Mae'r cyflwyniad hwn gan y Curadur Garddwriaeth, Will Ritchie, yn cyflwyno'r arferion iechyd planhigion sy’n cael eu defnyddio’n rheolaidd yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn Sir Gaerfyrddin i helpu i greu safle bioddiogel. Mae'n cynnwys awgrymiadau syml, effeithiol a rhad y gall garddwriaethwyr eu defnyddio i gynnal iechyd planhigion yn eu meithrinfeydd a’u gerddi.