Mae FareShare Cymru yn elusen sydd wedi'i lleoli yn ne Cymru sy'n gweithio gyda thyfwyr, cynhyrchwyr a gweithgynhyrchwyr yn y diwydiant bwyd a diod i droi problem amgylcheddol yn ateb cymdeithasol. Rydym yn gweithio i leihau gwastraff bwyd drwy ddargyfeirio unrhyw fwyd bwytadwy dros ben i bobl sy'n agored i niwed ar draws ein rhwydwaith o grwpiau cymunedol ac aelodau elusennol.

Gall bwyd ddod yn warged am sawl rheswm, gan gynnwys bwyd yn nesáu at ei ddyddiad ‘ar ei orau cyn’, archebion yn cael eu newid, newidiadau i ragolygon masnachol, newidiadau pecynnu ac eitemau hyrwyddo yn dod i ben. Mae FareShare Cymru yn cymryd y bwyd sy'n cael ei roi fel rhodd ac yn ei brosesu yn ein warws yng Nghaerdydd. Yna, caiff y bwyd ei roi ar baledi a'i ddosbarthu ar draws rhwydwaith o aelodau gan wirfoddolwyr. Rydym yn gweithio gyda busnesau bwyd o bob math a maint, ac yn croesawu rhoddion o'r holl fwyd sy'n dal yn ddiogel i'w fwyta ond a fyddai fel arall yn mynd i wastraff.

Yn ogystal â dargyfeirio bwyd bwytadwy rhag cael ei wastraffu, gall rhoi i FareShare Cymru helpu gweithgynhyrchwyr, tyfwyr a chynhyrchwyr yn y sector bwyd a diod i leihau eu hôl troed carbon. Nid yn unig y bydd hyn yn lleihau'r allyriadau sy'n gysylltiedig ag anfon bwyd i safleoedd tirlenwi, ond bydd hefyd yn sicrhau nad yw'r carbon sy'n gysylltiedig â chynhyrchu'r bwyd yn cael ei wastraffu.

Mae FareShare Cymru yn falch o'n perthynas â gweithgynhyrchwyr bwyd lleol ac mae ein tîm yma i wneud y broses o roi bwyd mor gyfleus â phosibl. Dyma Kirstie Jones o Hufenfa De Arfon yn esbonio pam eu bod yn rhoi eu gwarged i'r elusen: 'Mae'r hinsawdd economaidd ar hyn o bryd yn achosi tlodi bwyd ac ynni i deuluoedd ledled Cymru. Drwy roi gwarged bwyd bwytadwy i FareShare Cymru, rydych nid yn unig yn lleihau'r effaith ar yr amgylchedd ac yn lleihau gwastraff, ond yn cefnogi'r rhai mwyaf anghenus yn y gymuned hefyd.Mae FareShare Cymru bob amser yn croesawu rhoddion ychwanegol o gynnyrch ffres. Fel rhan hanfodol o ddiet iach, ffrwythau a llysiau ffres yw un o'r eitemau siopa y mae pobl sy'n agored i niwed yn ei chael hi'n anodd cael gafael arnynt yn rheolaidd. Mae TAV's, elusen sy'n helpu'r rhai sy’n agored i niwed yng Nghaerdydd, yn un o bron i 200 o sefydliadau sy'n elwa o fwyd dros ben. Dywed Nkini Pulei o'r elusen: ‘Rydyn ni wedi gallu rhoi diet gwell i bobl. Dwi wedi mwynhau gweld pobl yn rhoi cynnig ar bethau newydd hefyd. Rydyn ni wedi cael pethau maen nhw wedi'u mwynhau ond ddim wedi gallu fforddio.’

Er mwyn sicrhau bod ffrwythau a llysiau ffres ar gael i bawb, mae FareShare Cymru am archwilio'r posibilrwydd o sefydlu rhwydwaith lloffa yng Nghymru. Mae lloffa yn gweld ffermydd yn croesawu pobl i'w safleoedd y tu allan i dymhorau masnachol gwahanol gnydau er mwyn cynaeafu unrhyw gnydau dros ben. Fel sefydliad sydd wedi ymrwymo i frwydro yn erbyn newyn a mynd i'r afael â gwastraff bwyd, mae FareShare Cymru yn credu y gallai lloffa fod yn ffordd wych o gyflawni hyn mewn partneriaeth â'r sector amaethyddol yng Nghymru.

