Image courtesy of: Penn State Department of Plant Pathology & Environmental Microbiology Archives , Penn State University, Bugwood.org

Mae'r nodyn hwn ar gyfer arweiniad a chyfeirio yn unig

Diweddariad ar fewnforion planhigion sydd â risg uchel ar gyfer Xylella fastidiosa – deddfwriaeth 4 Mawrth 2021

Daeth deddfwriaeth newydd i rym ym mis Mawrth 2021 i fynd i'r afael â bygythiad i iechyd planhigion yn sgil Xylella.

Mae'r ddeddfwriaeth hon yn berthnasol i Gymru, a’r DU gyfan. Mae'r newidiadau hyn wedi'u nodi gan y Llywodraeth fel blaenoriaethau ar gyfer gwella bioddiogelwch planhigion y DU mewn ymateb i fygythiadau hysbys. Mae bioddiogelwch planhigion yn amddiffyn busnesau, cymdeithas a'r amgylchedd yng Nghymru. 

Mae'r mesurau yn y ddeddfwriaeth yn adlewyrchu'r lefel a ddymunir o ddiogelwch ar gyfer planhigion sy'n cael eu mewnforio o wledydd ac ardaloedd lle mae Xylella yn bresennol, gan osgoi beichiau newydd diangen i'r gwledydd hynny lle nad yw Xylella yn bresennol.

Bacteriwm yw Xylella fastidiosa sy'n achosi clefyd mewn amrywiaeth o blanhigion coediog, a dyfir yn fasnachol. Mae’r haint wedi lledaenu, gan achosi effaith ddifrifol yn Ewrop ar gynhalwyr fel coed olewydd a gwinwydd. Mae ganddo'r potensial i ymosod ar sawl rhywogaeth o goed llydanddail a dyfir yn eang yn y DU, yn ogystal â llwyni a phlanhigion llysieuol. Nid yw'n hysbys a yw’r clefyd yn bresennol yn y DU ar hyn o bryd. Fodd bynnag, mae’r cyfnod hir rhwng coed yn cael eu heintio gan Xylella a symptomau’n ymddangos (cyfnod a elwir yn ‘hwyrni’) yn golygu y gallai gael ei gludo i wledydd sydd heb eu heintio, drwy fewnforion planhigion, ymhell cyn i’r haint gael ei nodi. Mae yna risg benodol o gyflwyno Xylella drwy goed olewydd, almon, lafant, rhosmari, coffi a Polygala, a bydd y cynhalwyr hyn yn destun gofynion ychwanegol.

Mae'r mesurau'n berthnasol i fewnforion o'r gwledydd hynny (gan gynnwys Aelod-wladwriaethau'r UE) lle gwyddys fod Xylella yn bresennol. Mae'r mesurau, ymhlith eitemau eraill, yn cynnwys y gofynion canlynol:
• Dim ond caniatáu mewnforion o Coffea (coffi) a Polygala o wledydd lle gwyddys nad yw Xylella yn
 bresennol.
• Cyflwyno gofynion llymach ar gyfer mewnforio Lavendula sp. (lafant), Nerium oleander, Olea europaea (olewydd), Prunus dulcis (almon), a Rosmarinus officinalis (rhosmari) (ailddosbarthwyd fel Salvia rosmarinus) o wledydd lle mae’n hysbys fod Xylella yn bresennol. Gellir caniatáu mewnforion o dan amodau penodol sy'n cynnwys archwiliadau o le cynhyrchu a'r ardal gyfagos, profi, archwiliadau cyn allforio, a chyfnod cwarantin o flwyddyn cyn mewnforio.

Bydd y gofynion presennol ar gyfer planhigion risg uchel o wledydd lle ni wyddys fod Xylella bresennol yn cael eu cadw, sy'n cynnwys archwiliad swyddogol blynyddol, gyda samplu a phrofi'r planhigion dan sylw.

Mae Defra wedi dweud mai'r pwynt pwysig i'w nodi ar gyfer busnesau yw bod y planhigion perthnasol wedi cael eu tyfu mewn safleoedd cymeradwy a, lle bo angen, mae manylion wedi'u rhoi i Wasanaethau Iechyd Planhigion y DU gan awdurdod cymwys y wlad allforio, fel y gall y dystysgrif ffytoiechydol ddatgan bod y gofynion rhagnodedig wedi'u bodloni.

Fe'ch cynghorir i ddarllen y canllawiau llawn gan Defra ar Borth Gwybodaeth Iechyd Planhigion y DU.

Mae'r canllawiau i'w gweld ar https://planthealthportal.defra.gov.uk/pests-and-diseases/high-profile-pests-and-diseases/xylella/. Mae hyn yn cynnwys llythyr gan Brif Swyddog Iechyd Planhigion y DU, ac atodiad ar fanylion y ddeddfwriaeth a sut mae'n ymwneud â chynnal planhigion a Dogfen Cwestiynau Cyffredin.

Ceir rhestr o gynhalwyr, gyda lefelau o dueddiad i isrywogaethau o Xylella fastidiosa, ar: https://planthealthportal.defra.gov.uk/assets/uploads/Xylella-hosts-risk-levels3.pdf

Mae copi o'r offeryn statudol a ddaeth i rym ar 4 Mawrth 2021 (Rheoliadau Swyddogol a Rheoliadau Amodau Ffytoiechydol (Diwygio) 2021 ar gael ar:
http://www.legislation.gov.uk/id/uksi/2021/136