Beth mae ardystio ac achredu yn ei olygu.

Felly, beth mae’r geiriadur yn ei ddweud?

Ardystiad yw cadarnhad ffurfiol o rai o nodweddion gwrthrych, person neu sefydliad. Fel rheol darperir y cadarnhad hwn gan ryw fath o adolygiad, asesiad neu archwiliad allanol.

Achredu yw proses ardystio sefydliad penodol.

 

Sy’n golygu?

Felly, yn syml, ardystio yw pan fydd person allanol yn gwirio prosesau ac arferion cwmni yn erbyn safon ffurfiol. Mae’n ffordd o wirio bod cwmni’n gwneud yr hyn y dylai fod yn ei wneud.

Mae achrediad yn gwirio bod y cynllun ardystio yn gweithio.

 

Pam cael eich ardystio?

Mae llawer o gwsmeriaid yn defnyddio ardystiad yn erbyn safon archrededig er mwyn cymeradwyo cyflenwr newydd. Oherwydd bod y cyflenwr eisoes wedi’i archwilio, mae’n arbed y cwsmer rhag gorfod eu harchwilio drostynt eu hunain ac yn arbed y cyflenwr rhag cael eu harchwilio fwy nag unwaith gan sawl cwsmer.

Mae llawer o gynlluniau ardystio hefyd yn caniatáu brandio/defnydd logo (logo Tractor Coch, LEAF) er mwyn hyrwyddo budd neu nodwedd benodol sydd i’r cynnyrch.

Mae gan rai cynllunio ardystio system sgorio y gellir ei defnyddio i feincnodi perfformiad cwmnïau yn erbyn cwmnïau tebyg.

 

Ble i ddechrau

Mae yna lawer o wahanol fathau o ardystiadau ar gael i ffermwyr a busnesau bwyd. Manylir ar berthnasedd gwahanol gynlluniau isod.

Tractor Coch

Mae hwn yn safon fferm ledled y DU gyda gwahanol opsiynau ar gyfer cynnyrch ffres, cnydau y gellir eu llosgi, cig eidion a chig oen, llaeth, dofednod a moch.

Mae'r safon Cynnyrch Ffres yn archwilio pob cam o ddewis safle hyd at gynaeafu a phacio ffrwythau / llysiau cyfan ar y fferm lle bo hynny'n berthnasol. Nid yw'n archwilio prosesu cnydau (h.y. nid yw'n berthnasol i datws wedi'u plicio). Mae'n canolbwyntio'n bennaf ar ddiogelwch bwyd (asesu risg, halogi maleisus a gweddillion a halogwyr). Fodd bynnag, mae hefyd yn cynnwys iechyd pridd a chnydau, storio a defnyddio plaladdwyr a gwrtaith, rheoli dŵr, dewis hadau, rheoliadau cynaeafu a phecynnu, ymwybyddiaeth amgylcheddol, effeithlonrwydd ynni, Rheoli Cnydau Integredig, hyfforddiant staff ac Iechyd a Diogelwch. Caiff ei weld fel amod sylfaenol ar gyfer cyflenwi adwerthwyr mawr neu brosesydd bwyd.

Os ydych chi'n pacio cynnyrch ar y fferm ac eisiau defnyddio logo Tractor Coch ar y cynnyrch, bydd angen archwiliad ychwanegol arnoch, sy'n gwirio mai cynhyrchion ardystiedig Tractor Coch yn unig sy’n cael eu pacio yn y pecynnau.

GlobalG.A.P.

Mae hwn yn safon fferm byd eang ac unwaith eto mae ganddo amryw o opsiynau gan gynnwys cnydau, dyframaethu a da byw.

Ar gyfer safon y cnydau, yn yr un modd â Tractor Coch, mae’n archwilio pob cam o ddewis safle hyd at gynaeafu, a lle bo hynny’n berthnasol i’r fferm - pacio. Mae’n cynnwys adrannau tebyg i safon y Tractor Coch. Os ydych chi’n allforio, yna gallwch ddewis naill ai GlobalG.A.P llawn, tystysgrif neu gallwch gael tystysgrif GlobalG.A.P sydd gywerth â thystysgrif Tractor Coch (a gaiff ei gwblhau ar yr un pryd ag archwiliad y Tractor Coch er mwyn hwyluso’r drefn).

Safonau Organig

Mae 8 corff ardystio organig. Dyma nhw: Cynhyrchwyr a Ffermwyr Organig, Ffederasiwn Bwyd Organig, Cymdeithas y Pridd, Biodynamic Association Certification, Irish Organic Association, Organic Trust CLB, Ardystio Bwyd Cymreig Safonol, ac OF&G (Scotland) Ltd.

