162 miliwn o ddognau ychwanegol o lysiau wedi'u gweini fel rhan o'r fenter 'Peas Please'...

Dechreuodd 'Peas Please' yn 2016 gyda chenhadaeth glir: i'w gwneud hi'n haws i bawb yn y DU fwyta mwy o lysiau. Ers lansio Peas Please yn 2017 maent wedi llwyddo i adeiladu momentwm ac ymgysylltiad â'r rhaglen, gan sefydlu Peas Please fel model ar gyfer mentrau system fwyd aml-randdeiliad.

Cyhoeddwyd y trydydd Adroddiad Cynnydd Peas Please, sy'n dangos bod busnesau bwyd y DU wedi gweini 162 miliwn o ddognau ychwanegol o lysiau dros y tair blynedd diwethaf fel rhan o'r fenter Peas Please. Gyda Covid-19 yn parhau i effeithio ar system fwyd y DU, mae'r adroddiad hwn hefyd yn edrych ar yr hyn sydd angen ei newid i'w gwneud hi'n haws i bawb fwyta mwy o lysiau.

Ar ôl gwneud yr addewid llysiau yn 2017, mae Tyfu Cymru wedi bod yn falch o gefnogi’r rhaglen hon, gweler tudalen 35 yr adroddiad i ddarllen astudiaeth achos ar ein cynnydd.

Adroddiad i'w lawr lwytho: ADRODDIAD CYNNYDD 2020 (Saesneg yn unig)