Mae'r themâu allweddol a drafodwyd yn ystod yr Ymweliad Astudio wedi'u crynhoi isod

Cynhyrchu mewn cynwysyddyddion

Mae tua 650,000 o doriadau’n cael eu tyfu'n fewnol bob blwyddyn ar welyau wedi'u gwresogi o dan dwneli polythen isel mewn tŷ gwydr; mae pryderon ynghylch iechyd planhigion yn ystod y blynyddoedd diwethaf wedi achosi cynnydd yn nifer y planhigion a dyfir o doriadau yn y feithrinfa ei hun.

Defnyddir Dalotia coriaria (a elwid gynt yn Atheta coriaria) i reoli’r pryf Sciarid wrth dyfu o doriadau gan ddefnyddio'r system fagu a ddatblygwyd ym mhrosiectau’r Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth (AHDB).

Cynhaliodd y feithrinfa dreialon wedi’u hariannu gan AHDB ar gyfryngau tyfu di-fawn (prosiect CP 138) ac ers hynny mae wedi cynnal treialon ar raddfa fawr o gnydau allweddol mewn cyfryngau tyfu di-fawn. Bydd hyn, ynghyd â gostyngiad graddol yng nghanran y mawn a ddefnyddir mewn cyfryngau tyfu yn galluogi'r feithrinfa i ostwng eu defnydd o fawn 60% erbyn 2023. Mae deunydd (tomwellt llac sy’n cynnwys cyfrwng glynu) a gyflenwir gan Klasman, a roddir ar ben y potiau’n helpu i gadw lleithder, lleihau mwsogl a llysiau'r afu, gan gyfrannu at leihad bach mewn chwyn.

Mae potiau taupe yn cael eu defnyddio ar gyfer stoc sydd ar gyfer y farchnad adwerthu gan na all y camerâu a ddefnyddir i ddidoli plastigion mewn ailgylchu ymyl y ffordd yn y DU drin potiau du. Mae potiau taupe yn ddrutach, felly mae cnydau sydd ar gyfer y farchnad amwynderau’n dal i gael eu tyfu mewn potiau du. Mae cynhyrchiant yn cael ei safoni fel y bydd yr holl gnydau sy’n cael eu tyfu mewn potiau dau litr ar hyn o bryd yn cael eu cynhyrchu mewn potiau tri litr yn y dyfodol.

Mae dŵr yn cael ei gasglu a'i ailgylchu o rai gwelyau meithrin a'i drin ag Osôn i ladd unrhyw bathogenau a gludir gan ddŵr cyn ei ailddefnyddio. Mae'r feithrinfa wedi dibynnu ar dyllau turio ar gyfer ei phrif ffynhonnell ddŵr ond mae wedi buddsoddi mewn cronfa ddŵr, sy’n cael ei hadeiladu ar hyn o bryd, er mwyn gwella diogelwch dŵr yn y dyfodol.

Coed

 Mae coed yn cael eu gwerthu naill ai fel cnwd gwreiddiau noeth, gyda’u gwreiddiau mewn pêl neu mewn cynwysyddion (a dyfir mewn potiau aer er mwyn caniatáu aerdocio gwreiddiau a chynhyrchu system wreiddiau ffibrog) ac mae buddsoddiadau diweddar mewn gwelyau wedi cynyddu nifer y coed mewn cynwysyddion sy'n cael eu cynnig. Mae rhai coed â’u gwreiddiau mewn pêl ond oherwydd y gost sy'n gysylltiedig â'r broses, dim ond ar gyfer stoc mwy y mae gwneud gwreiddiau’n bêl yn gost effeithiol.

Mae'r rhan fwyaf o goed yn cael eu gwerthu yn ôl y mesur o amgylch y boncyff, sy'n cael ei fesur un metr uwchben y ddaear. Mae’r boncyff pob coeden yn cael ei fesur ac mae pob coeden yn cael tag lliw sy'n ymwneud â'r mesuriad o gwmpas y boncyff, er mwyn symleiddio'r broses o’u hanfon allan. Y boncyff mwyaf a gynigir yw 18-20 cm. Cynhyrchir coed aml-goes hefyd, fodd bynnag mae'r rhain yn cael eu gwerthu yn ôl taldra yn hytrach na’r mesuriad o gwmpas y boncyff. Mae Wyevale yn dyfwr Quercus (Derw) mawr yn y DU.

Trawsblaniadau

 Mae'r rhain yn cael eu tyfu mewn cae ar system welyau naill ai o hadau neu drawsblaniad blwydd oed, wedi’u graddio. Maent yn cael eu tandorri er mwyn cynhyrchu system dda o wreiddiau ffibrog. Mae’r trawsblaniadau’n cael eu dyfrhau gyda gynnau glaw, fodd bynnag mae eginblanhigion yn cael eu dyfrhau â chwistrellwyr gan fod gynnau glaw yn callu capio'r pridd.

Mae gwrtaith yn cael ei chwalu dros y cnwd yn unol â’r dadansoddiad pridd / angen y cnwd, a defnyddir gwrtaith ar y dail hefyd.

Roedd yr hydref mwyn iawn wedi gohirio codi rhai rhywogaethau gan fod y trawsblaniadau'n arafach nag arfer yn mynd i mewn i gyfnod cwsg y gaeaf a dechrau colli eu dail. Roedd y gwaith codi wedi dechrau ac roedd tîm o 6 aelod o staff gyda dau dractor wedi codi 85 paled o stoc mewn deuddydd. Mae’r stoc yn cael ei raddio cyn ei werthu a naill ai'n cael ei storio'n oer neu wedi'i sodlu i'r pridd cyn ei werthu.

Mae ceirw’n dod yn broblem wrth i'w niferoedd gynyddu ac mae’n fwriad codi ffens geirw i leihau'r difrod i gnydau.



Related Pages


Tyfu Cymru visit to Wyevale Nurseries, Herefordshire

Wyevale is a family business that is being run by the third generation of the Williams family and is in its 93rd year of trading. Shrubs and herbaceous plants are container grown for both the retail and amenity markets. Transplants are field grown at…

13/12/2022 11:10:58

Tyfu Cymru visit to Wyevale Nurseries, Herefordshire

Wyevale is a family business that is being run by the third generation of the Williams family and is in its 93rd year of trading. Shrubs and herbaceous plants are container grown for both the retail and amenity markets. Transplants are field grown at…

13/12/2022 11:10:58