Gall rheoli profiad eich cwsmeriaid fod yn hanfodol i wneud y mwyaf o broffidioldeb eich busnes. Bydd angen i siopau fferm a busnesau casglu eich hun (PYO) ddarparu ffordd i gwsmeriaid dalu am eu cynnyrch, a gall symleiddio'r broses hon fod yn hanfodol wrth wneud y mwyaf o’ch apêl i gwsmeriaid a chyflymu trafodion mewn cyfnodau prysur. Bydd gwneud y broses hon yn haws yn cynyddu faint mae pobl yn debygol o'i wario naill ai drwy ganiatáu iddynt wario'n amlach - paned ychwanegol o goffi wrth gasglu ffrwythau - neu gynyddu cyfanswm gwariant heb boeni faint o arian sydd yn eu waled. Er bod siopau fferm sydd wedi'u sefydlu yn fwy tebygol o gael pwynt talu sefydlog, efallai y bydd busnesau newydd heb y cyfleusterau hynny yn gweld hyn yn her. Efallai y bydd busnesau PYO hefyd am symud cyfleusterau talu o amgylch eu safle wrth i gwsmeriaid gael eu llywio tuag at wahanol gaeau sy'n barod i'w cynaeafu. Gall cael system dalu symudol fod o gymorth yma felly - yn enwedig er mwyn lleihau'r amser rhwng casglu a thalu pan fydd modd bwyta ffrwythau cyn iddynt gael ei bwyso. Mae’n golygu bod diogelwch yn haws hefyd gan fod modd pacio offer i ffwrdd yn hawdd ar ddiwedd pob dydd yn hytrach na’i adael yn ei le.

Nid yw arian parod yn Frenin bellach!

Sut mae cwsmeriaid yn talu am eu nwyddau yn newid hefyd - daeth trafodion cardiau debyd  yn fwy poblogaidd nag arian parod yn 2017, ac mae’n debyg y bydd y rhain yn cynrychioli dros hanner yr holl drafodion erbyn 2024. Mae symud i ffwrdd o arian parod wedi cael ei yrru gan y cynnydd mewn taliadau â cherdyn digyswllt hefyd, ac mae hyn yn debygol o barhau gan fod uchafswm y taliad wedi'i godi i £45 yn ddiweddar – mae’n debyg y bydd y rhain yn cyrraedd 37% o'r holl daliadau erbyn 2028. Mae hyn wedi’i ysgogi gan lai o fynediad at beiriannau arian arferol, a gall hyn fod yn broblem benodol i fusnesau sy’n gwasanaethu twristiaid yng Nghymru lle mae ymwelwyr yn annhebygol o i gael mynediad dibynadwy at beiriannau  arian parod yn y lleoliadau mwy anghysbell. 

O ganlyniad i'r newidiadau hyn, mae llawer o dyfwyr yn ystyried systemau talu â cherdyn i'w cwsmeriaid er mwyn symleiddio gwerthiant ac ehangu mynediad cwsmeriaid. Mae systemau talu wedi darparu ar gyfer technoleg symudol yn gyflym, ac mae taliadau â cherdyn bellach yn hawdd eu gwneud mewn stondinau marchnad, siopau  dros dro a'r awyr agored lle’r oedd gwerthwyr yn flaenorol wedi'u cyfyngu i drafodion arian parod yn unig.

Systemau Talu Symudol

Er bod peiriannau cardiau confensiynol yn dal i fod yn opsiwn, gall darllenwyr cardiau symudol fod yn ddewis llawer mwy hyfyw. Mae'r rhain yn ddarllenwyr bach, maint cledr eich llaw, cardiau sy'n cynnal trafodion drwy ap ar ffôn symudol neu dabled wedi ei baru drwy Bluetooth ac yn cynnwys taliadau PIN a thaliadau digyswllt. Yna mae cyswllt yn cael ei wneud rhwng banciau ar draws Wifi neu rwydweithiau data symudol er mwyn caniatáu i'r trafodiad ddigwydd. Mae nifer o systemau symudol cost isel ar gael ac maent yn gyflym ac yn hawdd i’w sefydlu. Mae angen i chi brynu darllenydd cerdyn ond does dim angen i chi gofrestru ar gyfer contract neu danysgrifio a does dim taliadau misol. Rydych yn talu taliad bach ar bob trafodiad o tua 1 – 2%. Er bod hyn yn llai na ffioedd trin cardiau masnach cyffredinol sy'n gysylltiedig â therfynellau gwerthu mwy confensiynol, nid oes tanysgrifiad misol. Felly rydych ond yn talu pan fyddwch chi’n defnyddio’r peiriant. Mae hyn yn arbennig o ddefnyddiol ar gyfer tyfwyr PYO sydd ond angen prosesu trafodion dros gyfnodau penodol. 

