Mae Rhwydwaith Llysiau Tyfu Cymru wedi lansio awr bŵer ar-lein er mwyn parhau i gefnogi tyfwyr yn ystod yr achosion o COVID-19. Cynhaliwyd y cyfarfod cyntaf ar 22 Ebrill 2020 ac roedd yn cynnwys cyngor arbenigol gan Chris Creed yn ADAS. Mae'r nodiadau technegol sy'n codi o'r Awr Bŵer bellach ar gael i'w lawr lwytho: Nodiadau Technegol Awr Pŵer Rhwydwaith Llysiau 22/04/2020

Trosolwg o'r Sylwadau Cyffredinol

Taenu gwrtaith – Gall gwrtaith fod yn ffordd wych o wella strwythur pridd a rhoi maetholion i’r cnwd, yn arbennig mewn llysiau organig. Nid yw gwrtaith ceffylau mor ffrwythlon â thorllwythi ieir ond mae’n cynnwys llawer o nitrogen. Cyn defnyddio gwrtaith, mae’n well ei gompostio mewn tomenni sydd wedi’u gorchuddio ac sy’n cael eu troi’n aml pan fydd y tymheredd yn cyrraedd 60°C. Bydd gorchuddio’r tomenni’n atal y maetholion rhag cael eu trwytholchi gan law, a bydd compostio effeithiol yn lladd unrhyw hadau chwyn fel na fyddwch yn eu lledaenu ar eich tir. Efallai dylech chwilio am unrhyw weddillion chwynladdwyr – dylech hau rhywfaint o bys neu ffa mewn padell a chwilio am egin cyn eu hau ar eich tir.

 

Dyfrhau – Mae’r tywydd sych parhaus yn golygu efallai bydd angen dyfrhau, yn arbennig ar drawsblaniadau diweddar. Pibelli dwr sy’n diferu a dyfrhad sy’n llifo’n araf yw’r ffyrdd mwyaf effeithiol o ddyfrhau’r pridd yn araf, ond byddwch yn ofalus ynghylch pryd rydych chi’n dyfrhau – gallai haen uchaf y pridd fod yn sych ond yn oer ac yn wlyb yn is i lawr. Bydd dyfrhad cynnar yn helpu’r trawsblaniadau wrth iddynt ddatblygu strwythur gwreiddiau ac wedyn trochi dŵr o lefelau dyfnach yn y pridd wrth iddi sychu yn ddiweddarach yn y tymor.

 

Rheoli Chwyn – Dylech flaenoriaethu rheoli chwyn, yn arbennig cyn plannu neu wrth sefydlu cnydau. Dylid rheoli clytiau glaswelltog/chwynnog gan eu bod yn gallu bod yn gronfa ar gyfer pysgod croen lledr (leather jackets) – os ydych yn gweld difrod ar eich cnydau, mae’n debygol mai oedolion y llynedd sydd wedi achosi hyn. Gall marchwellt fod yn broblem benodol, ond mae’n well ei dorri a’i godi yn aml i gyfyngu ar y tyfiant. Yn ddelfrydol, mae peiriannau danheddog hen ffasiwn y gwanwyn yn cael eu defnyddio gan eu bod yn tynnu’r rhisomau i fyny. Dylech wneud hyn ar ddechrau cyfnod sych. Ar ôl iddo weithio, dylech adael i’r rhisomau sydd ar yr wyneb sychu. Pan neu os bydd y marchwellt yn dychwelyd, gwnewch hyn eto. Mae’n well plannu cnydau sydd â chylchredau byr, fel salad, mewn ardaloedd ger gwelyau marchwellt gan y bydd yn haws eu rheoli yn hytrach na chnydau sy’n para blwyddyn neu gnydau lluosflwydd.

 

Cynllunio’r cylchdroadau – Gall cynllunio cylchdroadau eich helpu chi i gael yr enillion mwyaf posibl ar eich tir. Mae’n well cynllunio’r cnydau mwyaf llwglyd yn gynharach yn y cylchdroad – tatws a chorn-india – ar ôl i chi wrteithio. Gallwch gynllunio yn ôl grŵp teulu i leihau’r risg o afiechydon, ond byddai’n well cynllunio yn ôl yr amser cynaeafu. Ceisiwch blannu cnydau sy’n cael eu cynaeafu tua’r un pryd yn yr un ardaloedd o’r tir er mwyn i’r cnydau weithio ac i wneud y cynaeafu’n fwy effeithlon. Hefyd, ystyriwch ddwysedd plannu a gwneud yn siŵr eich bod yn cynllunio ar gyfer cyfraddau hadau neu drawsblaniadau addas er mwyn cynyddu’r nifer y gallwch ei gynaeafu.

