Daw’r diweddariad hwn ar iechyd planhigion wrth i Gymru a gweddill y DU gynnal Wythnos Genedlaethol Iechyd Planhigion, a hynny o 9-15 Mai. Nod yr wythnos hon yw annog cymdeithas yn ei chyfanrwydd i chwarae ei rhan i ddiogelu iechyd planhigion. Negeseuon allweddol yr wythnos yw gofalu am blanhigion gartref ac yn y swyddfa, prynu planhigion o ffynonellau cyfrifol, adrodd am unrhyw symptomau anarferol, a glanhau esgidiau a beiciau ar ôl ymweld â gwahanol leoedd. Mae cyfleu’r negeseuon hyn i’ch cwsmeriaid garddwriaethol yn hanfodol i gynnal bioddiogelwch.

Yn ystod yr wythnos hon mae Diwrnod Rhyngwladol Iechyd Planhigion. Diben y diwrnod hwn yw codi ymwybyddiaeth fyd-eang o sut y gall diogelu iechyd planhigion helpu i roi terfyn ar newyn, lleihau tlodi, diogelu bioamrywiaeth a’r amgylchedd, a rhoi hwb i ddatblygiad economaidd. Mae’r diwrnod yn deillio o Flwyddyn Ryngwladol Iechyd Planhigion, ac mae Cenhedloedd Unedig wedi dynodi 12 Mai fel Diwrnod Rhyngwladol Iechyd Planhigion. Prif neges y diwrnod yw, trwy ddiogelu iechyd planhigion, rydym yn diogelu’r buddion y mae planhigion yn eu rhoi i ni i gyd. Ar ôl hyn bydd Wythnos Rhywogaethau Ymledol a gynhelir o 16-22 Mai

Roedd Blwyddyn Ryngwladol Iechyd Planhigion yn 2020/21 yn cynnwys Cynhadledd Iechyd Planhigion mewn Garddwriaeth dan arweiniad Tyfu Cymru. Roedd yn cwmpasu’r themâu atal plâu a chlefydau, eu diagnosis, eu rheoli a’u lliniaru.

Mae atal yn dibynnu ar fioddiogelwch, yn enwedig ar ffiniau cenedlaethol, wrth reoli mewnforion ac allforion. Sefydlwyd Grŵp Tystiolaeth a Chynghori Iechyd Planhigion Cymru (WPHEAG) gan Tyfu Cymru ac mae’n cynnwys cynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru a APHA, a rhanddeiliaid o dyfwyr planhigion bwytadwy, addurnol a choed; cymdeithasau masnach, prifysgolion a gwyddonwyr. Gan weithio yn y Grŵp dros y chwe mis diwethaf, mae’r rhanddeiliaid wedi gwneud cyfraniadau o Gymru i Strategaeth Bioddiogelwch newydd y DU a fydd yn cael ei lansio fis Mai. Maent hefyd wedi ymateb i ymgyngoriadau’r Llywodraeth am amlder archwiliadau o blanhigion ar y ffin a’r ffioedd a godir am yr archwiliadau hyn. Roedd rheoliadau newydd ar reolaethau ar y ffin i fod i gael eu cyflwyno ym mis Gorffennaf 2022 pan fyddai Pwyntiau Rheoli’r Ffiniau yn disodli’r Mannau Cyrchfan (PoD) sydd ar safleoedd tyfwyr. Fodd bynnag, mae’r newid hwn wedi’i ohirio a bydd PoDs yn parhau i gael eu defnyddio am y tro.

O ran atal clefydau, mae WPHEAG wedi bod yn ymwneud â’r Safon Rheoli Iechyd Planhigion ac yn edrych ar ffyrdd o fabwysiadu hyn yng Nghymru i hyrwyddo gwerthoedd cynhyrchu uchel. Un o’r camau cyntaf yw y bydd Tyfu Cymru yn cynhyrchu modiwl e-ddysgu ar hylendid meithrinfeydd planhigion a bydd hwn yn adnodd i staff newydd.

Mae pathogen sy’n newydd i’r DU wedi’i ddarganfod mewn sawl safle yng Nghymru a chynghorir tyfwyr i gadw llygad am symptomau Phytophthora pluvialis megis nodwyddau’n disgyn ac ysbrigau yn gwywo neu ag olion difrod arnynt. Ymhlith y planhigion a effeithir gan hyn mae hemlog y gorllewin a’r ffynidwydd Douglas. Mae Ymdeithiwr y Pinwydd wedi’i ddarganfod ar fewnforion coed sy’n dod i mewn i’r DU ac mae rheoliadau newydd wedi’u cyflwyno ar fewnforio rhai mathau o goed conwydd.

O ran rheoli plâu a chlefydau, mae Tyfu Cymru yn gwahodd cyfranogwyr i fynd ar ymweliad safle â meithrinfeydd Bransford Webbs. Mae Bransford Webbs yn arbenigwyr ar Reoli Plâu a Chlefydau’n Integredig mewn planhigion addurnol. Efallai yr hoffech chi ddal i fyny ar y daith fideo rithwir o’r feithrinfa sydd ar gael ar Hyb Gwybodaeth Tyfu Cymru ynghyd â chyfoeth o weminarau a thaflenni ffeithiau eraill ar IPDM i chi adeiladu eich arbenigedd.