Mae Fferm Paviland wedi’i hadeiladu ar seiliau cadarn cenedlaethau lawer o ffermio teuluol Cymreig.

Yn ôl yn y 1960au manteisiodd y teulu ar ficrohinsawdd ysgafn Gŵyr i dyfu llysiau, ffrwythau a chnydau âr o’r ansawdd uchaf, a oedd yn cael eu gwerthu’n fasnachol ledled y DU.

Heddiw, gyda’r nod o arallgyfeirio’r fferm i greu system gynaliadwy ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, mae Fferm Paviland wedi ailgyflwyno ffrwythau a llysiau, fel pwmpenni, tatws cynnar ac india-corn, yn ogystal â blodau’r haul, ond y tro hwn, maen nhw i gyd yn cael eu tyfu yn gyfan gwbl heb gemegau a gwrtaith artiffisial.

Mae Tyfu Cymru wedi helpu Fferm Paviland trwy ddarparu arbenigedd i'w gefnogi i dyfu cnydau heb y cemegau artiffisial a'r gwrtaith a ddefnyddiwyd yn draddodiadol. Mae'r arallgyfeirio hwn wedi galluogi Paviland i werthu i fwytai a siopau lleol yn unig a darparu ystod o gynnyrch gwerth uchel.

Creu cynhyrchion Cymreig naturiol, cynaliadwy, sy'n cefnogi lles bodau dynol ac anifeiliaid, yw'r bennod nesaf yn y stori ffermio Gymreig hon bellach.