Datgelodd adroddiad gan Gymdeithas y Pridd fod marchnad organig y DU yn werth £2.33 biliwn erbyn hyn, gyda thwf o 5.3% yn 2018, y gwerth uchaf a roddwyd ar y farchnad organig erioed. Mae Adroddiad 2019 ar y Farchnad Organig yn dangos seithfed mlynedd ddilynol o dwf ac yn dangos bod bron i £45 miliwn yn cael ei wario ar organig bob wythnos yn y DU. Yma, rydym yn edrych ar uchafbwyntiau’r adroddiad a’r tueddiadau…

 

Y farchnad organig ar gynnydd...

Dywed yr adroddiad fod y tir sy’n troi i organig yn y DU wedi codi 30%; cynyddodd cyfanswm y tir organig 1.9% a chynyddodd nifer y proseswyr organig fwy na 6%. Yn ddiddorol, Cymru sydd â'r ganran uchaf o dir yn cael ei ffermio’n organig yn y DU, ar 5.6%. Dalwyr trwyddedau o Gymru sydd hefyd wedi gweld y cynnydd mwyaf mewn gwerthiant organig - cynnydd o 27%1.

Danfon cynnyrch organig i’r cartref, drwy werthiant ar-lein a chynlluniau bocsys, oedd y ffordd i’r farchnad a dyfodd gyflymaf yn 2018, yn codi 14.2%, ac mae’r sianel hon i gyfrif am 14% o’r holl werthiant organig erbyn hyn. Tyfodd gwerthiant organig i wasanaethau bwyd hefyd bron i 8%, i £90.9 miliwn.

Dywedodd Rose Price, Pen Prynwr Ocado:

 ““Gwyddom mor bwysig yw organig i’n cwsmeriaid, a dyna pam yr ydym wedi treulio’r flwyddyn ddiwethaf yn ehangu ein cynigion organig i ddiwallu’r galw cynyddol. Nid ydym yn gweld unrhyw derfyn ar y twf cryf mewn organig. Mae’r farchnad wedi cael hwb gan genhedlaeth newydd o siopwyr sydd am wario’u henillion ar fwyd a diod sydd nid yn unig yn well iddyn nhw, ond yn well hefyd o ran lles anifeiliaid a’r amgylchedd.”

Mae’r adroddiad yn amlygu:

  • Erbyn 2020, mae marchnad organig y DU ar y trywydd iawn i daro targed gwerth o £2.5biliwn
  • Mae’r farchnad ar ei hwythfed mlynedd o dwf erbyn hyn
  • Mae bron i chwarter pobl Prydain yn gwneud eu prif siopa ar-lein
  • Danfon cynnyrch organig i’r cartref, drwy werthiant ar-lein a chynlluniau bocsys, sy’n tyfu gyflymaf ar 14.2%. Mae’r sianel hon i gyfrif am 14% o'r holl werthiant. Erbyn 2023, mae danfon i’r cartref ar y trywydd iawn i daro’r targed o fod yn gyfrifol am chwarter o holl werthiant organig y DU
  • Cynyddodd gwerthiant organig archfarchnadoedd (heb gynnwys siopau disgownt) 3.3%. Drwyddi draw, aeth cyfran yr archfarchnadoedd o’r farchnad organig yn llai. Mae ganddynt 56.8% o’r gwerthiant, o'i gymharu â 67% yn 2017
  • Cynhaliodd manwerthwyr annibynnol werthiant organig cryf, gyda 6.2% o gynnydd. Mae manwerthwyr annibynnol newydd a mwy o amrywiaeth gan gyfanwerthwyr wedi helpu i wella’r dewis o gynnyrch organig
  • Categorïau allweddol sy’n gyrru twf yn y farchnad:
    • Cwrw
    • Gwin
    • Gwirodydd
    • Bwydydd wedi’u Hoeri
  • Mae cynnyrch ffres a bwydydd tun neu fwydydd wedi’u pecynnu hefyd wedi gweld twf cyson
  • Mae gwerthiant dalwyr Trwydded Cymdeithas y Pridd wedi cynyddu bron i 9%, llawer mwy na thwf y farchnad
  • Mae gwerthiant cynnyrch organig i wasanaethau bwyd wedi codi bron i 8%; bu gwariant drwy enillwyr gwobrau Food for Life yn help yn hyn o beth, er gwaethaf y toriadau i gyllidebau gwariant cyhoeddus.
  • Roedd mwy o alw o du tai bwyta’r stryd fawr mewn ymateb i’r galw gan gwsmeriaid am opsiynau cynaliadwy
  • Mae gwerthiant ffrwythau ffres, salad a llysiau wedi cynyddu £15 miliwn yn fras yn ystod y flwyddyn.

Lawrlwythwch yr adroddiad llawn:

Mae’r adroddiad yn edrych yn fanwl ar y tueddiadau gwerthu ar draws pob sianel a’r prif resymau am y twf hwn - mae’n cynnwys diweddariadau ar berfformiad cynnyrch organig mewn archfarchnadoedd, siopau annibynnol, a’r sector gwasanaeth bwyd ac yn edrych yn fanwl ar ddanfon bwyd i’r cartref. Mae’r adroddiad am ddim i’r rhai sydd â Thrwydded Cymdeithas y Pridd (rhif eich tystysgrif yw’r cyfan y mae ei angen arnoch) ac mae’n costio £100 +TAW i’w brynu i’r sawl sydd heb drwydded. https://www.soilassociation.org/certification/market-research-and-data/download-the-organic-market-report/



Related Pages


Considering Converting? The First Step Towards Organic Production

Demand for organic produce and products in the UK has been consistently on the rise for nearly a decade, primarily driven by an increase in consumer awareness around health and environmental issues.

27/07/2020 16:12:31

Organic Market Report 2019 - Insights

A report by the Soil Association revealed that the UK organic market is now worth £2.33 billion with a 5.3 percent growth in 2018...

19/03/2020 12:46:55

Organic Market Report 2019 - Insights

A report by the Soil Association revealed that the UK organic market is now worth £2.33 billion with a 5.3 percent growth in 2018...

19/03/2020 12:46:55

Embracing Wonky

Wonky, over-sized, under-sized and over-blemished - the fruits and vegetables that until recently, never made it down the supermarket aisle catwalk.

16/12/2019 15:44:34

Grown not Flown Flowers

The cut flower market can learn a lot from the way the food and drink industry has promoted provenance and local sourcing as a way to tap into the increasing consumer interest in understanding where our food has come from. And it isn’t a huge step fr…

16/12/2019 13:39:34