Sut y gallwch chi wella eich arferion cyllid a chyfrifyddu heddiw!

Gall rheoli eich gwybodaeth ariannol fod yn her i fusnesau bach ac rydym yn deall bod amser yn brin iawn, felly gallwn roi rhai cynghorion gwych i chi ar sut y gallwch wella eich arferion ariannol a chyfrifyddu, gan ddechrau heddiw!

Cyllid yw asgwrn cefn unrhyw fusnes, felly mae dilyn y cynghorion a’r awgrymiadau cyfrifyddu busnes hyn yn hollbwysig i lwyddiant busnes....

Pam fod hyn yn bwysig?

Yn sgil yr amodau economaidd ansicr yr ydym oll yn eu profi, mae pwysau cynyddol ar fusnesau i wneud y penderfyniadau cywir y tro cyntaf, ac er mwyn gwneud hynny, mae angen systemau rheolaeth ariannol ar fusnesau sy’n rhoi gwybodaeth gywir ac amserol sy’n addas i’r diben.

Mae angen i unrhyw fusnes wneud yn siŵr ei fod yn cofnodi gwybodaeth gyfrifo gywir, naill ai am resymau statudol a/neu dreth neu er mwyn sicrhau rheolaeth ariannol well a phenderfyniadau mwy gwybodus. Ac er nad oes unrhyw ofyniad cyfreithiol i baratoi cyfrifon rheoli, mae bron yn amhosibl canfod busnes llwyddiannus nad ydynt yn cynhyrchu cyfrifon rheoli rheolaidd.

Bydd proses gyfrifo reoli effeithiol yn helpu busnesau i:

  • Cymharu symiau gwirioneddol gyda rhagolygon
    Rheoli adnoddau yn well
  • Nodi tueddiadau
  • Monitro proffidioldeb
  • Gwerthuso effaith ariannol strategaethau a chynlluniau

Mae cofnodi gwybodaeth gyfrifo gywir yn helpu cwmnïau i ysgogi twf drwy wella rheolaeth ariannol a darparu offer ar gyfer gwneud penderfyniadau mwy gwybodus.  Dyma fyddai rôl Cyfarwyddwr Cyllid mewn sefydliadau mwy, ond dim ond ychydig iawn o gwmnïau llai sydd ag arbenigedd ariannol lefel uwch yn eu timau rheoli.  Wrth i fusnesau bach dyfu, mae rheolwyr-berchnogion yn aml yn canfod eu hunain mewn sefyllfa lle mae’n rhaid iddynt wisgo sawl het er mwyn cyflawni swyddogaethau gweithredol y busnes o ddydd i ddydd, ond mae ganddynt lai o amser i feddwl am ddyfodol y busnes yn y tymor hwy.

Ein hawgrymiadau gorau ar gyfer gwella eich prosesau....

Mae system gyfrifo gadarn yn agwedd hollbwysig ar gyfer rheoli unrhyw fusnes.  Waeth pa mor fach yw eich busnes, dylai cyfrifon gael eu diweddaru, dylent fod yn gywir ac ar gael yn gyfleus, oherwydd maent yn darparu gwybodaeth hollbwysig i chi am sefyllfa ariannol eich busnes.  Fodd bynnag, mae nifer o fusnesau bach yn ceisio ymdopi â heriau gweithredol o ddydd i ddydd wrth iddynt eu profi.

Ond dylai busnesau bach dreulio amser yn strwythuro categorïau a gweithdrefnau cyfrifyddu sy’n eu galluogi i ddadansoddi yn hwylus, canfod tueddiadau a chynllunio busnes, yn ogystal â sicrhau cydymffurfiaeth treth yn syml.  Bydd y buddiannau o neilltuo amser i greu seilwaith cyfrifo mwy cadarn yn creu buddiannau, gan alluogi busnesau i asesu graddfa a thwf.

Gallwch lawrlwytho ein herthygl wybodaeth i gael rhai o’n hawgrymiadau gwych ar sut y gallwch ddechrau gwella eich systemau heddiw....

Related Pages

Improve your finance and accounting practices

With the beginning of the new tax year taking place this month, what better time is there to evaluate and make improvements to how you manage your finance and accounting practices?

16/12/2019 13:40:04

Apprenticeships – how can my business benefit?

Hiring an apprentice is a productive and effective way for any business to grow talent and develop a motivated, skilled and qualified workforce.

16/12/2019 13:38:16