Download the Toolkit: CSA Summary Welsh PROOF 4.pdf

Partneriaeth rhwng ffermwyr a defnyddwyr yw cynlluniau Amaethyddiaeth a Gefnogir gan y Gymuned, lle mae’r cyfrifoldebau, y risgiau a’r buddion yn cael eu rhannu. Yn ymarferol, fel arfer mae’n golygu fod grŵp o bobl yn y gymuned (‘yr aelodau’) yn ymrwymo i brynu cyfran o gynnyrch fferm leol am flwyddyn. Wrth brynu cyfran o’r cynnyrch, yn hytrach na swm pendant, mae’r aelodau’n ysgwyddo rhywfaint o’r risg sydd ynghlwm wrth gynhyrchu bwyd.

Mae AGG yn fwy na ffordd wahanol yn unig o werthu bwyd. Mae busnesau’n meithrin cymunedau ar sail bwyd lleol. Yn aml mae’r aelodau’n gysylltiedig â rhedeg y busnes, er enghraifft gwirfoddoli yn y caeau neu’r sied pecynnu, helpu gydag agweddau megis rheolaeth ariannol a marchnata a hwyluso mynediad at dir neu fuddsoddiad cyfalaf. Mae dathlu ar y cyd trwy bartïon a digwyddiadau cymdeithasol eraill yn rhan annatod o feithrin cymuned.

Mae dysgu a sgiliau’n brif ffocws llawer o fentrau AGG. Mae aelodau’n dysgu sgiliau newydd trwy wirfoddoli, ac mae llawer o fusnesau’n trefnu gweithdai a digwyddiadau eraill ar gyfer aelodau a’r gymuned ehangach. Yn ogystal â dysgu anffurfiol, mae rhai busnesau’n cydweithio’n agos gydag ysgolion, prifysgolion a sefydliadau ymchwil eraill.

Mae’r ddogfen hon yn cyfleu trosolwg o AGG yng Nghymru, ac yn tynnu sylw at y buddion ar gyfer busnesau AGG, y cymunedau a wasanaethir ganddynt, a’r amgylchedd. Fe’i seilir ar ymchwil a gynhaliwyd rhwng Chwefror ac Ebrill 2020 gyda chefnogaeth Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol, Tyfu Cymru a Rhwydwaith AGG y DU.

Lawr lwythwch y crynodeb yma: AGG – Crynodeb

Am fwy o gwybodaeth ewch i: www.communitysupportedagriculture.org.uk