Ddydd Gwener, cyhoeddodd y Gweinidog ddatganiad ysgrifenedig a datganiad i’r wasg yn amlinellu pecyn cymorth ar gyfer garddwriaeth ochr yn ochr â chymorth arall i ffermwyr, coedwigwyr, rheolwyr tir a busnesau bwyd Cymru.

Mae'r datganiad ysgrifenedig i'w weld yn y ddolen isod, sydd hefyd yn cynnwys atodiad sy'n rhestru'r gwahanol gynlluniau.
 

Datganiad Ysgrifenedig: Cyllid i gefnogi'r economi wledig a'r newid i'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy(1 Ebrill 2022) | LLYW.CYMRU

DATGANIAD I’R WASG:

https://llyw.cymru/227-miliwn-i-helpu-economi-wledig-cymru-greu-dyfodol-mwy-gwyrdd-chynaliadwy
 



Cynllun Datblygu Garddwriaeth:

Mae sector garddwriaeth fywiog yn uchel ar agenda Llywodraeth Cymru ar gyfer datblygu diwydiant amaethyddol cynaliadwy wrth iddo sicrhau ystod o fanteision amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd. Bydd cymorth yn anelu at gyflwyno materion allweddol, fel, datblygu cynaliadwy, hyfforddiant, gwella perfformiad busnes ac effeithlonrwydd, yn ogystal â gwella ansawdd ac enw da cynnyrch Cymreig yn gyson.

Agorodd y cynllun Datblygu Garddwriaeth i gynhyrchwyr garddwriaethol presennol ar 4 Ebrill 2022.

Gweler isod y ddolen i’r ddogfen Canllawiau Datblygu Garddwriaeth:
https://llyw.cymru/cynllun-datblygu-garddwriaeth-llyfryn-rheolau

Cyfeiriad e-bost ar gyfer ymholiadau cychwynnol - garddwriaeth@llyw.cymru

Sylwch, os oes gan yr ymgeiswyr rif CRN, gallant gyfeirio cwestiynau at Gyswllt Cwsmeriaid.
 



Mae cynlluniau perthnasol eraill yn cynnwys:

  • Cynllun Garddwriaeth – Cychwyn - Cynllun i gefnogi newydd-ddyfodiaid i sector garddwriaeth Cymru. Mae disgwyl i’r cyfnod datgan diddordeb agor ym mis Mai.
  • Y Cynllun Troi at Ffermio Organig - Cynllun i gefnogi ffermwyr i droi at ddefnyddio systemau cynhyrchu organig. Mae disgwyl i’r cyfnod datgan diddordeb agor ym mis Gorffennaf

Gwelwch Rhestr lawn o gynlluniau sydd i ddod