Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau ymgynghoriad â thyfwyr ffrwythau a llysiau yng Nghymru ynghylch eu profiadau uniongyrchol a’u hymatebion i argyfwng Covid 19 (C19).

Dosbarthwyd arolwg byr yn holi ynghylch effeithiau C19 ar dyfwyr ffrwythau a llysiau i gysylltiadau perthnasol Tyfu Cymru (tua 150) a thrwy’r cyfryngau cymdeithasol.  Cafwyd 34 o ymatebion dilys yn ystod y 12 diwrnod pan oedd yn fyw (27.03.20-06.04.20). Daw’r ymatebwyr o bob rhan o Gymru, ac maen nhw’n cynnwys amrywiaeth o wahanol fathau o fusnesau gwahanol faint.  Ar ben hyn, cynhaliwyd galwad fideo ar-lein ar 2 Ebrill, i ganiatáu i dyfwyr ac eraill drafod eu profiadau ac amlygu’r gefnogaeth mae arnyn nhw ei hangen.  Ychwanegir at ganlyniadau’r arolwg yma gyda themâu o’r drafodaeth hon. 

Crynodeb o’r Canfyddiadau

  • Roedd y rhan fwyaf o dyfwyr wedi profi cynnydd sydyn, dramatig yn y galw am eu cynnyrch. Mae’r rhain wedi parhau y tu hwnt i gyfnod cychwynnol o brynu mewn panig.
  • Er gwaethaf y ffaith bod llwybrau masnachu arferol wedi’u colli’n sydyn, nid yw’r tyfwyr wedi bod yn cynhyrchu gweddill. Ymatebodd y cynhyrchwyr yn gyflym i gael hyd i lwybrau gwerthiant amgen, gyda llawer yn dargyfeirio o’r fasnach arlwyo i ddosbarthu i gartrefi. 
  • Mae tyfwyr yn profi straen ar eu llwyth gwaith a’u capasiti oherwydd cyfuniad o ddiffyg gweithwyr a phwysau tasgau ychwanegol neu anghyfarwydd.
  • Mae parodrwydd a photensial amlwg i gynyddu’r ffrwythau a’r llysiau a gynhyrchir yng Nghymru. Fodd bynnag, nid oes gan y rhan fwyaf o dyfwyr adnoddau i gyflawni hyn, yn arbennig ar fyr rybudd. 

Ar hyn o bryd mae’r sector yn dangos ei werth fel cyflenwr cynnyrch ffres i ddefnyddwyr yng Nghymru.  Gyda chefnogaeth briodol, gallai hyn ddatblygu’n dwf parhaus.

Cydlynwyd yr Arolwg a’r Uwchgynhadledd gan: Dr Hannah Pitt (Prifysgol Caerdydd), Dr Amber Wheeler (Y Sefydliad Bwyd), Katie Palmer (Food Sense Wales), Sarah Gould (Tyfu Cymru). I gael gwybod rhagor, cysylltwch â pitth2@cf.ac.uk.

I weld yr adroddiad cliciwch ymaCanlyniadau cynhyrchwyr cynnyrch bwytadwy yng Nghymru Ebrill 2020



Related Pages


Welsh Fruit & Vegetable Growers Immediate Experiences & Responses to the COVID-19 crisis.

This report presents findings from a survey with fruit and vegetable growers in Wales regarding their immediate experiences of and responses to the Covid 19 (C19) crisis.

15/04/2020 15:18:29