Mae’r Gronfa Agri E wedi’i chreu i gefnogi ffermwyr gyda’r buddsoddiad a’r archwiliadau carbon sydd eu hangen i’w helpu i gyflawni Sero Net. Mae benthyciadau ar gael gyda ffioedd trefnu o 0 y cant pan fydd ffermwr yn cwblhau archwiliad carbon ac yn benthyca dros £50,000 i fuddsoddi mewn mentrau lleihau allyriadau, fel ynni adnewyddadwy, mentrau effeithlonrwydd ynni neu weithgareddau sy’n lleihau nwyon tŷ gwydr.

Dywedodd Brian Richardson, pennaeth amaeth Virgin Money: “Mae angen i ffermwyr fod yn rhagweithiol wrth addasu eu busnesau i ddyfodol carbon isel. Er bod llawer o ffermwyr yn gweithio tuag at eu targedau sero net, rydyn ni’n gwybod o’n hymchwil fod llawer yn gwybod beth sydd angen iddyn nhw ei wneud, ond nid ydyn nhw’n siŵr sut i fynd ati. Drwy ddarparu cyllid cost is, mae ein Cronfa Agri E newydd yn rhoi cymorth wedi’i dargedu i helpu busnesau amaeth i bontio a galluogi buddsoddi mewn lleihau a dal allyriadau carbon. Mae gennym hanes hir o gefnogi’r sector amaeth drwy gyfnodau o newid ac rydyn ni wedi ymrwymo i weithio’n agos gyda’n cwsmeriaid sy’n ffermio i’w helpu ar eu taith i Sero Net.”