Ben Hartman - Defnyddio'r System 'Lean' i Ennill Bywoliaeth Gyfforddus ar Fferm

Ymhellach i'n gweithdy poblogaidd Ben Hartman yn Cae Tan ym mis Ionawr, mae Ben wedi cytuno i barhau i gefnogi tyfwyr i ddarganfod mwy gyda Gweminar ar ei System Tyfu ‘Lean’.

Yn y weminar hon, bydd Ben Hartman, awdur 'The Lean Farm', yn egluro cysyniadau o'r system ‘lean’ y mae ef a'i wraig Rachel yn eu defnyddio i ennill bywoliaeth gyffyrddus ar lai nag un erw o dir.

Bydd Ben yn cynnig awgrymiadau concrit y gall ffermydd o unrhyw faint a math ddechrau eu defnyddio ar unwaith. Mae'r system wedi'i lleoli mewn gweithgynhyrchu yn Japan ac erbyn hyn mae'n cael ei defnyddio'n helaeth ym mhob math o ddiwydiannau. 

 

Gweld y Gweminar

(oherwydd natur y weminar hon mae'r recordiad ar gael yn Saesneg yn unig)