Sefydlwyd TeTrimTeas gan Mari Arthur a Justin John, sydd ill dau o Sir Gaerfyrddin, ym mis Medi 2020 fel menter nid-er-elw yng Nghymru, er mwyn cyflawni tri phrif nod:

1. Datblygu te sydd â buddion iechyd sy’n gysylltiedig â cholli pwysau a bacteria perfedd da.
2. Gweithio gyda thyfwyr o Gymru i ddod o hyd i 100% o’r cynhwysion yng Nghymru.
3. Sefydlu model busnes i ddod â buddion economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol ehangach drwy gyfranddaliadau a buddion cymunedol, busnes sero net a datblygu contractau cymdeithasol gyda thyfwyr a ffermydd lleol.

Mae TeTrimTeas wedi’i lleoli yn Nhrimsaran, Sir Gaerfyrddin, ond mae Mari a Justin yn bwriadu gweithio gyda chyflenwyr ledled Cymru er mwyn cyrchu cynhwysion ac ar gyfer pecynnu ac arbenigedd.

Ym mis Ionawr 2022, fe wnaeth Prifysgol Aberystwyth a Future Foods waith ymchwil ar y cynhwysion cychwynnol, gan weithio gyda ni i ganfod ein rysáit ein hunain. Dilynwyd hyn gyda chyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru er mwyn datgarboneiddio'r cynnyrch drwy nodi cynhwysion mwy cynhenid i gymryd lle'r cynhwysion mwy egsotig, sy'n deillio eto o dyfwyr lleol. Y cynllun nawr yw cwblhau'r broses o amnewid cynhwysion, cynnal treialon gwirfoddol iach yn yr hydref ar gyfer blas, yn ogystal â monitro'r buddion iechyd, ac i baratoi i'w lansio yn gynnar yn 2023.

Yn y cyfamser, mae Mari a Justin am ddod o hyd i fwy o dyfwyr lleol i drafod ffyrdd o dyfu a chyrchu'r holl gynhwysion sy'n weddill o Gymru ar gyfer iteriadau pellach o de’r gweundir yn y dyfodol. Y nod yn y tymor hir yw sefydlu perthynas gydweithredol, lle mae TeTrimTeas yn buddsoddi yn y tyfwyr i helpu i arallgyfeirio ac adeiladu gwytnwch i'w hystod cynnyrch.

Dywedodd Justin, sydd wedi astudio Bioleg Môr ac Amaeth ac sydd â PhD mewn ymchwil canser, yn ogystal â chefndir yn y diwydiant fferyllol a biotechnoleg:

"Ein gweledigaeth yw datblygu te llysieuol o safon, sy’n seiliedig ar natur a gwyddoniaeth, er mwyn gwella iechyd a lles, gyda chynhwysion yn cael eu tyfu yng Nghymru a’r elw’n cael ei rhannu gyda thyfwyr a chymunedau lleol. Rydyn ni'n deall y bydd rhai cynhwysion yn cymryd blynyddoedd cyn eu bod yn barod, ond rydyn ni'n awyddus i fuddsoddi heddiw i sicrhau cyflenwad yn y dyfodol gyda thyfwyr ledled Cymru."

Yn ôl Mari, sydd â chefndir ym maes marchnata a chynaliadwyedd:

"Fe wnaethon ni gynllunio ar gyfer tri cham cychwynnol o ddatblygiad ar gyfer TeTrimTeas.
Y cam cychwynnol oedd dod o hyd i gynhwysion a meintiau, felly mae gennym rysáit yn barod i'w gymysgu. Cafodd hyn ei gwblhau yn gynharach eleni. Y cam presennol yw dod o hyd i dyfwyr i dyfu cynhwysion yn ogystal â chynllunio ar gyfer cynhwysion amgen a mwy brodorol (er enghraifft amnewid senna gyda gwraidd riwbob gan fod ganddyn nhw olion bysedd genetig tebyg). Bydd y cam nesaf yn gynnar y flwyddyn nesaf lle rydyn ni’n cymysgu ac yn mynd i'r farchnad gyda'r iteriad cyntaf o de wrth i ni dyfu cynhwysion ar gyfer iteriadau pellach yn y dyfodol."

Cydrannau allweddol eraill y busnes yw:

1. Cefnogi twf economïau lleol cryfach ledled Sir Gaerfyrddin, a Chymru, gyda'r elw’n cael ei dychwelyd i'r gymuned a thyfwyr lleol.
2. Cyflogi pobl leol o grwpiau anodd eu cyrraedd sydd â heriau cyflogaeth, er enghraifft oedolion ag anawsterau dysgu, salwch meddwl neu gyn-droseddwyr ac ati; yn uniongyrchol ac fel rhan o gontractau cymdeithasol gyda thyfwyr.
3. Tyfu'n ofalus a chynaliadwy a gwerthu drwy sianeli moesegol, gan gadw’r elw yng Nghymru.

Mae TeTrimTeas yn awyddus i glywed gan dyfwyr a chyflenwyr a fydd â diddordeb mewn gweithio gyda ni ar y rhestr bresennol o gynhwysion:
Te gwyrdd. Gwyddfid. Draenen Wen. Mêl. Gwraidd riwbob. Deilen lotws. Hadau Cassia. Ginseng (Gynostemma).

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Mari neu Justin:
mari@tetrimteas.cymru | justin@tetrimteas.cymru