Rhaid i chi gofrestru fel defnyddiwr Cynhyrchion Diogelu Planhigion erbyn 22 Mehefin 2022

Os ydych chi’n fusnes, yn sefydliad neu’n unig fasnachwr sy’n defnyddio Cynhyrchion Diogelu Planhigion a Chymhorthion yng ngwledydd Prydain (Lloegr, yr Alban a Chymru), mae gennych rwymedigaeth gyfreithiol i gofrestru erbyn 22 Mehefin 2022 i gydymffurfio â’r rheoliadau.

Mae angen i chi gofrestru os ydych:

  • yn defnyddio Cynhyrchion Diogelu Planhigion proffesiynol ac unrhyw Gymhorthion fel rhan o’ch gwaith
  • yn cael Cynhyrchion Diogelu Planhigion proffesiynol ac unrhyw Gymhorthion wedi’i ddefnyddio gan drydydd parti fel rhan o’ch gwaith mewn amaethyddiaeth, garddwriaeth, amwynderau neu goedwigaeth.

Defnyddir Cynhyrchion Diogelu Planhigion i reoli plâu, chwyn a chlefydau. Mae enghreifftiau’n cynnwys:

  • pryfladdwyr
  • ffwngleiddiaid
  • chwynladdwyr
  • molysgladdwyr
  • rheoleiddwyr twf planhigion

 

Dysgwch fwy am gofrestru yma: https://www.gov.uk/government/publications/professional-plant-protection-products-ppps-register-as-a-user