Yn 2018, daeth y cyfle i Liz a Chris ymgymryd â’r busnes bocs llysiau, ac roedden nhw’n gwybod bod hyn yn rhywbeth yr oedd yn rhaid iddyn nhw ei wneud, er mai ychydig iawn o brofiad blaenorol oedd ganddyn nhw o ran tyfu neu werthu llysiau. Doedden nhw ddim yn gallu dychmygu mynd yn ôl i fyw heb focs, a’u cred oedd y byddai cwsmeriaid eraill yn teimlo’r un fath.

Maen nhw’n tyfu ar tua 1/2 erw o dir rhent ym Mhrion, lle mae ganddyn nhw ddau dwnnel polythen a thŷ gwydr. Maen nhw’n defnyddio tractor cerdded dwy olwyn ac yn tyfu gan ddefnyddio dulliau organig, dim cloddio. Maen nhw’n ategu’r hyn y maen nhw’n ei dyfu gyda llysiau organig a brynir gan gyfanwerthwr gwych. Maen nhw’n pacio’r bocsys yn eu siop yn Ninbych, ac yna’n agor y drws ar fore Gwener i werthu’r llysiau syddar ôl wedi i’r bocsys fynd allan.

“Mae’n galonogol ac yn gysur gwybod, os down ar draws rhwystr, y gallwn gysylltu â Tyfu Cymru a chael
cymorth wedi’i deilwra.” Liz Kameen, Gorffennaf 2021

Sut wnaethoch chi glywed am Tyfu Cymru?
Pan brynon ni’r busnes, dywedwyd wrthym am Tyfu Cymru a chwblhau’r adolygiad busnes ar unwaith. Roeddem braidd yn amheus ynglŷn â’r cymorth – a gaiff ei ariannu 100% – oedd ar gael, a doedden ni ddim yn siŵr a fyddai’n gweddu i’n hanghenion, ond wrth i amser fynd yn ei flaen, sylweddolom y gallem ymuno â’r rhwydweithiau, cael mynediad at sesiynau ar-lein, a chael cymorth 1:1 i gyd-fynd â’n hanghenion busnes.

Pa gymorth a gawsoch chi?
Rydym wedi mynychu nifer o’r sesiynau rhwydwaith ar-lein, gyda rhai ohonyn nhw’n ymwneud â datblygu gwefannau a datblygu ein presenoldeb ar-lein. Rydym wedi cael hyfforddiant 1:1 defnyddiol iawn sy’n edrych ar ddatblygu ein gwefan ymhellach a’n systemau bocsys llysiau a phrosesau ariannol. Rydym hefyd wedi canfod bod gallu gwylio recordiadau ar yr Hwb Gwybodaeth yn ddefnyddiol pan na allem fod yn bresennol mewn sesiwn.

Beth sydd fwyaf defnyddiol i chi?
Y peth mwyaf defnyddiol am yr hyfforddiant i ni fu’r sesiwn 1:1 gydag Insynch. Mae’n golygu ein bod wedi gallu datblygu ac adeiladu ein gwefan ein hunain sy’n bendant wedi dod â mwy o fusnes i mewn ac wedi galluogi ein cwsmeriaid i archebu’n haws ar-lein, gan leihau’r amser a dreuliwn yn esbonio pethau dros y ffôn neu ar ebost. Gwelwn fod yr hyfforddiant a’r cymorth yn hygyrch iawn ac mae’r ffaith ei fod wedi’i deilwra i’n busnes lle bo hynny’n bosibl wedi bod yn wych.

Beth yw canlyniad cymorth TC a’r effaith ar eich busnes – yn enwedig ar yr ochr tyfu?
Rydym wedi gweld cynnydd mewn trosiant ac elw ac, yn bwysicach na hynny, mae swm y llysiau a dyfwn hefyd wedi cynyddu. Gyda’n systemau a’n prosesau ar waith, rydym yn ymdopi â rhedeg y busnes yn well nawr, a gobeithiwn allu tyfu’r busnes mewn ffordd y gellir ei reoli wrth symud ymlaen. Rydym wrth ein bodd â’r ochr tyfu o bethau a chyda’r cymorth rydym wedi’i gael, gwelwn ein hunain yn gallu darparu mwy o gynnyrch a dyfir gartref o flwyddyn i flwyddyn.

A oes unrhyw beth yr ydych wedi gallu ei wneud na fyddech, o bosibl, wedi gallu ei wneud heb hyfforddiant/cymorth TC?
Datblygu ein gwefan a thyfu mwy o lysiau!
Fydden ni byth wedi cael y sgiliau a’r hyder i’w wneud heb y cymorth a gawsom ni.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i http://thevalegrocer.co.uk/