Dydd Iau, 27 Hydref 2022
Cynllun Datblygu Garddwriaeth:
Mae sector garddwriaeth fywiog yn uchel ar agenda Llywodraeth Cymru ar gyfer datblygu diwydiant amaethyddol cynaliadwy wrth iddo sicrhau ystod o fanteision amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd. Bydd cymorth yn anelu at gyflwyno materion allweddol, fel, datblygu cynaliadwy, hyfforddiant, gwella perfformiad busnes ac effeithlonrwydd, yn ogystal â gwella ansawdd ac enw da cynnyrch Cymreig yn gyson.
Mae'r cynllun Datblygu Garddwriaeth yn gynllun grant Cyfalaf sydd ar gael i gynhyrchwyr garddwriaethol masnachol presennol ledled Cymru. Nod y cynllun yw:
Agorodd y cynllun Datblygu Garddwriaeth cyntaf i gynhyrchwyr garddwriaethol presennol yn Ebrill 2022. Y dyddiad agor ar gyfer y ffenestr ymgeisio nesaf yw 5 Rhagfyr 2022 a bydd yn cau ar 10 Mawrth 2023. Gweler: https://llyw.cymru/cynlluniau-gwledig-dyddiadau-ymgeisio
Gweler isod y ddolen i’r ddogfen Canllawiau Datblygu Garddwriaeth:
https://www.llyw.cymru/cynllun-datblygu-garddwriaeth-ffenestr-2-llyfryn-rheolau-cyffredinol
Rydym yn argymell cofrestru ar gyfer cylchlythyr GWLAD am ddiweddariadau.
Gweld y rhestr lawn o gynlluniau sydd ar ddod