Beth yw pwrpas Ardystiad y Tractor Coch?

Lansiwyd safon y Tractor Coch yn wreiddiol yn 2000 ac mae wedi datblygu i ddod yn gynllun safonau fferm a bwyd mwyaf adnabyddus y DU, sy’n cwmpasu diogelwch bwyd, gwybodaeth olrhain a dulliau amddiffyn yr amgylchedd. Mae tua 2,500 o Dyfwyr Cynnyrch Ffres ardystiedig, sef tua 75% o'r tyfwyr cynnyrch hysbys yn y DU.

Fwyfwy, mae defnyddwyr eisiau gwybod bod y bwyd maent yn ei brynu yn ddiogel ac wedi'i dyfu gyda'r amgylchedd mewn golwg. Dim ond o wybod o ble y daw’r cynnyrch a'r safonau y mae’n ofynnol cynhyrchu iddynt y ceir hyn. Mae safon y Tractor Coch yn tystio bod bwyd wedi'i gynhyrchu i safonau a arolygwyd yn annibynnol ar draws y gadwyn fwyd gyfan.

Mae cynllun Cynnyrch Ffres y Tractor Coch yn cynnwys amrywiaeth o gnydau, o gnydau gwreiddiau i saladau a ffrwythau. Mae safon benodol o gwestiynau ar gyfer pob cnwd, sy'n ymwneud ag iechyd ac amddiffyn cnydau, agweddau amgylcheddol, ac iechyd a diogelwch gweithwyr, gyda phob un yn cyfrannu at ddiogelwch bwyd. Yn dibynnu ar y cnydau rydych yn eu tyfu a'r gweithgareddau rydych yn eu gwneud, ceir hyd at 201 cwestiwn (er yn ymarferol, mae'n debyg na fydd nifer fawr o'r rhain yn berthnasol). Yn ogystal, gall fod gan bob cnwd set o safonau penodol y mae'n ofynnol i gynhyrchwyr gadw atynt.

 

Pam dod yn Ardystiedig gyda’r Tractor Coch?

Mewn blwyddyn dda, efallai y gallwch werthu'r holl gynnyrch rydych yn ei dyfu yn uniongyrchol i'ch cwsmeriaid presennol. Fodd bynnag, beth sy'n digwydd os ydych yn cynhyrchu mwy nag y gallwch ei werthu, neu os nad yw cwsmer presennol yn gallu prynu gennych mwyach? Gall ardystiad Tractor Coch agor drysau i ddarpar gwsmeriaid newydd, gan gynnwys proseswyr a manwerthwyr.

Fwyfwy, bydd cwsmeriaid newydd yn ei gwneud yn ofynnol i dyfwyr cynnyrch ffres gael rhyw fath o ardystiad diogelwch bwyd. Yn y DU, bydd hyn fel arfer yn golygu Tractor Coch, er os ydych yn allforio, yna efallai y bydd angen ardystiad GlobalG.A.P. hefyd (gellir cynnwys hwn gyda’r broses ardystio Tractor Coch os oes angen).

Bydd y mwyafrif o fanwerthwyr ond yn pacio cynnyrch ffres gan dyfwyr sydd wedi'u hardystio i safon gydnabyddedig, ac yn aml mae hyn hefyd yn berthnasol i fwydydd wedi'u prosesu, fel prydau parod.

Er mwyn i unrhyw fanwerthwr neu brosesydd roi logo'r Tractor Coch ar eitemau cynnyrch ffres, mae'n rhaid iddynt allu profi tarddiad eitemau o’r cynnyrch. Bydd hyn yn cael ei brofi gan archwilwyr annibynnol sy'n perfformio gwiriadau ar hap ar eitemau wedi'u labelu â Thractor Coch.

Sut i gael eich ardystio?

I gael eich ardystio, bydd angen i chi lawrlwytho copi o safon Cynnyrch Ffres y Tractor Coch, ac unrhyw brotocolau cnwd penodol (gweler y dolenni isod).

Ar ôl i chi ddarllen y safon a'ch bod yn gyffyrddus y gallwch ateb yr holl gwestiynau, bydd angen i chi ddewis corff ardystio i gofrestru ag ef. Mae tri chorff ardystio yn y DU sy'n gallu archwilio safon Cynnyrch Ffres y Tractor Coch ar hyn o bryd.

Gellir llwytho gwybodaeth gychwynnol i fyny i borth y Tractor Coch, cyn i chi gael archwiliad o bell neu wyneb yn wyneb i wirio pwyntiau penodol.

Yn dilyn yr archwiliad, rhoddir rhestr i chi o unrhyw argymhellion neu ddiffyg cydymffurfiaeth (fydd dim gormod o’r rheini gobeithio). Ar ôl rhoi sylw i’r enghreifftiau o diffyg cydymffurfio, rhoddir tystysgrif i chi, a rhoddir eich manylion ar system Gwirwyr y Tractor Coch.

 

Swnio’n gymhleth?

Mae Tyfu Cymru yn gweithio gydag ymgynghorwyr diwydiant i adeiladu portffolio o ddogfennau syml y gellir eu haddasu i ddiwallu anghenion eich busnes.

Mae'r dull hwn yn ystyried y safon ac yn edrych ar y cwestiynau y bydd yr archwilydd yn eu gofyn, ac yna'n dyfeisio’r ffordd hawsaf i dyfwr ddangos cydymffurfiad. Gan fod popeth wedi'i seilio ar y safon a'ch busnes, dylai fod yn ffordd hwylus o gyflawni’r archwiliad.

Trwy ddefnyddio dogfennau sydd eisoes wedi eu profi gan dyfwyr eraill i basio archwiliadau yn llwyddiannus, mae'n cynnig ffordd haws i chi gydymffurfio â gofynion cynyddol Safon Cynnyrch Ffres y Tractor Coch.

 

Eisiau mwy o fuddion?

Er y gellir ystyried y Tractor Coch yn gost, mae yna nifer o fuddion eraill a allai helpu i'w hyrwyddo.

  • Ymgysylltu â chwsmeriaid i hyrwyddo safonau ffermio diogel a chynaliadwy yn y DU.
  • Mae gan dyfwyr Tractor Coch fynediad i wefan cronfa ddata cymeradwyo plaladdwyr FERA Liaison.
  • Gall tyfwyr hawlio pwyntiau BASIS am fynd i archwiliad Tractor Coch (6 phwynt y flwyddyn ar hyn o bryd).
  • Tractor Coch yw un o'r safonau llinell sylfaen sy'n ofynnol i dyfwr gael ardystiad LEAF Marque.
  • Gall tyfwyr sydd angen ardystiad GlobalG.A.P. gael hyn yn hawdd ar yr un pryd ag archwiliad y Tractor Coch.
  • Gall cael ardystiad gael gwared ar yr angen i lenwi holiaduron cyflenwyr.

Dolenni Cyswllt

Tractor Coch

https://assurance.redtractor.org.uk/

Safon Cynnyrch Ffres

https://assurance.redtractor.org.uk/standards/search?c=13

Protocolau sy’n benodol i gnydau

https://assurance.redtractor.org.uk/standards/fresh-produce-crop-protocols