Arolwg Monitro Llafur Tyfu Cymru 2020

Ym mis Mehefin 2020 cynhaliodd Tyfu Cymru arolwg i ddeall yn well ofynion llafur cyfredol gweithrediadau garddwriaeth Cymreig masnachol ac i weld os yw a sut mae Covid-19 wedi effeithio ar ofynion llafur y busnesau hyn.

I weld yr adroddiad cliciwch yma


Crynodeb o’r Canfyddiadau

  • Mae 49% o dyfwyr bwytadwy Cymru wedi cyrchu llafur tymhorol yn 2020
  • Y ffynhonnell fwyaf poblogaidd o lafur tymhorol yw ‘llafur y DU’ mewn 19 busnes (37%). Y ffynhonnell leiaf poblogaidd mewn 2 fusnes yw interniaid taledig/newydd-ddyfodiaid (4%)
  • Roedd 3 busnes (6%) yn cyflogi llafur tymhorol y tu allan i'r DU
  • Mae 13% o fusnesau wedi profi absenoldeb staff yn gysylltiedig â Covid-19
  • Mae traean (33%) o fusnesau wedi gweld cynnydd mewn costau yn 2020 o ganlyniad i Covid-19
  • Mae'r prif resymau dros y cynnydd mewn costau yn cynnwys:

- Costau Cyfarpar Diogelu Personol (PPE)

- Llafur ychwanegol i lenwi oherwydd absenoldeb staff

- Newid yn y strategaeth werthu

- Cynyddu costau oherwydd cynnydd yn y galw

- Prisiau cyflenwyr uwch

  • Ni nodwyd unrhyw broblemau gyda dod o hyd i lafur o ganlyniad i Covid-19
  • Roedd 1 busnes o bob 4 (24%) yn ymwybodol o Wasanaeth Paru Sgiliau Lantra