Iechyd pridd yw'r sylfaen ar gyfer sicrhau amaethyddiaeth gynaliadwy, ac mae arferion rheoli yn effeithio'n sylweddol arno. Mae priddoedd iach yn cynyddu gwytnwch cnydau i wrthsefyll effeithiau straen fel glaw trwm, cyfnodau o sychder, yn ogystal â phwysau plaon a chlefydau, ac mae hyn yn cefnogi cynhyrchu bwyd cynaliadwy, hirdymor. Mae priddoedd iach hefyd yn cynnal amrywiaeth eang o swyddogaethau ecolegol ac yn darparu amrywiaeth eang o 'fuddiannau cyhoeddus'.

Felly, mae rheoli ar gyfer gwell iechyd pridd yn cyflawni nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 drwy sicrhau arferion sy'n cefnogi rheoli adnoddau naturiol, bioamrywiaeth, iechyd y cyhoedd, ac sy’n cyfrannu at adfywio economaidd y Gymru wledig.

Hefyd, mae priddoedd y byd yn chwarae rhan bwysig o ran sicrhau cynaliadwyedd amgylcheddol a lliniaru newid yn yr hinsawdd. Mae priddoedd yn dal tair gwaith yn fwy o garbon na'r atmosffer, pridd yw'r storfa garbon ddaearol fwyaf ar y Ddaear. Fodd bynnag, gall pridd fod yn ffynhonnell ac yn ddalfa garbon – gellir priodoli hyn eto i arferion rheoli. Mae priddoedd hefyd yn llawn bywyd amrywiol; mae’r nifer o ficro-organebau sydd mewn llond llwy de o bridd iach yn fwy na’r nifer o bobl sydd ar y Ddaear. Mae'r fioamrywiaeth hon yn effeithio’n uniongyrchol ar ffrwythlondeb a chynhyrchedd priddoedd.