Dalen Cyngor Technegol Mafon a Ffrwythau Cansen

Mae'r daflen gyngor dechnegol hon yn canolbwyntio ar Sefydlu a Gofalu am Blanhigfeydd,Monitro a Rheoli Plâu, Phytophthora, Gwiddon Cansenni Mafon, Asesu Clefydau Cansenni Blodeuo a COVID-19, Pest Monitoring & Control, Raspberry Cane Midge, Phytophthora, Floricane Disease Assessments a COVID-19. Darperir dyfyniad isod, gyda'r daflen gyngor dechnegol lawn ar gael i'w lawrlwytho ar ddiwedd y dudalen hon.

Sylwadau Cyffredinol

Mae llawer o dyfwyr eisoes wedi symud neu’n ystyried symud oddi wrth gynhyrchu mafon mewn pridd i ddefnyddio mathau cansenni hir a dyfir mewn potiau swbstrad. Drwy ddefnyddio’r planhigion hyn a fu mewn storfa oer gellir amserlennu, pan gaiff nifer eu plannu yn yr awyr agored neu dan bolythen, gynhyrchiant y ffrwythau gan ddefnyddio mathau o fafon sy’n dwyn ffrwyth mewn un haf neu mewn nifer o hafau (floricane) dros gyfnod cynaeafu llawer hwy na fyddai’n bosibl fel arfer. Os gellir defnyddio tai gwydr neu dwneli polythen i warchod rhai o’r planhigion dilynol, gellid bod yn bosibl cael y planhigion i ddwyn ffrwyth o ganol i ddiwedd Mai hyd at ddiwedd Medi i ganol Hydref. Mewn rhai achosion mae’n bosibl na fydd tyfwyr ond eisiau cynhyrchu ffrwythau’n hwyrach nag sy’n bosibl o’u cnydau presennol o fafon ffrwythau haf a dyfir mewn pridd neu mewn swbstrad, neu efallai, oherwydd lleoliad y fferm, ni fydd cansenni cyntaf planhigion sefydledig cyltifarau megis Octavia, Glen Ample, Dee a Glen Carron, dros y rhan fwyaf o aeafau, mwyach yn cael eu hoeri’n ddigonol yn ystod y gaeaf erbyn diwedd y gaeaf/dechrau’r gwanwyn er mwyn i’r hyn sydd yn awr yn gansenni blodeuo egino yn wastad i lawr hyd y cansenni, ac mae hyn, mewn rhai achosion, yn arwain at fod llai na 25% o’r canghennau ochrol posibl yn dwyn ffrwyth.

Pan ddefnyddir mathau cansen hir mewn potiau neu mewn pridd i gynhyrchu ffrwythau, cânt eu rhoi mewn storfa oer ym mis Tachwedd a Rhagfyr pan mae’r cansenni cyntaf wedi gorffen tyfu, a phan fo’r dyddiau byrrach a’r tymheredd oerach yn golygu bod y blodau’n dechrau egino, gan ddechrau ar y brig ac, yna ym mhob nod, fwy neu lai ar hyd y cansenni. Caiff y planhigion eu cadw mewn storfa oer (nes bydd gofynion oeri’r cyltifarau unigol wedi eu cyflawni) ac yn unol â’r gofynion plannu er mwyn sicrhau bod y cynaeafu o bob swp o blanhigion a gaiff eu plannu yn dechrau 70-100 diwrnod ar ôl plannu. Bydd union ddyddiad dechrau’r gwaith cynaeafu unwaith eto yn dibynnu ar y math o blanhigyn, faint o gyfnod oeri mae’r planhigion wedi’i gael, y tymheredd cyn eu rhoi mewn storfa oer a hyd y dyddiau, ac a yw’r dydd yn ymestyn ynteu’n byrhau. Felly planhigion sy’n cael eu plannu ddiwedd Chwefror- Mawrth a Gorffennaf yn dwyn ffrwyth yn hwyrach na’r rheini a gaiff eu plannu ym mis Mai.

Mae’n well defnyddio mafon cansenni hir sy’n dwyn ffrwyth yn yr haf â dulliau cynhyrchu mewn potiau swbstrad yn hytrach na mewn pridd gan nad yw oes planhigion o’r math hwn o ddeunydd plannu fel arfer ond yn un flwyddyn neu ar y mwyaf ddwy flynedd. Mae’r rhan fwyaf o gyltifarau ond yn cynhyrchu cansenni cyntaf gwan neu brin iawn yn ystod yr ail flwyddyn gynaeafu. Os mai unwaith fydd y planhigion yn cael eu cynaeafu yna gellid defnyddio potyn 7.5L, neu os cânt eu cynaeafu am 2-3 blynedd yna caiff potiau 10 neu 12L eu defnyddio. Mae rhai tyfwyr yn defnyddio 2 blanhigyn mewn potyn 10 neu 12L i gynhyrchu cnydau dwy flynedd.