Ar wahân i Ardystio Bwyd Cymreig Safonol sydd ond yn cynnwys llaeth a da byw, mae gan bob safon organig arall opsiynau ar gyfer cynnyrch a da byw ac mae gan rhai opsiynau ar gyfer dyframaethu hefyd. Ceir gwahanol opsiynau ar gyfer ffermwyr a phrosesyddion hefyd.

Mae pob un o’r safonau hyn yn canolbwyntio’n llwyr ar gnydau organig (h.y. nid yw’n cynnwys cnydau wedi’u tyfu’n gonfensiynol)

LEAF Marque

LEAF yn safon gwarant amgylcheddol a gydnabyddir yn fyd eang. Mae’n cydnabod cynhyrchion sy’n cael eu ffermio’n gynaliadwy. Mae’n ei gwneud yn ofynnol i archwiliad fferm sylfaenol (Tractor Coch neu GlobalG.A.P) gael eu cynnal.

Mae safon LEAF yn selio egwyddorion ffermio cynaliadwy Rheoli Ffermydd Integredig ar naw adran sy’n cynnwys: trefnu a chynllunio, rheoli a ffrwythlondeb pridd, iechyd a gwarchod cnydau, rheoli llygredd a rheoli sgil-gynhyrchion, hwsmonaeth anifeiliaid, effeithlonrwydd ynni, rheoli dŵr, tirwedd a chadwraeth natur ac ymgysylltu â’r gymuned.

Ar hyn o bryd mae un adwerthwr yn y DU yn gofyn am yr ardystiad hwn er mwyn cyflenwi’n uniongyrchol, a hoffai eraill i gynhyrchwyr fynd amdano, ond nid yw’n hanfodol.

Cynnyrch Fferm Dethol M&S

Mae’n rhaid i’r sawl sy’n cyflenwi cynnyrch ffres ac wedi’u rhewi i gadwyn gyflenwi M&S (boed hynny’n uniongyrchol i’r adwerthwr neu drwy brosesydd (fel gwneuthurwr prydau parod), sicrhau eu bod yn cwrdd â gofynion Safon Fferm Dethol M&S. Yn ddibynnol ar y cnwd a dyfir, gall hyn fod mor syml â chael ardystiad Tractor Coch neu GlobalG.AP os ystyrir y cynnyrch fel un risg isel, neu efallai y bydd angen archwiliad Fferm Ddethol arno os ystyrir y cynnyrch fel un risg uchel. Mae safon Fferm Ddethol M&S yn canolbwyntio yn sylweddol ar beryglon microbiolegol ac alergenig o fewn y broses dyfu gyda'r nod o atal materion diogelwch bwyd rhag effeithio brand M&S.

SALSA
Mae SALSA yn golygu Cymeradwyaeth Cyflenwr Saff a Lleol (Safe and Local Supplier Approval). Fe’i crëwyd yn y DU fel safon diogelwch bwyd ar gyfer prosesyddion llai sydd am gyflenwi i adwerthwyr  bach a mawr. Mae cynllun SALSA wedi'i gyfyngu i gynhyrchwyr bwyd yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw. Rhaid i aelodau'r cynllun chwarae rhan gorfforol mewn prosesu bwyd, nid cyfanwerthu na dosbarthu yn unig, ac ni allant weithredu o eiddo domestig.

O safbwynt fferm, ni fyddai SALSA yn berthnasol, oni bai eich bod yn prosesu'r cynnyrch rydych chi'n ei dyfu (h.y. troi ffrwythau yn jam).

Safon Bwyd BRCGS

Mae Safon Bwyd BRCGS, yn debyg i SALSA oherwydd ond gweithrediadau pacio a phrosesu y mae’n ei gynnwys, ond mae wedi'i anelu at gwmnïau mwy sy'n cyflenwi cynhyrchion wedi’i brandio yr adwerthwr eu hunain yn bennaf.

 

Dolenni

Tractor Coch: https://assurance.redtractor.org.uk/

Safon Cynnyrch Ffres: https://assurance.redtractor.org.uk/standards/search?c=13

Protocolau Cnydau Penodol: https://assurance.redtractor.org.uk/standards/fresh-produce-crop-protocols

GlobalG.A.P: https://www.globalgap.org/uk_en/

Safonau GlobalG.A.P: https://www.globalgap.org/uk_en/documents/#fq=gg.subscope:(%22fruit%22)&fq=con_locales:(%22en%22)&fq=gg.document.type:(%22checklist%22+OR+%22regulations%22+OR+%22cpacc%22)&fq=gg.standard.gg:(%22ifa5%22)

Cyrff Ardystio Organig

https://www.soilassociation.org/

https://ofgorganic.org/

http://www.orgfoodfed.com/

http://bdcertification.org.uk/

http://www.irishorganicassociation.ie/

https://organictrust.ie/

https://www.wlbp.co.uk/

LEAF: https://leafuk.org/supplying/leaf-marque

SALSA: https://www.salsafood.co.uk/index.php

BRCGS: https://www.brcgs.com/our-standards/food-safety/