Cyflwyniad

Mae Ymddiriedolaeth Natur Sir Faesyfed yn chwilio am denant a phartner busnes posib i gynnal garddwriaeth fwytadwy ar Fferm Pentwyn, Heol Llanbister, LD1 5UT.

Mae gennym fyngalo 2 ystafell ar y safle a hyd at 4 acer o dir, gan gynnwys opsiynau storio, ar gael ar gyfer prydles.

Rydym yn chwilio am geisiadau o ddiddordeb gan bobl sy’n cefnogi ein gweledigaeth ac sy’n dymuno cynyddu’r gwaith o gynhyrchu ffrwythau a llysiau ffres ar gyfer marchnadoedd lleol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Rydym yn agored i geisiadau gan unigolion o bob cefndir, boed yn gynhyrchwyr profiadol neu’n sefydliadau sefydledig, neu newydd-ddyfodiaid.

Datgan diddordeb

Anfonwch unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb i James Hitchcock, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Natur Sir Faesyfed, ar james@rwtwales.org

Cofiwch gynnwys gwybodaeth am pam fod gennych chi ddiddordeb, ac a fyddai gennych chi ddiddordeb mewn rhentu’r byngalo o fewn y trefniant. Amlinellwch unrhyw gynlluniau, gan gynnwys model busnes amlinellol, os yn bosibl.

Os ydych chi eisiau ffonio a siarad â James am ragor o wybodaeth, gallwch gysylltu ag ef ar 07949 828589

Trosolwg

Ym mis Hydref 2021, prynodd Ymddiriedolaeth Natur Sir Faesyfed fferm fynydd 164 erw o’r enw Pentwyn.  Mae gennym ni weledigaeth 30 mlynedd i gynyddu byd natur ar y safle, gan ddangos beth y gellir ei gyflawni gyda ffermio ‘natur yn gyntaf’. Rydym am arddangos model newydd ar gyfer ffermio cymysg wrth i ni symud trwy gyfnod o bontio cenedliadol yn y ffordd y mae rheoli tir yn cael ei ariannu a’i gefnogi ac wrth i Gymru a’r Deyrnas Unedig ail-leoli eu hunain fel marchnad fwyd a chynhyrchwyr yn dilyn ein hymadawiad o’r Undeb Ewropeaidd.

Rhan sylweddol o’n gweledigaeth ar gyfer y safle yw rhoi cyfle i gynhyrchu ffrwythau a llysiau, gan ein bod yn credu, er mwyn cyflawni nodau Cymru a’r DU ar gyfer adferiad byd natur a mynd i’r afael â newid hinsawdd – nodau sydd wedi cael eu mabwysiadu’n rhyngwladol hefyd – fod angen i ni ymdrin â rheoli tir yn wahanol. Rydym yn deall y galw am dir ar gyfer garddwriaeth fwytadwy ac eisiau dangos yr hyn y gellir ei wneud pan fydd tirfeddianwyr yn barod i sicrhau bod lle ar gael ar gyfer cyfleoedd newydd.

 

Download PDF