Yn fwy diweddar, mae rhai lluosogwyr planhigion cansenni hir wedi symud i gynhyrchu planhigyn cansen hir sengl mewn potyn 5 neu 7.5L, ni chaiff y planhigion hyn eu potio eilwaith.  Ar ôl i’r compost o amgylch gwreiddiau’r planhigion a fu mewn storfa oer ddadmer yn llwyr, caiff y planhigion cansenni hir eu gosod yn eu lleoliad dwyn ffrwyth, caiff y cansenni eu clymu wrth y dellt cynnal â chortyn neu glipiau plastig, gosodir yr offer diferu dŵr ar neu yng nghompost pob potyn ac mae’r planhigion yn dechrau tyfu.

Nid yw’r planhigion hyn ond yn addas i gynhyrchu un cnwd, ac ar ôl eu cynaeafu, caiff y system ddyfrhau ei datgysylltu a gadewir y planhigion i wywo a marw. Ar ôl iddynt farw cânt eu rhyddhau o’r dellt a gosodir eu potiau yn y rhesi a chânt eu malu’n dipiau i’w hailgylchu.  Mae’r rhaglen rheoli plâu a chlefydau ar gyfer y planhigion un cnwd hyn, a’r gost o reoli’r planhigion, yn llawer is. Gellir cael gwared ar yr hyrddiad cyntaf o dwf y cansenni cyntaf, yr ail hyrddiad ac weithiau’r trydydd drwy chwistrellu carfentrazone ethyl (Shark EAMU 0622/19) yn uniongyrchol, a dylid aros cyn gwasgaru’r plaladdwr nes bo’r cansenni cyntaf talaf sy’n bresennol o amgylch y cansenni blodeuo yn y potiau yn ddim mwy nac 20cm o uchder.  Nid oes angen chwistrellwyr i reoli clwy cansenni na gwybed cansenni mafon. Sylwer fodd bynnag fod Shark angen bwlch o 21 diwrnod rhwng cynaeafu, y gyfradd wasgaru uchaf unigol yw 800mls cynnyrch/ha trin, ond os caiff ei wasgaru ar yr adeg iawn, dim ond 400 neu ar y mwyaf 500mls/ha fydd yn ofynnol. Mae’n gyflymach ac yn haws cynaeafu’r ffrwythau (yn enwedig i gwsmeriaid ‘casglu eich hunain’) gan nad oes dim cansenni cyntaf yn bresennol i guddio’r ffrwythau rhag y casglwyr.

Gyda phlanhigion sydd wedi’u gwarchod mewn tai gwydr neu dwneli sy’n cael eu hawyru’n dda, mae’n bosibl na fydd angen gwasgaru ffwngleiddiaid i reoli rhwd mafon neu botrytis ac ni fydd ond angen defnyddio chwistrellau yn erbyn llwydni powdrog os gwyddys bod y math o blanhigyn yn agored iawn i’r clefyd hwn e.e. Glen Ample.

COVID-19

Mae’r sefyllfa bresennol yn effeithio ar y sector mewn amrywiol ffyrdd, ac er bod siopau ffermydd yn gweld cynnydd yn eu busnes, ychydig o fynediad i gwsmeriaid sydd gan dyfwyr ‘casglu eich hunain’. Gellir defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol ar gyfer hysbysebu dethol (yn enwedig os yw tyfwyr casglu eich hunain yn gwerthu bocsys bach) a gall hefyd fod yn ddefnyddiol i reoli torfeydd pan ddychwelwn i normal. Efallai y byddai tyfwyr casglu eich hunain yn dymuno oedi eu cnydau (naill ai drwy blannu’n hwyrach neu arafu’r cnwd drwy adael twneli heb orchudd). Efallai y byddech hefyd yn dymuno sicrhau bod gennych ddigon o gyflenwadau gan archebu ymlaen llaw, yn enwedig gynhyrchion cemegol a biolegol, i sicrhau eich bod yn gallu cadw rheolaeth dros y tymor.  

