Trosglwyddo sgiliau garddwriaet hol, o fam i ferch…

Efallai nad yw'n syndod bod Mercedes Thomas yn rhedeg ei busnes garddwriaeth ei hun ar ôl iddi ddysgu’r sgiliau hynny gan ei mam. Ei swydd haf gyntaf ym musnes tirweddu ei mam oedd llenwi potiau â chompost; ar ôl iddi feistroli hynny, roedd hi’n cael plannu plygiau yn y potiau; yna cafodd ddechrau llenwi’r basgedi blodau. Gan symud ymlaen i 2013, roedd Mercedes yn barod i ddychwelyd i fyd garddwriaeth pan brynodd hi fusnes meithrinfa ym Mhowys, Honey Brook, yn dilyn gyrfa yn y fyddin.

Dim ond yn ddiweddar y death Mercedes yn ymwybodol o'r ystod eang o gymorth sydd ar gael i fusnesau garddwriaeth fasnachol drwy Tyfu Cymru. Cafodd ei “phrofiad” cyntaf gyda Tyfu Cymru yn yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad yn Llanelwedd yn ddiweddar. Meddai Mercedes:

“Roedden ni wedi cymryd rhan yn yr Ŵyl yn ôl yn 2014 ond, a bod yn onest, doedd hwnnw ddim yn brofiad llwyddiannus iawn i ni. Fodd bynnag, ar ôl clywed am gynlluniau Tyfu Cymru ar gyfer y. Farchnad Dyfwyr a chlywed bod tyfwr arall wedi tynnu'n ôl yn annisgwyl, dyma neidio at y cyfle i gael stondin yn rhan o’r Farchnad Dyfwyr, er mai dim ond ychydig ddyddiau oedd gennym i baratoi. Yn ogystal â chael penwythnos llwyddiannus iawn o fasnachu, cefais gwrdd â thyfwyr eraill a dysgu am yr hyfforddiant wedi’i ariannu sydd ar gael drwy Tyfu Cymru”.

Y dyfodol…

Felly, beth nesaf i Honey Brook? Mae Mercedes yn awyddus i deiladu ar y llwyddiant mae hi wedi’i gael gyda chwsmeriaid masnach fel darparu basgedi blodau i Gyngor Bwrdeistref
Sirol Caerffili. A gall argymhellion ar lafar ddod o lefydd annisgwyl.

“Rydyn ni wedi bod yn gofalu am y gwelyau o amgylch adeilad Powys ar Faes Sioe Frenhinol Cymru - a daeth y cyswllt hwnnw gan gysylltiad a oedd gan ddylunydd ein gwefan.
Felly dydych chi byth yn gwybod pwy all eich helpu chi â chyswllt a all wneud i bethau ddigwydd.”

Mae Mercedes hefyd wedi bod yn brysur yn arbrofi gyda mynd â’i thoriadau ei hun ac mae hi a’i phartner, Geraint, yn bwriadu arallgyfeirio i dyfu i ffrwythau meddal. Mae hi wrthi’n creu
swyddi hefyd ac mae hi newydd ddechrau cyflogi garddwr rhan amser i’w helpu â’i busnes sy’n tyfu. Fel garddwraig sydd wedi ei hyfforddi ei hun, mae’r hyfforddiant a’r sgiliau y mae Tyfu Cymru yn eu cynnig o ddiddordeb penodol i Mercedes. Yn y gorffennol mae hi wedi cael trafferth dod o hyd i’r hyfforddiant iawn, yn y lleoliad iawn, ar yr adeg iawn iddi hi. Mae hi eisoes wedi
trefnu i fynd i’r gweithdy Ffotograffiaeth Blodau sydd wedi’i ariannu’n llawn gan Tyfu Cymru. Wrth grynhoi ei phrofiad â Tyfu Cymru, dywedodd Mercedes,

“Roedd cymryd rhan yn y Farchnad Dyfwyr yn brofiad gwych a bydden i’n bendant yn argymell prosiect Tyfu Cymru i dyfwyr eraill. Mae’n wych gallu cael gafael ar hyfforddiant a chwrdd â thyfwyr eraill a rhannu profiadau.”

Mam i fab....

Ac mae’r traddodiad teuluol yn parhau, wrth i fam, chwiorydd a phartner Mercedes gyfrannu at lwyddiant Honey Brook. Mae aelod diweddaraf y teulu, Flynn, eisoes wedi cymryd rhan yn y Farchnad Dyfwyr ac yntau’n ddim ond 11 wythnos oed!