Mae Pippa Greenwood yn awdur ac yn ddarlledwr adnabyddus ac yn aelod rheolaidd o banel Gardeners’ Question Time ar Radio 4. Mae Pippa hefyd yn Rheolwr Garddwriaeth y Gymdeithas Crefftwyr Garddwriaethol. Yn y sgwrs hon mae hi’n rhoi ei safbwynt ar arddwriaeth fasnachol a gwaith cymdeithasau masnach mewn codi ymwybyddiaeth a chynrychioli aelodau. Mae'r sgwrs yn cynnwys pwysigrwydd garddwriaeth a ffactorau sy’n annog neu’n cyfyngu ar dwf y diwydiant nawr ac i’r dyfodol drwy sganio'r hyn sydd ar y gorwel.