Dadlwythwch y Daflen Cyngor Technegol lawn yma: Dalen Cyngor Technegol Mafon a Ffrwythau Cansen

Ymwadiad

Gwneir pob ymdrech i sicrhau cywirdeb  yr wybodaeth a’r argymhellion a roddir yn y nodiadau hyn.  Dylai’r holl gemegolion amddiffyn cnydau gael eu defnyddio’n unol â’r argymhellion ar y label, a dylid cyfeirio at yr argymhellion hynny cyn chwistrellu.  Efallai na fydd rhai o’r plaladdwyr a grybwyllir yn y nodiadau hyn yn cael eu cefnogi gan argymhellion ar labeli ar gyfer eu defnyddio ar gnydau pwmpenni ond eu bod yn cael eu caniatáu drwy’r Estyniad o Ganiatâd ar gyfer Mân Ddefnydd (EAMU) yn y DU dan y Trefniadau Hirdymor Diwygiedig ar gyfer Ymestyn Defnydd (2002). Yn yr achosion hyn, defnyddir y plaladdwr ar risg y defnyddiwr ei hun ac nid yw Tyfu Cymru’n derbyn atebolrwydd am unrhyw golled neu ddifrod a achosir gan ddefnydd o’r fath. Mae’r cyfeiriadau at gymeradwyaeth ar labeli ac EAMU ar gyfer defnyddio plaladdwyr mewn cnydau mafon yn gywir adeg ysgrifennu. Gall y rhain gael eu newid a gallai cymeradwyaeth gael ei thynnu’n ôl ar unrhyw adeg. Cyfrifoldeb y tyfwr yw gwirio’r cymeradwyaethau cyn defnyddio plaladdwyr. Os bydd unrhyw amheuaeth, dylai tyfwr geisio cyngor gan gynghorydd sy’n gymwys dan BASIS - mae hyn ar gael yn rhad ac am ddim ar gyfer tyfwyr cymwys drwy raglen Tyfu Cymru, cysylltwch â ni i drefnu apwyntiad – mae cyngor drwy e-bost/dros y ffôn hefyd ar gael. 



Related Pages


Webinar: Soft Fruit – Post Season

Chris Creed (Senior Horticulture Consultant, ADAS) delivered an interactive workshop looking at how the 2021 Season has gone. He talked about how to focus on crop supply and management with a targeted approach, where overwintered crops fit in and any…

24/01/2022 13:19:32

Webinar: Planning for the 2021 Season – Soft Fruit

ADAS technical expert Chris Creed delivered an interactive session to assist soft fruit producers with planning for the 2021 season.

02/02/2021 17:41:39

Technical Advice Sheet: Soft Fruit – July

Tyfu Cymru have launched regular Power Hour sessions for members of the Soft Fruit Network. These focused sessions are facilitated by Tyfu Cymru together with technical experts and include an update on topical issues based on growers instant needs, a…

30/09/2020 13:20:08

Technical Advice Sheet: Soft Fruit Network – June 2020

From a growing perspective this has been a difficult season so far. We had seven months of wet weather, followed by two months of hot, dry weather and this has caused problems in soft fruit. Avoid re-using old bags even through the current crop may b…

27/07/2020 16:29:12

Welsh Fruit and Vegetable Production - Baseline Study

This baseline study for Tyfu Cymru was conducted by Dr. Amber Wheeler and looks at the opportunities for Welsh Fruit and Vegetable production.

26/06/2020 16:05:34

Technical Advice Sheet Strawberry & Raspberry May 2020

This fact sheet provides technical advice on managing your strawberry and Raspberry crops.

15/06/2020 16:44:26

Our Guide to Mobile Card Payment Systems

How customers pay for their goods is changing - debit card transactions overtook cash in 2017, and these are forecast to represent over half of all transactions by 2024. The move away from cash has also be driven by the increase in contactless card p…

28/05/2020 13:37:30

Technical Advice Sheet: Raspberry & Cane Fruit

This technical advice sheet focuses on Raspberry and Cane Fruit, and provides information on Establishing & Managing Plantations, Pest Monitoring & Control, Raspberry Cane Midge, Phytophthora, Floricane Disease Assessments and COVID-19. An extract is…

13/05/2020 15:33:11

Technical Advice Sheet: Strawberry, April 2020

This fact sheet provides technical advice on managing your strawberry crops as the weather is starting to warm and the impact of COVID-19 takes hold.

29/04/2020 10:46:20

Soft Fruit Pests

These factsheets outline some of the common pests found within soft fruit crops.

24/04/2020 10:18:19

Disease Management of Bush Fruit

Currants, gooseberries and blueberries can be an important addition to any soft fruit business, but effective pest and disease management is required to get the best out of your plants.

19/03/2020 10:42:23

Disease and Weed Management of Bush Fruit

Currants, gooseberries and blueberries can be an important addition to any soft fruit business, but effective pest and disease management is required to get the best out of your plants.

19/03/2020 10:30:45