Mae’r ffilm hon yn gyfle cyffrous iawn i gael taith o amgylch Crûg Farm Plants yng ngogledd Cymru a chlywed cyfweliad gyda Bleddyn a Sue Wynn-Jones. Maen nhw’n gasglwyr planhigion brwd ac maen nhw wedi teithio’r byd yn adeiladu eu casgliadau. Mae’r feithrinfa’n ffynhonnell arbennig o blanhigion egsotig. Mae Chris Creed yn gofyn y cwestiynau hynny yr ydym ni i gyd eisiau gwybod yr atebion iddynt. Mae Ellie Pay, sydd yn frwd iawn gyda Chymdeithas y Lledaenwyr Ifanc, yn siarad am ei gwaith yn y feithrinfa hefyd.