Fel elusen nid er elw, fe’n cyfyngir gan yr adnoddau sydd gennym. Gyda'r costau sylweddol y byddai eu hangen ar y dechrau, rydym am fynd ati i fanteisio ar loffa mewn ffordd bwyllog a graddol. Yng ngham datblygu cychwynnol y prosiect, rydym am weithio gyda safleoedd Pick-Your-Own neu'r rhai sydd eisoes yn croesawu aelodau o'r cyhoedd ar y safle yn rheolaidd. Bydd hyn yn caniatáu i ni fanteisio ar eu harbenigedd, eu gwybodaeth a'u profiad yn y maes hwn. Teimlwn, yn y camau datblygu, y byddai'r grwpiau hyn yn gallu defnyddio eu hanes o weithio'n ddiogel i helpu i ddarparu fforwm i'r rhai sy'n awyddus i loffa. Bydd hefyd yn darparu ffynhonnell o warged heb ei gyffwrdd y gellid ei rhoi i FareShare Cymru.

Rydym hefyd am siarad â grwpiau lleol sydd eisoes yn ymgymryd â lloffa, a gweithio gyda hwy i’w hannog i roi’r cynnyrch dros ben y maent yn ei loffa i'n rhwydwaith o grwpiau cymunedol ac aelodau elusennol. Nid oes angen i'r grwpiau hyn fod yn weithrediadau ar raddfa fawr o reidrwydd. Rydym am gysylltu ag unrhyw grwpiau sy'n rhannu ein hethos o atal cynnyrch bwytadwy rhag mynd i wastraff. Byddem yn ceisio defnyddio'r cam cychwynnol hwn nid yn unig i annog rhoddion o gynnyrch ffres i bobl sy'n agored i niwed, ond hefyd i ddysgu o'u profiadau eu hunain o loffa.

Fel rhan o'n partneriaeth â grwpiau lloffa neu gynaeafu sefydledig, a chyda safleoedd Pick-Your-Own, byddem yn falch iawn o hyrwyddo eu gwaith a'u haelioni drwy ein rhwydweithiau i helpu i annog rhagor o wirfoddolwyr. Bydd hefyd yn codi eu proffil.

Pe bai'r prosiect yn denu brwdfrydedd ymhlith cynhyrchwyr a gwirfoddolwyr, hoffem ei sefydlu fel gweithgaredd rheolaidd y gallem ei archwilio gydag unrhyw bartneriaid parod sy'n tyfu cynnyrch ffres ledled Cymru. Y nod hirdymor fyddai i'r rhwydwaith weithredu fel man cychwyn i'r rhai sy'n chwilio am gyfleoedd gwirfoddoli, neu ar gyfer diwrnodau 'rhoi' neu wirfoddoli busnesau; yn ogystal â darparu man rheolaidd a dibynadwy i dyfwyr sydd am leihau eu lefelau gwastraff.

Credwn y gallai lloffa helpu i gyflawni ein hamcanion o fynd i'r afael â gwastraff bwyd yn ogystal â newyn. Gan fod cynnyrch ffres yn un o'r eitemau bwyd y mae pobl sy'n agored i niwed yn ei chael hi'n anodd cael gafael arno fwyaf, rydym am ategu haelioni'r sector bwyd a diod yng Nghymru i newid hyn. Lle bynnag y byddai cynnyrch bwytadwy yn cael ei adael i fynd i wastraff, rydym am sicrhau ei fod yn mynd i bobl lle bynnag y bo modd.

Byddem wrth ein bodd yn clywed gan dyfwyr, ffermwyr, cynhyrchwyr a grwpiau lloffa sydd â diddordeb; felly os hoffech drafod y prosiect neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â Simon Stranks (Cydlynydd Cyrchu Bwyd, FareShare Cymru) ar Simon@FareShare.Cymru neu 07773618174