Gardd Furiog Fictoraidd

Mae Gardd Gegin Mostyn wedi bod yn rhedeg ers pum mlynedd ar dir Neuadd Mostyn yng Ngogledd Cymru. Mae’r Ardd yn tyfu amrywiaeth eang o lysiau a ffrwythau ar 2.5 erw o dir ac yn gwerthu i deuluoedd a bwytai lleol. Hefyd, defnyddir y cynnyrch i wneud sypiau bach o jamiau a siytnis a sawsiau eu brand eu hunain. Maent yn ymfalchïo ym mlas ac ansawdd eu cynnyrch sy’n cynnwys llawer iawn o ffrwythau a wneir heb unrhyw liwiau, cadwolion na chyflasynnau artiffisial.

Ymunodd y garddwr, Phillip Handley, â Gardd Gegin Mostyn yn 2012, a deilliodd ei ddiddordeb mewn garddwriaeth o’i astudiaethau garddwriaeth organig gyda Phrifysgol Morgannwg a Choleg Garddwriaeth Cymru (bryd hynny). Mae Phillip yn parhau â’r stori, “Deuthum yn ymwybodol o ddull tyfu heb bridd pan oeddwn i’n astudio, ond nid oedd wir yn cydweddu â’r model organig, er bod gen i ddiddordeb yn y posibiliadau a’r potensial. Fe wnaeth digwyddiad tyfu heb bridd Tyfu Cymru ym mis Tachwedd 2017 ailgynnau fy niddordeb, a, gan fod gennym gyfleusterau addas a thîm sydd â diddordeb mewn arloesi, penderfynom adeiladu system”.

Roedd Phillip a’r tîm yn gallu manteisio ar y wybodaeth o gafwyd o weithdy Tyfu Cymru a’r pecynnau cymorth. Cafodd gyngor hefyd gan gyflenwyr eraill a manwerthwyr hydroponeg.

Pam tyfu heb bridd?

Mae gallu cynnal cylch tyfu salad gydol y flwyddyn i fodloni cwsmeriaid Gardd Gegin Mostyn wedi bod yn her – mae Phillip yn gweld bod gan dyfu heb bridd y potensial i ymestyn y tymor tyfu. Aeth ati i addasu’r cyfleusterau yn y tŷ gwydr Fictoraidd er mwyn iddo allu rhoi cynnig ar wahanol systemau i ganfod yr un orau neu’r cyfuniad gorau. Mae wedi troi’r hen welyau yn system feithrin dŵr dwfn a system ffilm maetholion gan ddefnyddio pibellau pic, ac mae’n bwriadu cwblhau system raeadru.

Er bod y mefus yn cael eu plannu mewn bagiau, byddant yn cael eu bwydo gan ddefnyddio’r egwyddorion heb bridd y dysgodd amdanynt gan gyd-dyfwr, Hooton’s, yn y gweithdy. Bydd Phillip yn monitro’r cnydau o’r systemau gwahanol, sydd eisoes yn dangos manteision ac anfanteision dros ei gilydd. Mae yna ddigonedd o le i ehangu’r system fwyaf cynhyrchiol.

Yn ôl Phillip, mae’r buddsoddiad eisoes yn dwyn ffrwyth: “Mae ein gwariant presennol ar dyfu heb bridd yn llai na £1,000 ac rydym eisoes yn cynaeafu o’r systemau ac yn cyflenwi ein cwsmeriaid bwytai”.

Mae’n cynnig y cyngor hwn i dyfwyr eraill 

“Mae pobl yn y diwydiant garddwriaeth yn gweithio ar eu pennau’u hunain yn aml, yn enwedig y busnesau llai nad yw’r amser na’r arian sbâr ganddynt i edrych ar arloesi a gwelliannau. Gall mentrau fel Tyfu Cymru wneud gwahaniaeth mawr. Byddwn i’n annog busnesau eraill yn gryf i fuddsoddi amser yn eu datblygiad eu hunain, ac ni allaf bwysleisio digon pa mor bwysig yw hyfforddi a datblygu i’r busnesau bach yn ein diwydiant”