gall y broses drosi organig ddechrau.

Y broses drosi ar gyfer y Soil Association ac Organic Farmers and Growers yn cymryd cyfanswm o ddwy flynedd, ond mae nifer o ffactorau a allai leihau'r amser hwn yn dibynnu ar eich amgylchiadau presennol. Bydd yr ardystiwr rydych chi’n ei ddewis yn eich tywys drwy'r broses hon ac yn cynnig cymorth a chyngor ar hyd y ffordd.

Adnoddau defnyddiol:

 Soil Association - Canllaw Trosi Garddwriaeth

 Organic Farmers and Growers - Cynhyrchu Organig

Ardystiad Bwyd Cymru o Safon – Gwneud cais am ardystiad

Organic Growers Alliance



Related Pages


Considering Converting? The First Step Towards Organic Production

Demand for organic produce and products in the UK has been consistently on the rise for nearly a decade, primarily driven by an increase in consumer awareness around health and environmental issues.

27/07/2020 16:12:31

Organic Market Report 2019 - Insights

A report by the Soil Association revealed that the UK organic market is now worth £2.33 billion with a 5.3 percent growth in 2018...

19/03/2020 12:46:55