Yn ogystal â chynnig taliadau â cherdyn, mae'r apiau sy'n cefnogi'r darllenwyr yn tueddu i gynnig ystod o fuddion eraill i helpu i symleiddio’r broses werthu o reoli stocrestrau ac anfonebu i reoli stoc a chyfrifeg, a dadansoddiadau hawdd eu gweld o'ch gwerthiant. Mae amrywiaeth o systemau talu symudol ar gael i fusnesau bach, ac mae crynodeb o nodweddion allweddol tair o'r prif systemau isod. 

iZettle www.izettle.com

 iZettle yw un o'r systemau talu symudol mwyaf cyffredin yn y DU. Mae'r darllenydd maint cledr eich llaw yn costio tua £60 heb gynnwys costau sefydlu na chostau cludo, a gallwch sefydlu cyfrif ar eu gwefan yn gyflym. Bydd angen i chi fewnbynnu rhywfaint o wybodaeth amdanoch chi'ch hun a'ch busnes, a byddwch yn barod i ddefnyddio’r offer unwaith y bydd gwiriadau hunaniaeth a chredyd wedi'u gwneud. Gall unig fasnachwyr neu bartneriaethau gofrestru'n hawdd er efallai y bydd angen i chi ddarparu rhywfaint o ddogfennaeth ychwanegol os nad ydych yn fusnes cofrestredig.

Mae iZettle yn system hynod boblogaidd gydag adolygiadau cadarn, ac mae'n cynnig llawer o fanteision i'ch helpu i redeg eich busnes. Er bod y darllenydd cerdyn yn gofyn am gysylltiad Wifi neu 3G/4G gan ddefnyddio ffôn symudol neu dabled pâr, yn ôl y sôn, mae'r system yn gweithio'n dda dros signalau symudol gwan. Mae’r darllenydd cerdyn yn cael ei wefru drwy USB, a bydd fel arfer yn para dros 250 o drafodion heb orfod ei wefru eto.  Gallwch brynu doc ychwanegol os yw'r darllenydd yn mynd i gael ei ddefnyddio mewn lleoliad sefydlog lle mae pŵer ar gael megis siop fferm neu gaffi. Ar gyfer siopau fferm sy'n gwerthu cynhyrchion barcodedig mae darllenwyr cod bar cydnaws i gyflymu trafodion hefyd.  

Mae’n derbyn taliadau o bob cerdyn credyd a debyd mawr, a byddant yn ymddangos yn eich cyfrif o fewn ychydig ddyddiau. Ar ôl i chi baru'r darllenydd â'r ap ar eich ffôn symudol neu dabled gan ddefnyddio Bluetooth, y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw rhoi’r taliad sy’n ddyledus ar yr ap a phwyso "Charge" - gall y cwsmer wedyn dalu gyda cherdyn fel arfer. Rydych yn annhebygol o gyrraedd y terfyn trafodion dyddiol o £200k, a'r swm trafodiad isaf yw £1. Byddwch yn talu cyfradd sefydlog o 1.75% y trafodyn fel y gallwch ragweld yn hawdd faint y bydd y system yn ei gostio i chi. Mae gan yr ap lawer o nodweddion i wneud trafodion prosesu (e.e. ad-daliadau) mor hawdd â phosibl, gan helpu hyn i fod yn un o'r systemau talu symudol mwyaf poblogaidd. Ni fydd y system yn gallu argraffu derbynebau, ond mae'r ap yn cynnig derbynebau e-bost ac ystod o ddadansoddeg i'ch helpu i olrhain gwerthiant ac mae argraffwyr cydnaws os ydych am allu cynnig derbynebau wedi'u hargraffu. Gallwch ychwanegu TAW ar yr ap, a gallwch hefyd gofnodi trafodion arian parod at ddibenion cyfrifyddu. Mae'r ap yn cynnig amrywiaeth o fuddion clyfar hefyd fel dadansoddeg ac opsiynau rheoli stoc os oes angen. 

