Mae Mannau Gwyrdd Gwydn wedi dechrau ar ei ail flwyddyn lle mae ffrwd waith 6 wedi canolbwyntio ar feithrin Sgiliau Ffermio Garddwriaeth ar gyfer y Dyfodol. Ym mis Ebrill 2021, lansiwyd Rhaglen Hyfforddi Ffermwyr y Dyfodol Cymru ar gyfer tyfwyr sy’n newydd-ddyfodiaid.

Wedi’i hwyluso gan Lantra Cymru a Chynghrair Gweithwyr y Tir, arweiniodd y rhaglen at lwyddiannau i bawb. Fe wnaeth dysgu wedi’i ategu ar y fferm alluogi hyfforddeion i roi’r hyn yr oeddent yn ei ddysgu ar waith. Mae’r rhaglen wedi’i seilio’n helaeth iawn ar ddysgu rhwng cymheiriaid a hyfforddiant yn cael ei ddarparu gan ffermydd lletyol a phobl wybodus eraill yn y diwydiant. Mae’r rhaglen yn galluogi datblygiad personol a phroffesiynol.


Mae hyfforddeion ar gyfer 2022 wedi’u recriwtio ac mae ffermydd lletyol wedi’u dewis o bob rhan o Gymru. Ar hyn o bryd, mae ganddynt swyddi dan hyfforddiant gyda’r safleoedd canlynol: Ash and Elm Horticulture, Blas Gwent, Cae Tân CSA, Growing for Change, Nantclyd, Tyddyn Teg.
Mae’r rhaglen yn mabwysiadu dull dysgu cyfunol, gan ddarparu ystod eang o bynciau hyfforddi, gan gynnwys cyflwyniad i dyfu agroecolegol, rhedeg CSA gydol y flwyddyn (gan gynnwys ymgysylltu â’r gymuned, storio cnydau), gwyddoniaeth y pridd, compostio, lluosogi a dyfrhau, Plâu a Chlefydau, cylchdroadau, cynllunio Busnes a llwybrau i’r farchnad, defnyddio peiriannau a modelau busnes cydweithredol. Mae cyfle hefyd i gael tystysgrifau hyfforddi rheoleiddiol ac anogir gwesteiwyr i gymryd rhan mewn cwrs ‘Hyfforddi’r Hyfforddwyr’ (arweinyddiaeth).


Mae Prifysgol Caerdydd yn bartner allweddol arall yn y prosiect hwn wrth iddynt ymgysylltu’n greadigol â phobl ifanc i wrthsefyll canfyddiadau negyddol o yrfaoedd mewn ffermio garddwriaeth. Mae’r gwaith hwn yn ymateb i waith diweddar gan y brifysgol a nododd broblemau hirdymor o ran denu pobl i yrfaoedd ym maes cynhyrchu bwyd.

 

Mae Mannau Gwyrdd Gwydn yn brosiect partneriaeth gwerth £1.27m sy’n cael ei arwain gan Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol i dreialu systemau bwyd amgen, sydd wedi’u hail-leoleiddio, gan ddefnyddio cymunedau a mannau gwyrdd fel y sbardun ar gyfer newid ledled Cymru tan fis Mehefin 2023.
Mae’r prosiect hwn wedi derbyn cyllid drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2022, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

 

Mae’r prosiect yn ymateb i’r argyfwng hinsawdd a natur drwy hyrwyddo’r gwaith o gynhyrchu a chyflenwi bwyd o ffynonellau lleol yng Nghymru yn y gobaith y bydd hyn yn helpu i gyfrannu at ddatgarboneiddio yn rhanbarthol ac yn genedlaethol.