 

Rhwyllau – Wrth blannu y tu allan, ystyriwch blannu o dan rwyll denau lle bo’n bosibl fel WonderMesh, Agromesh ac Enviromesh. Mae’r rhain yn gallu bod yn ddefnyddiol iawn i atal difrod gan blâu (ee chwilod naid, pryfed moron) ynghyd ag adar, cwningod a cheirw. Hefyd, bydd y rhwyllau’n creu microhinsawdd, gan gynhesu amgylchedd llysiau sydd wedi’u plannu a bydd yn cyflymu eginiadau a thwf cynnar. Byddai’n well ymarfer gosod y rhwyll i lawr wrth ymyl y cnwd cyn plannu ac yna ei thynnu dros y cnwd wrth i chi blannu. Gellir naill ai tyrchu’r rhwyll i mewn i’r pridd neu fe allwch ei dal i lawr gyda bagiau tywod. Dylid gadael y rhwyll yn ei lle tan y cynhaeaf er mwyn osgoi difrod gan blâu. Dylai’r cnwd allu cefnogi’r rhwyll, ac er y gallwch golli ambell i blanhigyn wrth osod y rhwyll dros y cnwd, mae hynny’n well na’r difrod gan blâu yr ydych yn ei osgoi.

Gellir lawr lwytho'r nodiadau technegol llawn yma: Nodiadau Technegol Awr Pŵer Rhwydwaith Llysiau 22/04/2020

Os ydych chi'n aelod o un o'n rhwydweithiau tyfwyr, cadwch lygad am fanylion am ein cyfarfodydd ar-lein rheolaidd ar gyfer aelodau'r rhwydwaith.

Mae'r sesiynau ffocws hyn yn cael eu hwyluso gan Tyfu Cymru ynghyd ag arbenigwyr technegol ac maent yn cynnwys diweddariad ar faterion amserol yn seiliedig ar anghenion tyfwyr, ac yn caniatáu ichi rannu cwestiynau â thyfwyr ac arbenigwyr technegol. Bydd y gwasanaeth yma’n golygu eich bod yn gallu parhau i gael cefnogaeth drwy’r rhwydwaith. Hoffech ymuno â rhwydwaith? Cysylltwch â tyfucymru@lantra.co.uk

 

Ymwadiad

Gwneir pob ymdrech i sicrhau cywirdeb yr wybodaeth a’r argymhellion a roddir yn y nodiadau hyn.  Dylid defnyddio’r holl gemegau amddiffyn cnydau yn unol ag argymhellion y labeli, a dylech eu darllen cyn eu chwistrellu. Efallai na fydd gan rai o’r plaladdwyr y sonnir amdanynt yn y nodiadau hyn argymhellion ar eu labeli ynghylch sut i’w defnyddio ar gnydau o bwmpenni ond fe’u caniateir drwy Estyniad Awdurdodi ar gyfer Mân Ddefnydd (EAMU) yn y DU o dan ‘Y Trefniadau Tymor Hir Diwygiedig ar gyfer Ymestyn Defnydd (2002)’. Yn yr achosion hyn, mae’r defnyddiwr yn defnyddio’r plaladdwyr ar eu risg eu hun ac nid yw Tyfu Cymru yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw golled neu ddifrod sy’n cael ei achosi o ganlyniad i’w ddefnyddio. Mae’r cyfeiriadau at y gymeradwyaeth a’r EAMU sydd ar y labeli ar gyfer defnyddio plaladdwyr mewn cnydau o bwmpenni yn gywir ar yr adeg y cafodd y labeli eu hysgrifennu. Gall y rhain newid a gellir tynnu cymeradwyaeth yn ôl unrhyw bryd. Cyfrifoldeb y tyfwr yw gwirio’r gymeradwyaeth cyn defnyddio’r plaladdwr. Os oes gan dyfwr unrhyw amheuaeth, dylent ofyn am gyngor gan gynghorydd cymwysedig BASIS – mae hyn ar gael am ddim ar gyfer tyfwyr cymwys drwy raglen Tyfu Cymru, cysylltwch â ni i drefnu apwyntiad – mae cyngor dros e-bost neu dros y ffôn ar gael hefyd.