Sum up www.sumup.co.uk

Mae Sum Up yn system hawdd ei defnyddio sy'n gweithio drwy baru darllenydd cerdyn bach gydag ap ar ffôn symudol neu dabled. Symlrwydd Sum Up yw ei fudd allweddol – yn gyflym ac yn syml i'w sefydlu a'i ddefnyddio, gall hyn fod yn opsiwn talu effeithiol iawn. Mae'r darllenydd yn costio tua £60, a gall archebu o wefan Sum Up ar ôl i chi gofrestru er y gall gymryd hyd at wythnos i’r archeb gyrraedd. Mae’r broses gofrestru'n gyflym ac yn syml a dylai gymryd dim ond 10 – 15 munud. Yn ogystal ag unig fasnachwyr a busnesau cofrestredig, mae Sum Up yn derbyn sefydliadau nid-er-elw ac unigolion preifat cyn belled â bod meini prawf penodol yn cael eu bodloni. 

Mae Sum Up yn cynnig dau fath o ddarllenydd. Mae'r darllenydd cerdyn "Sum Up Air" angen cysylltiad Bluetooth â ffôn neu dabled Android neu iOS, ond mae’n hawdd gwneud hyn yn yr ap. Mae'r darllenydd yn cael ei wefru gan gebl USB, a bydd yn para am tua 500 o drafodion er bod gorsaf ddocio ar gael hefyd. Os nad ydych chi eisiau paru'r darllenydd â thabled neu ffôn symudol, mae'r model "SumUp 3G" – mae hyn ychydig yn ddrytach am £100, ond mae ganddo SIM symudol mewnol felly ni fydd angen paru gydag ail ddyfais a gallwch reoli eich cyfrif ar-lein.

Mae'r ap talu yn syml ac yn hawdd i'w ddefnyddio: mae angen i chi roi’r taliad yn yr ap cyn gofyn i'r cwsmer dalu gan ddefnyddio dull talu digyswllt neu PIN ar ddarllenydd y cerdyn. Mae argraffwyr digyswllt yn gydnaws â darllenydd cerdyn SumUp Air, neu gallwch greu bwndel SumUp 3G ac Argraffydd. Bydd y taliadau yn eich cyfrif o fewn 2-3 diwrnod, neu gallwch ddewis cael eich talu ar amserlen wythnosol neu fisol. Mae cofnod o drafodion yn cael eu cadw ar y cwmwl i chi wirio’n ddiweddarach a gallwch ddefnyddio'r ap i logio trafodion arian parod hefyd. 

Bydd tâl trafodiad o 1.69% yn cael ei ychwanegu i'r holl drafodion, a bydd yn cael ei dynnu cyn i'r arian ymddangos yn eich cyfrif, ond nid oes costau misol penodol. Mae ad-daliadau am ddim o fewn 3 diwrnod (cyn i'r arian glirio i'ch cyfrif) ond byddwch yn talu’r tâl trafodiad ar ad-daliadau y tu allan i'r ffenestr honno. 

Square www.squareup.com

Mae Square yn fach ac yn syml – mae'n ddarllenydd cerdyn bach ysgafn sy'n cysylltu ar ben eich ffôn. Mae'r darllenydd yn derbyn taliadau digyswllt, ond os yw'r cwsmer eisiau defnyddio PIN mae’n cael ei roi ar y sgrin symudol ei hun. Mae symlrwydd y darllenydd yn ei wneud yn gymharol rad am £20, er y bydd angen ffôn symudol neu dabled er mwyn ei baru drwy Bluetooth. System syml, gost-effeithiol yw Sguare sydd wedi'i haddasu'n arbennig o dda i werthiant bwyd neu fanwerthu.