Related Pages


Webinar: Nutrient Use Efficiency in Field Vegetables

Tyfu Cymru, Dr Lizzie Sagoo and Chris Creed of ADAS hosted this webinar on nutrient management strategies for field vegetables growers.

13/03/2023 14:04:45

Highlights from 'A Systems Approach to Organic Vegetable Production with Iain Tolhurst'

Iain Tolhurst has been at the forefront of the UK organic farming movement for over 40 years. His 8 ha farm has won many awards including finalist of “Soil farmer of the year”.

13/12/2022 12:00:08

Webinar: Crop Planning and Rotation – Field scale growing

Join Nick Bean (Springfields Produce), John Addams-Williams (Head of Field Operations, Puffin Produce Ltd) and Chris Creed (Senior Horticultural Consultant, ADAS) as they share their methods for success for field scale growing.

16/09/2021 13:38:51

Webinar: Crop Planning and Rotation – Small Growers

Crop rotation helps to reduce a build-up of crop-specific pest and disease problems and it organises groups of crops according to their cultivation needs. Additionally, crop rotations can improve soil structure and organic matter with this in mind cr…

16/09/2021 13:34:16

Webinar: Asparagus; a diversification crop for Wales

The webinar covers establishment and production including organic. Chris Creed from ADAS led this webinar. He was joined by Phil Handley from Mostyn Kitchen Garden and Adrian from Bellis Brother's Farm Shop who gave a grower’s perspective on the bene…

14/05/2021 13:16:57

Webinar: Veg network - Box scheme Financial session

Conventional and organic vegetable box schemes have increased in popularity significantly over recent years and sales topped £100 million last year. Ruth Evans an accountant who sits on the board for Cae Tan led this session. She outlined different…

07/05/2021 11:59:15

Webinar: Soil Health for Field Vegetable Growers

This event aimed to help growers understand how they can measure soil health and what they can do to protect and improve soil health on their farm. The meeting covered: What is soil ‘soil’ health? How can we measure it? Including options for in-field…

18/03/2021 13:59:56

Food Safety: What are the risks from food?

In the UK, we take food safety for granted, and very rarely consider what potential risks could be associated with eating. Safe food (being food that will not cause injury or illness) and is normally a given when food is bought in the UK.

10/02/2021 16:25:18

Webinar: Introduction to Agricultural Standards for Commercial Horticulture Production

This introductory webinar will be an overview of what an agricultural standard is, the main standards in the UK (Red Tractor, M&S Select Farm, LEAF, Soil Association etc) and will cover GlobalG.A.P for those that may want to export. It will give grow…

25/01/2021 15:27:33

Welsh Fruit and Vegetable Production - Baseline Study

This baseline study for Tyfu Cymru was conducted by Dr. Amber Wheeler and looks at the opportunities for Welsh Fruit and Vegetable production.

26/06/2020 16:05:34

Tyfu Cymru and Charles Dowding Q&A - Part 2: No Dig Methods and Advantages for Intensive Cropping

Charles Dowding joins us for a Q&A session with Welsh commercial growers following his walk through of No Dig Methods and Intensive Cropping in part one of the webinar series.

12/06/2020 17:04:55

Tyfu Cymru and Charles Dowding Webinar Part 1: No Dig Methods and Advantages for Intensive Cropping

In the first part of this webinar Charles presents the benefits of no dig and intensive cropping with an online walk through of no dig growing covering all aspects from no dig polytunnels to planting, composting, multisowing and propagation.

12/06/2020 16:59:52

Asparagus: Spring Pest Control

This fact sheet details spring pest control tips for growing asparagus.

29/04/2020 10:34:34

Technical Advice Sheet from the Vegetable Network Power Hour

The Tyfu Cymru Vegetable Network have launched an online power hour in order to continue to support growers during the COVID-19 outbreak.

28/04/2020 16:59:01