Mae Square yn gweithredu mewn modd tebyg i ddarllenwyr cardiau eraill - unwaith y bydd y ddyfais wedi ei baru â'ch ffôn symudol neu dabled rhowch y taliad ar yr ap a chliciwch i gadarnhau'r swm. Yna gall cwsmeriaid naill ai dalu drwy ddull digyswllt, neu drwy drosglwyddo’r ddyfais i'r cwsmer iddo roi’r PIN i mewn. Efallai y bydd rhai cwsmeriaid yn poeni am roi eu PIN mewn dyfais symudol yn hytrach na darllenydd cardiau, felly gallai fod yn werth meddwl am yr agwedd hon. Mae Square yn cynnig y Square Terminal hefyd – darllenydd cerdyn cyfun a phwynt gwerthu, er bod hyn yn ddrytach am £200, ac mae angen cysylltiad Wifi i weithio (nid yn symudol). Nid oes tâl misol rheolaidd, ond mae cyfradd fflat o 1.75% yn cael ei godi ar bob trafodiad, a bydd taliadau'n ymddangos yn eich cyfrif y diwrnod gwaith nesaf.

Mae gan Square nodweddion pwynt gwerthu cryf, gan gynnwys rhestrau a chategorïau mewn llyfrgell o gynhyrchion y gellir eu dewis yn gyflym fel rhan o'r archeb - gallai hyn fod yn arbennig o ddefnyddiol ar gyfer siopau fferm neu gaffis.

Safe & Secure

Gall systemau talu newydd ac anghyfarwydd fod o bryder am ddiogelwch eich cwsmeriaid a chi eich hun. Mae'r darllenwyr uchod yn cydymffurfio â safonau grŵp y Diwydiant Cerdyn Talu (PCI DSS/PTS) – dyma'r un rheolau y mae'n rhaid i ddarllenwyr cardiau confensiynol eu dilyn. Mae’r darllenwyr cerdyn yn cael eu cefnogi gan amddiffyniad corfforol a fydd yn eu gwneud yn ddiwerth os bydd rhywun yn ymyrryd ag ef ynghyd ag amgryptio o'r dechrau i'r diwedd i ddiogelu'r data ar gyfer pob trafodiad. Mae rhai systemau hefyd yn cynnig amddiffyniad rhag talu’n ôl rhag ofn y bydd cwsmer yn anghytuno â thrafodiad – er enghraifft, mae iZettle yn cynnig hyd at £250/mis yswiriant ar gyfer anghydfodau. 

Agweddau Eraill i'w Hystyried

Un o agweddau allweddol yr holl systemau hyn yw cysylltiad â wifi neu gysylltiad symudol – efallai y bydd hi'n ddoeth gwirio pa mor dda y gallwch chi gyflawni signalau symudol lle rydych chi'n bwriadu rhoi'r darllenydd cerdyn. Gall hefyd fod yn werth ystyried pa nodweddion ychwanegol y gall system eu cynnig. Er enghraifft, gall y nodwedd rheoli cyfrifon a gwerthu fod o gymorth wrth gadw llyfrau, neu gall symleiddio rheolaeth stoc ar siopau fferm gydag ystod o gynhyrchion sych neu hir oes. 

Ymwadiad

 Er bod pob ymdrech yn cael ei gymryd i sicrhau cywirdeb y nodiadau hyn, dim ond fel crynodeb ffeithiol o'r systemau sydd ar gael ac ni ddylid eu cymryd fel argymhelliad ar gyfer unrhyw system benodol. Cynghorir aelodau i adolygu'r wybodaeth a ddarperir gan bob system yn llawn cyn llunio barn ynghylch pa systemau sydd fwyaf addas ar gyfer eu busnes, a cheisio cyngor annibynnol lle bo hynny'n berthnasol. 



Related Pages


Webinar: Soft Fruit – Post Season

Chris Creed (Senior Horticulture Consultant, ADAS) delivered an interactive workshop looking at how the 2021 Season has gone. He talked about how to focus on crop supply and management with a targeted approach, where overwintered crops fit in and any…

24/01/2022 13:19:32

Webinar: Integrating Farm Tourism into your Horticulture Business

Have you considered a farm shop, a pop up café, a seasonal events calendar? How about an ‘Insta field’? The demand for photo worthy fields is on the rise, and with careful planning, establishing a pick your own will have the public flocking to your f…

24/02/2021 13:44:27

Webinar: Planning for the 2021 Season – Soft Fruit

ADAS technical expert Chris Creed delivered an interactive session to assist soft fruit producers with planning for the 2021 season.

02/02/2021 17:41:39

Technical Advice Sheet Pumpkin Power Hour – November

The start of the 2020 season was difficult. Late frosts until the first week in May and dry soils delayed planting, but heavy rains then delayed planting further.

14/12/2020 11:31:10

Technical Advice Sheet: Soft Fruit – July

Tyfu Cymru have launched regular Power Hour sessions for members of the Soft Fruit Network. These focused sessions are facilitated by Tyfu Cymru together with technical experts and include an update on topical issues based on growers instant needs, a…

30/09/2020 13:20:08

Technical Advice Sheet Pumpkin PYO Marketing with Covid

While many of the covid-19 restrictions are being relaxed, it’s likely to continue to pose a challenge for growers for the foreseeable future – especially for those selling directly to customers for whom a high footfall on site is needed to achieve g…

30/09/2020 13:07:45

Technical Advice Sheet: Soft Fruit Network – June 2020

From a growing perspective this has been a difficult season so far. We had seven months of wet weather, followed by two months of hot, dry weather and this has caused problems in soft fruit. Avoid re-using old bags even through the current crop may b…

27/07/2020 16:29:12

Welsh Fruit and Vegetable Production - Baseline Study

This baseline study for Tyfu Cymru was conducted by Dr. Amber Wheeler and looks at the opportunities for Welsh Fruit and Vegetable production.

26/06/2020 16:05:34

Welsh Fruit and Vegetable Production - Baseline Study

This baseline study for Tyfu Cymru was conducted by Dr. Amber Wheeler and looks at the opportunities for Welsh Fruit and Vegetable production.

26/06/2020 16:05:34

Technical Advice Sheet Pumpkin Power Hour – June

Tyfu Cymru have launched regular Power Hour sessions for members of the Pumpkin Network. These focused sessions are facilitated by Tyfu Cymru together with technical experts and include an update on topical issues based on growers instant needs, and…

25/06/2020 15:05:58

Technical Advice Sheet Strawberry & Raspberry May 2020

This fact sheet provides technical advice on managing your strawberry and Raspberry crops.

15/06/2020 16:44:26

Technical Advice Sheet Pumpkin planning and weed control – May

You should now be planning the planting for this year’s crop. If you’re new to pumpkins, it’s recommended that you plant transplanted seedlings rather than drilling. You’re just in time to order these from a propagator if you act quickly, and you sho…

28/05/2020 14:02:13

Pumpkin Disease Control

The main disease of concern in pumpkin during the early season is powdery mildew, and this can start to be a problem from June onwards, starting with flowering.

28/05/2020 13:50:36

Our Guide to Mobile Card Payment Systems

How customers pay for their goods is changing - debit card transactions overtook cash in 2017, and these are forecast to represent over half of all transactions by 2024. The move away from cash has also be driven by the increase in contactless card p…

28/05/2020 13:37:30

Our Guide to Mobile Card Payment Systems

How customers pay for their goods is changing - debit card transactions overtook cash in 2017, and these are forecast to represent over half of all transactions by 2024. The move away from cash has also be driven by the increase in contactless card p…

28/05/2020 13:37:30

Technical Advice Sheet: Raspberry & Cane Fruit

This technical advice sheet focuses on Raspberry and Cane Fruit, and provides information on Establishing & Managing Plantations, Pest Monitoring & Control, Raspberry Cane Midge, Phytophthora, Floricane Disease Assessments and COVID-19. An extract is…

13/05/2020 15:33:11

Technical Advice Sheet: Strawberry, April 2020

This fact sheet provides technical advice on managing your strawberry crops as the weather is starting to warm and the impact of COVID-19 takes hold.

29/04/2020 10:46:20

Soft Fruit Pests

These factsheets outline some of the common pests found within soft fruit crops.

24/04/2020 10:18:19

Managing Blossom End Rot in Pumpkin

Blossom End Rot (BER) is a particular problem that pumpkin growers face, especially when growing for pick-your-own (PYO) markets.

24/04/2020 09:57:25

Disease Management of Bush Fruit

Currants, gooseberries and blueberries can be an important addition to any soft fruit business, but effective pest and disease management is required to get the best out of your plants.

19/03/2020 10:42:23

Disease and Weed Management of Bush Fruit

Currants, gooseberries and blueberries can be an important addition to any soft fruit business, but effective pest and disease management is required to get the best out of your plants.

19/03/2020 10:30:45

Pick your Own (PYO): What you need to know to get 5* rated…

In our series of industry insights, we provide some background to the market, as well as some top tips on ensuring that your customer experience hits that important 5-star customer rating.

16/12/2019 13:38:55